Dechreuodd fy nhaith blismona pan ymunais â Heddlu Northumbria yn 2010 fel Cwnstabl Gwirfoddol ac nid oeddwn erioed wedi ystyried yr heddlu fel gyrfa mewn gwirionedd. Ar y pryd roeddwn i'n gweithio ym maes rheoli manwerthu i fanwerthwr rhyngwladol ac wedi bod yn gwneud hyn ers i mi adael y brifysgol yn 2004 ar ôl cwblhau fy ngradd meistr mewn rheolaeth ym Mhrifysgol Durham. Roedd bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn rôl gyffrous a gwerth chweil i mi lle nad oeddech chi byth yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Gan wirfoddoli ar dîm ymateb mewn ardal brysur iawn yn Newcastle, mynychais bopeth o draffertion domestig, byrgleriaethau, lladradau, gwrthdrawiadau ar y ffyrdd i farwolaethau sydyn. Cefais fy hun yn gwneud mwy a mwy o sifftiau fel Cwnstabl Gwirfoddol a sylweddolais yn fuan ei fod yn well gennyf blismona na fy ngyrfa amser llawn ac felly yn 2014 des i'n Gwnstabl Heddlu llawn amser gyda Heddlu Northumbria.
Fer wnaeth fy nghyfnod fel Cwnstabl Heddlu roi cyfleoedd a phrofiadau gwych i mi na allwch eu cael mewn gyrfaoedd eraill. Ar ôl cwblhau fy nghyfnod prawf o ddwy flynedd, fe wnes i hyfforddi i fod yn yrrwr ymateb golau glas, yn yrrwr ymlid cam cychwynnol, yn swyddog Taser, ac yn swyddog trefn gyhoeddus lefel 2 (heddlu terfysg fel rydyn ni'n cael ein hadnabod yn gyffredin!). Treuliais y rhan fwyaf o fy amser fel Cwnstabl Heddlu ar blismona ymatebol gan ymateb i ac ymdrin â galwadau 999, gan helpu pobl yn eu hamser o angen. Fe wnes i hyd yn oed ymddangos ar raglen deledu Sky yn edrych ar waith yr heddlu yn y Gogledd Ddwyrain - pwy fyddai wedi meddwl y byddai bod yn Swyddog Heddlu yn arwain at 15 munud o enwogrwydd ar y teledu?
Treuliais beth amser ar dîm cymdogaeth Canol Dinas Newcastle a'm rôl oedd gweithio gyda'r gymuned leol i fynd i'r afael â mater defnyddio cyffuriau a digartrefedd yn yr ardal. Roedd hon yn rôl heriol ond gwerth chweil i mi, lle teimlais fy mod wedi gwneud rhai gwelliannau diriaethol i'r ardal lle roeddwn i'n gweithio. Yn ystod hyn oll cwblheais fy arholiad i ddod yn Rhingyll ac yn 2019 cefais ddyrchafiad dros dro i fod yn Rhingyll y Ddalfa, gan weithio yn uned dalfa'r llu yn Sunderland. Yn 2020 daeth cyfle wedyn i ymuno â Heddlu Cleveland fel Rhingyll parhaol ac felly treuliais ddwy flynedd yno fel rhingyll Plismona Ymatebol nes i mi weld hysbyseb ar gyfer BTP a oedd yn cymryd Rhingylliaid i'w llu yn Newcastle.
Ym mis Mehefin 2022 ymunais â BTP Newcastle fel Rhingyll Ymateb yn gwasanaethu Gogledd Ddwyrain y wlad a oedd yn bleserus iawn i mi. Roedd amgylchedd BTP yn achosi llawer llai o bwysau na gweithio ym maes Plismona'r Swyddfa Gartref ac roeddwn i'n teimlo bod gennym amser i wneud gwaith da gyda digwyddiadau y cawsom ein galw iddynt. Fe wnes i ganfod yn gyflym iawn fod BTP yn ymdrin â bron iawn popeth rydych yn delio ag ef yn heddluoedd y Swyddfa Gartref gyda rhai digwyddiadau ychwanegol megis tresmasu ar y rheilffordd, lladradau ceblau, a marwolaethau'r rheilffordd wedi’u hychwanegu at y cymysgedd.
Roeddwn i'n eithaf pryderus ynghylch symud draw ar y dechrau gan fy mod i'n gwybod bod BTP yn llu arbenigol ac nid oeddwn i100% yn siŵr am y mathau o bethau yr oedd BTP yn delio â nhw. Roedd gen i lawer o feddyliau gan gynnwys a fyddwn i'n cael cadw fy sgiliau arbenigol megis gyrru ymatebol, Taser a Threfn Gyhoeddus? A fydda i oddi cartref ar gyfer fy hyfforddiant? A fydd cyfleoedd i gael dyrchafiad yn y dyfodol?
Roedd y tîm recriwtio’n hynod gymwynasgar a chefnogol wrth i mi symud ar draws ac roeddwn i'n gallu cadw fy holl sgiliau ar ôl i mi gwblhau fy nghwrs trosglwyddo 2 wythnos yn Llundain yn ogystal â sesiynau gloywi ar gyfer pob un o’m sgiliau. Dw i wedi gallu defnyddio’r sgiliau hyn ac wedi cael fy defnyddio ar ddyletswyddau trefn gyhoeddus mewn digwyddiadau megis Carnifal Notting Hill yn Llundain a gemau pêl-droed hefyd. Dw i wir yn mwynhau'r amrywiaeth a'r cyfleoedd i weithio mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd.
Yn 2022 fe wnes i gwblhau fy arholiad Rhingyll i Arolygydd ac yn 2024 ces i ddyrchafiad i fod yn Arolygydd ac rwyf bellach yn gweithio fel Swyddog ar Ddyletswydd yn cwmpasu holl Is-adran y Penwynion ar gyfer digwyddiadau plismona ymatebol ar rota shifft 24/7. Mae'r rôl hon yn un heriol ac mae wedi rhoi'r cyfle i mi arwain yr ymateb cychwynnol a goruchwylio ystod o ddigwyddiadau gan gynnwys marwolaethau ar y rheilffordd, ymosodiadau difrifol, digwyddiadau domestig, ac ymgais i lofruddio. Dw i'n ceisio treulio cymaint o amser â phosibl allan ar batrôl gan fy mod yn mwynhau ymgysylltu â'r cyhoedd ac arestio troseddwyr cymaint ag y gwnes i ar ddiwrnod un. Mae bod yn Swyddog ar Ddyletswydd yn rhoi'r hyblygrwydd i mi ymweld â gorsafoedd ym mhob rhan o'r is-adran ac felly dw i'n cael cyfarfod â swyddogion a'r cyhoedd o bob rhan o'r wlad.
Fe wnes i ganfod bod y broses o drosglwyddo i'r llu yn llyfn ac wedi'i rheoli'n dda ond cymerodd ychydig fisoedd i'w chwblhau oherwydd y gwiriadau amrywiol y mae'n rhaid eu gwneud. Byddwn i'n argymell gweithio i BTP i unrhyw swyddog profiadol sy'n chwilio am her newydd mewn amgylchedd plismona gwahanol. Roedd trosglwyddo i BTP yn benderfyniad da i mi gan fy mod i wedi dysgu llawer o sgiliau newydd ac dw i wedi cael cyfleoedd i wneud sawl cwrs datblygu arweinyddiaeth a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae gen i gydbwysedd gwaith/bywyd llawer gwell yn gweithio i BTP yn ogystal â llawer o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd mewn meysydd megis rheoli digwyddiadau mawr a threfn gyhoeddus.
Cliciwch yma am restr o wefan wehyddu ar eu gwaith ar hyn o bryd.