Close

Diogelu pob taith

Daniel Nagle a'i daith fel Triniwr Cŵn Ffrwydron gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain

15/10/2024

Pan ydw i'n dweud wrth bobl fy mod yn driniwr cŵn chwilio ffrwydrol gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP), mae eu hymatebion fel arfer yn gymysgedd o barch a chwilfrydedd. Dydy hi ddim yn swydd y mae llawer o bobl yn gwybod llawer amdani, ond mae’n un rwy’n hynod falch ohoni. Bob dydd, rwy’n gweithio ochr yn ochr â’m partner pedair coes i helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac er y gall fod yn feichus, mae hefyd yn un o’r swyddi mwyaf gwerth chweil a gefais erioed. Dyma gipolwg ar fy myd fel triniwr cŵn.

Y Dyddiau Cynnar: Dod yn Driniwr Cŵn

 

Dechreuodd fy nhaith i’r yrfa hon gyda chariad at anifeiliaid, yn enwedig cŵn, ac awydd i wasanaethu’r gymuned. Dw i bob amser wedi cael fy swyno gan y cwlwm rhwng bodau dynol ac anifeiliaid, yn enwedig mewn sefyllfaoedd dan bwysau mawr. Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio yn y BTP mewn rolau amrywiol, gwnes i gais am swydd triniwr cŵn. Mae'n anodd iawn mynd i mewn - megis dechrau yw profion ffitrwydd, cyfweliadau, a phythefnos o asesiadau ymarferol gan gynnwys arholiad. Ond ar ôl i mi gael fy nerbyn, roeddwn i'n gwybod fy mod i ar fin dechrau ar antur hollol newydd.

Mae hyfforddi i fod yn driniwr cŵn yn drylwyr. Dydyn ni ddim ond yn dysgu sut i ofalu am ein cŵn a’u trin ydyn ni; rydyn ni'n eu hyfforddi i ganfod ffrwydron, ymateb i orchmynion mewn amgylcheddau pwysau uchel, ac aros yn ddigynnwrf yn wyneb perygl. Mae fy nghi Axel - yn Springador, ac fel y mwyafrif o gŵn gwaith, mae'n llawn egni ac yn llawn cymhelliant. O’r eiliad y cyfarfûm ag ef yn 8 wythnos oed, roeddwn i'n gwybod y bydden ni'n dîm cadarn

Fe wnaethon ni dreulio misoedd yn hyfforddi gyda'n gilydd o oedran ci bach, gan feithrin ymddiriedaeth a dysgu cyfathrebu mewn ffyrdd y mae'r rhai sy'n trinwyr cŵn yn unig yn eu deall. Mae'r bartneriaeth rhwng triniwr a'u ci yn wirioneddol arbennig. Mae angen i chi ymddiried yn llwyr yng ngreddfau eich ci, ac mae angen iddyn nhw ymddiried y byddwch yn eu harwain yn ddiogel trwy bob her. Axel yw un o'n cŵn ieuengaf i'w drwyddedu.

 

Diwrnod ar y Swydd: Anrhagweladwy a Gwobrwyol

Nid oes dau ddiwrnod byth yr un fath. Un diwrnod efallai y bydda i'n patrolio gorsaf brysur yn Llundain, gan sicrhau nad oes unrhyw becynnau amheus yn cael eu gadael heb neb yn gofalu amdanynt. Y diwrnod nesaf, gallen ni fod yn ymateb i fygythiad penodol neu'n cael ein galw allan i ddigwyddiad mawr fel priodasau brenhinol, angladdau a Choroniadau. Rydyn ni hefyd yn darparu cymorth i bobl bwysig fel swyddogion y Llywodraeth o'r DU a thramor. Gan gynnwys cynadleddau pleidiau'r Llywodraeth ac uwchgynadleddau'r G8.

Gallwn ni ddechrau ein sifft drwy chwilio am orsafoedd yn rhagweithiol gan gynnwys mynedfeydd ac ardaloedd traffig uchel. Tra fy mod i'n sganio dodrefn rheilffordd gan gynnwys mannau eistedd a mannau bregus, mae trwyn Axel yn gweithio goramser, gan arogli unrhyw olion o ffrwydron. Mae ei ffocws yn anhygoel - mae wedi'i hyfforddi i anwybyddu gwrthdyniadau, a chanolbwyntio ar ganfod presenoldeb ffrwydron. Mae Axel yn canolbwyntio ar ei wobr a bydd yn clirio ardal, llwybr neu faes parcio yn hyderus.

Un o heriau mwyaf ein swydd yw bod yn wyliadwrus heb fynd yn orbryderus. Yn aml dydy’r cyhoedd ddim yn sylweddoli’r risgiau y mae trinwyr canfodu ffrwydron yn eu rheoli bob dydd, ond mae’n rhaid i ni fod yn bwyllog, yn ddigyffro, ac yn hyderus yn ein gwybodaeth a’n gallu i weithredu’n gyflym os nad yw rhywbeth yn iawn. Yn yr eiliadau hynny, rwy'n dibynnu ar fy ngwybodaeth ac ar allu Axel i wneud ei swydd - a fy swydd fy hun - i gadw ffocws a gwneud amgylchedd diogel.

Mae adegau pan yw ein gwaith yn teimlo'n ddwysach nag arfer. Mae digwyddiadau mawr, megis digwyddiadau seremonïol neu gynulliadau gwleidyddol, yn aml yn gofyn am bresenoldeb diogelwch sylweddol. Yn yr achosion hyn, nid yn unig rydyn ni'n gwirio lleoliad unwaith ond dro ar ôl tro, gan sicrhau bod pob modfedd wedi'i gwmpasu, ac nad oes unrhyw fygythiad sy'n mynd heb i ni sylwi arno. Pan gawn ni alwad am becyn amheus, mae'r adrenalin yn cicio i mewn. Mae iaith corff Axel yn dweud popeth sydd angen i mi ei wybod. Os bydd ei ymddygiad yn newid, bydda i'n ei helpu i weithio ei drwyn i'r ffynhonnell. Bydda i'n dilyn gweithdrefnau i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Diolch byth, mae'r rhan fwyaf o ddyddiau'n mynd heibio heb ddigwyddiad. Axel yw fy ffrind gorau ac rwy'n gwneud yn siŵr fy mod i'n ei ddifetha gyda gogleisiau bol a danteithion.

Rydy ni'n patrolio gorsafoedd yn rheolaidd ochr yn ochr â swyddogion arfau tanio a swyddogion canfod ymddygiad i atal y rhai sydd am achosi niwed i ni. Mae’r eiliadau hynny'n fy atgoffa pa mor hanfodol yw ein rôl o ran atal terfysgaeth.

Y Cwlwm Rhwng Triniwr a Chi

 

Un o rannau gorau'r swydd hon yw'r berthynas dw i wedi'i meithrin gydag Axel. Nid perthynas waith yn unig mohono, mae wedi bod yn gi bach i mi ers 8 wythnos oed ac mae bellach yn 3 oed - mae'n gwlwm sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, teyrngarwch a pharch at ein gilydd. Mae'n dibynnu arna i am arweiniad, gofal, a sicrwydd, ac rwy'n dibynnu arno ef am ei reolaeth, ei system a'i allu i weithio i ffwrdd oddi wrthyf yn ddiogel. Mae ganddo synnwyr arogli perffaith a ffocws diysgog wrth weithio am ei wobr. Ar ddiwedd diwrnod hir, rwy'n mynd ag ef adref, lle mae'n trawsnewid o fod yn gi gwaith hyfforddedig iawn i fod yn gydymaith hamddenol a chariadus. Mae ei weld wedi ymlacio gartref ar ôl sifft hir yn gwneud i mi sylweddoli pa mor arbennig yw ein partneriaeth.

Yr Heriau

Ond dydy bod yn driniwr cŵn ddim yn hudoliaeth i gyd, serch hynny. Gall yr oriau fod yn hir, a'r gwaith yn feichus yn gorfforol ac yn feddyliol. Rydyn ni'n wynebu tywydd garw, torfeydd prysur, ac amgylcheddau straen uchel. Ond mae'r gwobrau'n llawer mwy na'r anawsterau. Mae gwybod y gall ein presenoldeb atal niwed a helpu i amddiffyn pobl yn gwneud pob her yn werth chweil.

Mae hefyd ochr emosiynol i weithio mor agos gydag anifail. Fydd Axel ddim yn gweithio am byth ac mewn rhai achosion maen nhw'n ymddeol yn gynnar. Efallai y bydd rhaid i mi ffarwelio â fy mhartner mewn troseddu pe byddwn i'n symud i ffwrdd o'r adran cŵn. Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn dda am ganiatáu i drinwyr gadw eu cŵn pan ydyn nhw'n cwblhau eu gwasanaeth llawn.

Dyma'r realiti y mae pob triniwr cŵn yn ei wynebu, ac nid yw'n un hawdd. Ond am y tro, rydyn ni'n dîm, a dw i'n ddiolchgar am bob diwrnod rydyn ni'n cyrraedd y gwaith ochr yn ochr.

Syniadau Terfynol

 

Mae bod yn driniwr cŵn ffrwydron gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn fwy na swydd yn unig; mae'n alwedigaeth. Mae'n heriol, yn gyffrous, ac weithiau'n straen, ond fyddwn i ddim yn ei newid am unrhyw beth. Mae’r cwlwm rwy’n ei rannu gydag Axel, yr ymdeimlad o bwrpas a gaf wrth helpu i amddiffyn y cyhoedd, a’r wybodaeth ein bod yn gwneud gwahaniaeth yn fy nghadw i’n llawn cymhelliant.

Bob tro mae Axel yn codi arogl, bob tro rydyn ni'n cwblhau chwiliad llwyddiannus, dw i'n cael fy atgoffa pam y dewisais y llwybr hwn. Ac ar ddiwedd y dydd, pan rydyn ni wedi gorffen ein sifft ac mae Axel yn gorffwys yn hapus, dw i'n teimlo ymdeimlad aruthrol o falchder yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Wedi’r cyfan, ni all pawb ddweud bod ganddyn nhw swydd lle maen nhw’n gweithio gyda’u cyfaill gorau.

 

Categori: Dogs Unit