Close

Diogelu pob taith

Cwrdd â'r Hyfforddwr Gyrru: Debs Aspray

09/09/2024

Fy enw i yw PC Debs Aspray, ac rwy’n un o Hyfforddwyr Gyrru BTP, wedi fy leoli tu allan i Fanceinion.


Fe ddes i'n Hyfforddwr Gyrru gyda'r Heddlu ym mis Hydref 2022, yn dilyn fy ngyrfa gychwynnol fel Swyddog Ymateb, yn Leeds a Manceinion. Fe wns i ymuno â BTP yn 2017 ac yn 2019 fe wnes i gwblhau fy Nghwrs Ymateb Cychwynnol gyda Heddlu Sir Gaerhirfryn, ond gyda Hyfforddwr BTP, PS0633 Tim Ross.


Ar y cwrs pythefnos anhygoel hwn y gwnes i ganfod gwerthfawrogiad enfawr o'r sgil sy'n gysylltedig â gyrru ymateb a sylweddolais, pe byddai'r cyfle byth yn codi, ei fod yn rhywbeth yr hoffwn i ei ddilyn ymhellach yn fy ngyrfa. Fodd bynnag, doeddwn i ddim yn credu mewn gwirionedd y byddai gan BTP fyth eu Huned Hyfforddi Gyrwyr eu hunain. Felly, wrth chwarae dadleuydd y diafol fe wnes i gadw i fyny â fy sgiliau newydd yn y gobaith pell y byddai Uned Hyfforddi Gyrwyr BTP byth yn amlygu ei hun, ac wyddoch chi beth…


Mae fy rôl yn cynnwys rhedeg Cyrsiau Ymateb Cychwynnol 3 wythnos ar gyfer hyd at dri swyddog ar y tro. Yn ystod eu hyfforddiant mae'n rhaid iddynt gwblhau a bodloni 16 o wahanol gymwyseddau, llwyddo mewn arholiad ysgrifenedig ar Grefft y Ffordd a Rheolau'r Ffordd Fawr (marc pasio 86%), wedi'u dilyn gan brawf gyrru terfynol (gan hyfforddwr arall).


Fy rôl allweddol yw arwain, meithrin, cefnogi, addysgu a mentora dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau gofynnol i basio pob cymhwysedd, a’r ddau arholiad. Rhoddodd fy mhrofiad addysgu blaenorol brofiad dw i wedi adeiladu arno ers ymuno â'r Uned Hyfforddi Gyrwyr.


Dw i hefyd yn cael cefnogi swyddogion o bob rheng. Er enghraifft, galla i gofio’r Prif Uwch-arolygydd Casey yn arbennig. Roedd yn anrhydedd i mi ei arwain trwy ei sesiwn gloywi. Roeddwn i'n gobeithio iddo basio, ac mae'n wir yn yrrwr arbennig o dda.
Fel rhywun sy’n niwroddargyfeiriol, gall heriau amrywio, ar ben ymrwymiadau’r rôl sydd gen i fel hyfforddwr. Fodd bynnag, pe byddwn i’n nodi un o’r prif heriau yn fy rôl, hon fyddai, gallu addasu fy arddull addysgu i dri unigolyn unigryw. Mae gennym dair wythnos i gyflwyno'r cwrs. Tair wythnos i ddod i adnabod y dysgwyr, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, addasu ein harddulliau addysgu i bob dysgwr, i'w cael i gyd yn llwyddiannus i'r lefel gywir o gysondeb erbyn diwedd y drydedd wythnos a'u gyrru olaf. Mae’n gwrs hynod ddwys, felly mae’n bwysig cael y cydbwysedd cywir a diwallu anghenion yr unigolion.


Byddai'n rhaid i mi ddweud mai fy uchafbwyntiau personol/proffesiynol wrth gwrs yw gweld swyddogion yn gwneud y twf personol, y datblygiad, a'r cynnydd a wnânt yn ystod eu cyrsiau, ynghyd â'u canlyniadau llwyddiannus. Mae wir yn fraint i weld cymaint yn mynd o lefelau ansicrwydd, hyd at basio eu gyrru terfynol, o fewn dim ond 3 wythnos. Gall y cynnydd fod yn rhyfeddol ac yn brofiad sy’n rhoi cymaint o foddhad i’w weld, a gwybod fy mod i wedi cael yr effaith gadarnhaol honno ar rywun arall, er gwell. Mae'r penderfyniad clir, yr ymroddiad, a'r proffesiynoldeb y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ei ddangos, mae'n wych i'w weld ac mae hefyd yn fy helpu i, pan ydyn nhw'n gwneud yr holl ymdrech honno.


Nawr ar yr ochr arall i hynny, pe byddwn i'n dweud beth oedd fy uchafbwyntiau personol fy hun; fel y crybwyllwyd yn flaenorol, rwy'n niwroddargyfeiriol, felly mae'r holl ddysgu dw i wedi gorfod ei wneud i basio'r cyrsiau amrywiol wedi bod yn heriol iawn. Roeddwn i'n falch i basio fy Nghwrs Gyrru Uwch 4 wythnos gyda Heddlu Sir Gaerhirfryn yn ôl yn 2021 ac yna fy PDI 6 wythnos (cwrs hyfforddwyr) gyda Heddlu Swydd Northampton, yn 2022, a oedd yn farc pasio o 96% ar bapur â 100 o gwestiynau ar Grefft y Ffordd a Rheolau'r Ffordd Fawr. Felly, i mi, y gwaith paratoi, y penderfyniad, yr ymroddiad, a'r gwaith heriol cyffredinol, er fy mod i'n ddyslecsig, dyna sydd wedi'i olygu i gyrraedd lle'r ydw i.


Yn olaf, nes i mi ymuno â'r Uned Hyfforddi Gyrwyr, nid oedd unrhyw hyfforddwyr gyrru benywaidd BTP wedi bod o'r blaen, felly dw i wedi cael fy anrhydeddu wrth baratoi'r ffordd ymlaen i swyddogion benywaidd eraill. Felly, mae hwnnw wedi bod yn uchafbwynt personol ac anhygoel arall hyd yma.


(Mae dau ohonon ni ar y tîm nawr, sy’n wych!)


Rwy'n ffodus fy mod i'n caru fy swydd, ac mae hynny'n amlwg yn fy addysgu a'm cyflwyno. Hoffwn i feddwl bod fy mhersonoliaeth gadarnhaol ac optimistaidd yn addas ar gyfer fy rôl, ac o’r adborth a gefais dros y 2 flynedd ddiwethaf mae wedi adlewyrchu hyn. Dw i wedi cael cymaint o sylwadau hael sydd wedi gwneud i mi deimlo'n hynod o ostyngedig wrth eu darllen.


Dw i’n cael fy ystyried yn eiriolwr cadarnhaol ar gyfer yr Uned Hyfforddi Gyrwyr ac yn cynrychioli pwy ydyn ni, a dw i’n ymfalchïo’n fawr yn hynny. Felly, os galla i wneud unrhyw beth yn ystod fy amser, sydd gennyf gyda fy nysgwyr, mae'n hyrwyddo cefnogaeth, dealltwriaeth, anogaeth, ysbrydoli ein gilydd yn gadarnhaol, annog hunanymwybyddiaeth a datblygiad personol. Hoffwn iddynt adael fel swyddog mwy hyderus a medrus i gyflawni eu dyletswyddau ac amddiffyn ein haelodau o’r cyhoedd a’n staff.


Rhywun y bydda i bob amser yn edrych i fyny ato, ac y credaf iddo gael effaith hynod gadarnhaol arnaf fyddai fy nhiwtor cychwynnol PC Kevin Webster, yn ôl yn 2017. Addasodd ef ei arddull dysgu i mi. Roedd yn dawel ac yn amyneddgar iawn. Y math o diwtor roeddwn i'n anelu at fod fy hun. Felly, os galla i ddefnyddio'r hyn a ddysgodd i mi ar gael effeithiau cadarnhaol ar eraill, byddai hynny wedi dod oddi wrtho ef.
Byddwn i'n argymell rôl Hyfforddwr Gyrru hirdymor yn fawr i eraill, yn sicr. Yn gyntaf, mae'r sgiliau a ddatblygwch yn hynod o hwyl, os nad yn ddwys iawn, yn llawn adrenalin ac yn gofyn llawer, ond yn hollol werth chweil! Yn ail, mae fy ngoruchwyliaeth uniongyrchol wedi bod yn hynod gefnogol ac yn eich canmol, diolch, a’ch cydnabod yn rheolaidd am eich gwaith caled, a all fod yn brin mewn rhai rolau swydd.


Wrth symud ymlaen, mae gen i gymaint mwy i'w gyflawni gyda fy nghwrs Hyfforddwyr Uwch ac IPP (Ymlid Cam Cychwynnol) ym mis Medi 2024, cwrs ADI, cwrs 4x4, a gobeithio symud ymlaen o hynny wedyn. Felly, mae cymaint o ddatblygiad a photensial i’w wneud yn y rôl hon. Dw i wir methu aros! Felly rhaid dweud, mae'n anrhydedd ac yn fraint cael y swydd dw i'n ei gwneud, a byddwn i'n ei hargymell i unrhyw swyddog.

Cliciwch yma am restr o wefan wehyddu ar eu gwaith ar hyn o bryd.