Bod yn recriwt newydd… sut olwg a theimlad sydd ar hynny?
Yn bwysig, dylech chi deimlo balchder aruthrol. Rydych chi'n cychwyn ar swydd wahanol.Rydych chi'n mynd i fod yn gweithio gydag eraill sydd wedi ymrwymo i wasanaethu’r cymunedau a’r bobl sy’n defnyddio ein rheilffyrdd ar gyfer busnes a phleser, gan sicrhau eu bod yn ddiogel bob dydd.
Ond nid yw’n dod yn hawdd, mae’n rhaid i chi EISIAU gwneud ‘y swydd’ a rhoi popeth o fewn eich gallu i fod yn Warchodwyr y Rheilffordd, sef yr hyn rydyn ni i gyd yn ei ddisgwyl gennych chi. Mae’r disgwyliad hwnnw’n dechrau cyn i chi hyd yn oed gerdded drwy’r drws yn Spring House, ein canolfan hyfforddi Genedlaethol yn Islington, Gogledd Llundain.
Yn yr wythnosau cyn eich dyddiad cychwyn, ystyriwch sut rydych yn mynd i drin a llwyddo yn yr ystafelloedd dosbarth ac ar loriau ymarfer Spring House. Mae’r dysgu’n dechrau o ddiwrnod 1 ac felly mae’n rhaid i chi fod yn barod i ‘fynd yn ôl i’r ysgol’ ac os nad ydych wedi bod mewn addysg ers misoedd neu flynyddoedd lawer, ystyriwch sut y gallech chi fynd ati i astudio. Mae’n fantais ceisio cysylltu â ffrindiau a theulu sydd wedi bod trwy addysg uwch neu leoliad addysg oedolion yn ddiweddar a phwyso arnynt am dechnegau astudio a mecanweithiau ymdopi ar gyfer astudio llawer o feysydd pwnc mewn cyfnod cymharol fach, efallai fod gennych chi rai eich hun y gallwch chi ddibynnu arnyn nhw a'u rhannu gyda'ch cyd-ddisgyblion hefyd.
Mae'r cwrs yn 20 wythnos o hyd ac mae'r amser yn mynd heibio, y gyfraith a deddfwriaeth, pwerau a gweithdrefnau a gwersi diogelwch swyddogion yn ddi-baid. Mae’n rhaid i chi fod yn barod i allu newid o addysgu un darn o ddeddfwriaeth i’r llall a dangos parodrwydd i roi’r ddamcaniaeth ar waith yn ystod asesiadau ymarferol trwyadl, ond hwyliog. Mae’r rhain yn cyfuno’r ddealltwriaeth a’r defnydd o’r wybodaeth gyda’r gallu i gadw’ch hun ac eraill yn ddiogel, cyfathrebu’n effeithiol wrth wneud penderfyniadau ar gyfer canlyniad addas o fewn ffiniau’r gyfraith a nodir ar eich cyfer.
Sut mae eich sgiliau cyfathrebu?
A ydych chi'n hyderus i siarad o flaen eraill, yn gallu cyflwyno newyddion a gweithdrefnau'r Heddlu fel y broses arestio ag awdurdod gan wybod y pwerau sydd gennych chi?
Oes gennych chi’r gallu i fod yn chwilfrydig, gofyn y cwestiynau anodd, bod yn ‘broffesiynol chwilfrydig’ ac edrych y tu hwnt i’r amlwg? Bydd yr holl nodweddion hyn yn eich helpu gyda'r dasg bwysig o ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed a dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell drwy gefnogi asiantaethau eraill a'r system cyfiawnder troseddol gyda'ch gwaith ymchwiliol, manwl wrth lunio ffeiliau achos ac adroddiadau cudd-wybodaeth.
Allwch chi ddangos tosturi a bod yn emosiynol ymwybodol o'r rhai rydych chi'n delio â nhw a'r sefyllfaoedd maen nhw ynddyn nhw? Efallai mai chi yw'r person hwnnw sy'n gallu helpu pan nad yw neb arall yn gallu neu'n fodlon gwneud hynny. Mae eich rhyngweithiadau'n mynd yn bell a gallan nhw fod yn gadarnhaol iawn os ydyn nhw'n cael eu gwneud yn dda.
Ble mae eich gwerthoedd moesol a moesegol? Rydyn ni wedi cael ein siomi gan lawer o gydweithwyr nad ydyn nhw'n cynnal y gwerthoedd moesegol a moesol sydd mor uchel eu parch mewn plismona, dydyn ni ddim am weld ymddygiad yr unigolion hynny’n cael ei ailadrodd wrth i ni geisio ailadeiladu ac adennill ymddiriedaeth gan y rhai rdym yn eu gwasanaethu a’u hamddiffyn, wedi'r cyfan, rydyn ni'n plismona trwy ganiatâd ac mae angen iddo aros fel hynny ac felly mae angen y swyddogion cywir arnon ni i wneud i hyn ddigwydd.
Mae bod yn Spring House a bod yn recriwt newydd yn un o’r adegau gorau o fod yn swyddog, rydych chi’n dysgu byd hollol newydd o gyfraith a threfn mewn amgylchedd dysgu diogel, sicr a chynhwysol ymhlith eraill sy’n teimlo’n debyg i chi am yr yrfa rydych chi ar fin ymgymryd â hi.Defnyddiwch yr 20 wythnos i wneud camgymeriadau, dysgu o'r camgymeriadau hynny a thyfu i rôl Cwnstabl gyda hyder a sicrwydd felly pan fyddwch chi'n cyrraedd eich postiadau byddwch chi'n dechrau ar y dechrau ac yn dod yn ased i'r BTP a'ch holl gydweithwyr.
Byddwch chi bob amser yn cael eich cefnogi yn eich dysgu yn Spring House gyda thîm hyfforddi recriwtio ymroddedig, diwyd a brwdfrydig iawn y tu ôl i chi, yn eich annog ac yn rhoi'r holl offer sydd eu hangen arnoch i allu graddio o'r Rhaglen Hyfforddiant Recriwtio yn barod i fynd i mewn i gam nesaf eich dysgu gyda'ch tiwtor penodedig. Mae’r amgylchedd dysgu yn gynhwysol ac yn gefnogol ac ymdrinnir ag unrhyw heriau yn y gweithle neu heriau personol a all godi yn gyfrinachol ac â thosturi mewn modd amserol er mwyn sicrhau nad yw eich profiad dysgu a’ch gallu i lwyddo yn cael eu peryglu.
Mae'n bwysig cofio fodd bynnag mai chi, fel y swyddog myfyrwyr, sy'n gyfrifol am fod y gorau y gallwch chi fod!Mae'r gefnogaeth yno gan y tîm hyfforddi recriwtiaid ac eraill yn y sefydliad o safbwynt iechyd a lles a dysgu, ond chi sy'n gyrru'r canlyniadau gorau a'ch profiad dysgu.Mae angen i chi ymdrechu i fod y gorau y gallwch chi fod, defnyddio bob dydd i ddysgu, dod yn well, dod yn fwy hyderus a sicr yn y rôl y byddwch chi'n ei chymryd 20 wythnos yn ddiweddarach. Cofiwch, mae pob diwrnod yn ddiwrnod ysgol, a dydyn ni ddim yn rhoi’r gorau i ddysgu a bydd camgymeriadau’n cael eu gwneud ond bydd aelodau’r cyhoedd yn disgwyl i chi allu cyflawni eich rôl fel Cwnstabl Heddlu yn gymwys, boed yn wythnos 1 neu flwyddyn 35. Sut rydych chi'n dysgu o'r camgymeriadau hynny, pam y gwnaethoch chi'r penderfyniad a wnaethoch, a fydd yn eich mowldio fel plismon ac yn caniatáu i chi ffynnu yn eich gyrfa blismona.
Mae’r cwrs yn cynnwys ymagwedd gymysg, gofynnir i chi astudio o bell yn ogystal ag yn Spring House, felly efallai y bydd rhaid i rai ohonoch chi dreulio amser oddi cartref o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond peidiwch â phoeni, darperir ar gyfer eich gofal yn ein hystafelloedd pwrpasol yn The Helix yn Wembley. Pan nad ydych chi yn Spring House byddwch yn barod, trefnwch ardal astudio addas a’r ‘gofod’ i allu neilltuo’r amser sydd ei angen i gyflawni’r canlyniadau gorau i chi. Rhoddir cefnogaeth gan y BTP, felly sicrhewch eich bod yn siarad â recriwtio os bydd materion o'r math hwn yn codi.
Credwch chi fi, Plismona yw’r swydd orau yn y byd, efallai y byddwch chi'n gwneud y penderfyniad hwnnw i ymuno â’r swydd orau yn y byd, os gwnewch chi hynny, peidiwch â’i wastraffu.
Pob lwc yn eich dyheadau i ymuno â mi a llawer o bobl eraill i amddiffyn y cyhoedd ar rwydweithiau rheilffyrdd y DU.