Close

Diogelu pob taith

Cynhwysiant ac amrywiaeth.

Mae ein staff yn ein gwneud yn gryfach.

Nod Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yw bod yn fwy cynrychioliadol o'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Mae BTP yn deall sut mae amrywiaeth ein gweithlu yn effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd y gwasanaeth rydym yn ei gynnig i'n cymunedau a'n partneriaid. Rydym yn cydnabod sut mae pob un aelod o staff, Swyddog Heddlu a gwirfoddolwr yn dod ag ystod o sgiliau, profiadau a gwybodaeth arbenigol sy'n ein cefnogi i fod yn warcheidwaid y Rheilffordd. Mae'r sgiliau hyn yn cael eu cyfoethogi ag amrywiaeth, felly rydyn ni'n cefnogi ein gweithlu yn cynnwys y rhai sydd â gwahaniaethau o ran hil, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ffydd, ac oedran. Bydd cyflawni gweithlu modern a chynhwysol nid yn unig yn gwella ein galluoedd datrys problemau a'n gallu i aros yn arloesol, ond hefyd yn gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r rhai sy'n defnyddio'r rheilffordd o amrywiaeth o gymunedau. Trwy gyflogi unigolion ag ystod o sgiliau iaith, mae hefyd yn caniatáu i ni gyfathrebu'n well gan gefnogi ein nodau o gynyddu ymddiriedaeth a dealltwriaeth ymhlith pawb.

Yma yn BTP rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein gweithle mor gynhwysol ag y gall fod a bod popeth a wnawn yn helpu ein pobl i deimlo'n fwy diogel, hapusach, ac yn fwy cynhyrchiol yn y gwaith. Rydyn ni am i bawb deimlo y gallan nhw ddod â'u holl hunan i'r gwaith, sy'n sicrhau bod gennym ddiwylliant yn y gweithle sy'n canolbwyntio ar berthyn a chefnogaeth, fel y gallwn ni i gyd ffynnu yn ein gyrfaoedd waeth beth fo'n rhywedd, hunaniaeth, cefndir neu ddiwylliant.

Rydyn ni'n gwybod mai ein hamrywiaeth feddwl yw'r hyn sy'n ein gwneud yn gryfach. Dyma pam rydyn ni am sicrhau bod ein gweithle mor gynhwysol ag y gall fod a gweithredu camau cadarnhaol i'n helpu i gyflawni hyn. 

Cynllun Amrywiaeth

Rydym yn falch ein bod wedi cyflawni:

Disability Confident Logo            Menopause Friendly Employer Logo

Os hoffech chi ddysgu rhagor cysylltwch â ni ar lets-talk@btp.police.uk

Ein cymdeithasau/rhwydweithiau cymorth

Rydym yn falch o hyrwyddo ein cymdeithasau cymorth. Mae'r rhain yn rhwydweithiau o gyflogeion sy'n ymuno fel cymuned yn y gweithle yn seiliedig ar hunaniaeth, cefndir, diwylliannau neu brofiadau bywyd tebyg a rennir.

Mae'r rhwydweithiau hyn yn rhoi lle diogel i bob un o'n cyflogeion lle y gallant siarad yn agored ac yn onest am faterion sy'n bwysig i'r rhan fwyaf ohonynt.

Mae pob un o'r rhwydweithiau (y cyfeirir atynt fel Cymdeithasau Cynorthwyo Cyflogeion) hefyd yn cydweithio er mwyn sicrhau bod pob aelod o'n staff yn cael y cymorth cywir. Rydym yn deall bod pawb yn wahanol ac, felly, mae'n bwysig i'n rhwydweithiau bod ganddynt gysylltiadau cryf â'i gilydd er mwyn gwneud yn siwr y gall pawb gael cymorth ni waeth pwy ydynt.

Y Rhwydwaith Gallu

Mae'r Rhwydwaith Gallu yn cefnogi cyflogeion ag anabledd neu gyflwr sy'n effeithio ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae'r rhwydwaith hefyd yn cefnogi'r rhai sy'n gofalu am ddibynyddion ag anableddau.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas yr Heddlu Mwslimaidd (AMP)

Mae'r AMP yn codi ymwybyddiaeth ac yn meithrin dealltwriaeth o faterion Islamaidd ym mhob rhan o’r Heddlu, gan dynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder, rhoi cyngor ac arweiniad ar bolisïau a gweithdrefnau ac annog agweddau cadarnhaol tuag at Islam. Gall pob cyflogai ymuno â hi.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch anfon neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas yr Heddlu Cristnogol (CPA)

Mae'r CPA yn sefydliad cenedlaethol sydd â changhennau yn y rhan fwyaf o Heddluoedd ledled y DU, gan gynnwys yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae'n hyrwyddo ac yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol ymhlith cyflogeion Cristnogol.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas yr Heddlu Benywaidd (FPA)

Mae'r FPA yn codi ymwybyddiaeth ac yn meithrin dealltwriaeth o faterion sy'n effeithio ar fenywod yn yr Heddlu ac yn cynnig cymuned gynhwysol lle y gall menywod gysylltu â'i gilydd a thyfu'n broffesiynol ac yn bersonol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwn anfon neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas Sipsiwn, Roma a Theithwyr yr Heddlu (GRTPA)

Mae'r GRTPA rhoi fforwm cefnogol i'r holl gyflogeion o gefndir Sipsiwn, Roma neu Deithwyr lle y gallant rannu a thrafod y materion sy'n effeithio ar eu bywyd gwaith. Mae hefyd yn meithrin cydberthnasau da rhwng yr heddlu a chymunedau Sipsiwn, Roma neu Deithwyr drwy roi cyngor ac arweiniad i heddluoedd yn y DU.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas yr Heddlu Hindŵaidd (HPA)

Mae'r HPA yn cefnogi'r holl gyflogeion o gefndir Hindŵaidd ac yn darparu rhwydwaith cyfeillgar ar eu cyfer. Mae'r rhwydwaith hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i'r Heddlu ar faterion gweithredol sy'n ymwneud ag unigolion o'r ffydd Hindŵaidd neu sy'n effeithio arnynt.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas yr Heddlu Iddewig (JPA)

Mae'r JPA yn hyrwyddo dealltwriaeth o'r ffydd Iddewig yn yr Heddlu drwy roi cyngor ac arweiniad ar faterion crefyddol, diwylliannol a chymunedol. Mae'n rhan o rwydwaith cenedlaethol ehangach lle y gall fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous, o gyrsiau datblygu i ddigwyddiadau rhwydweithio a digwyddiadau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Rhwydwaith Cymorth LHDT+

Hwn yw ein rhwydwaith a arweinir gan gyflogeion sy'n cynnwys cyflogeion LHDT+ a'u cynghreiriaid ym mhob rhan o'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae'r rhwydwaith yn codi ymwybyddiaeth o faterion LHDT+ drwy ddigwyddiadau ac yn cyfrannu at ddatblygu polisïau'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig er mwyn cyflawni ein hamcanion o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yr Heddlu (NPAA)

Mae'r NPAA yn helpu'r Heddlu i gefnogi cyflogeion niwroamrywiol ac yn gweithredu fel eiriolwr dros gysyniad niwroamrywiaeth. Mae gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig nifer mawr o gyflogeion, y mae gan rai ohonynt anabledd. Mae rhai anableddau yn weladwy, ac eraill yn anweladwy. Gall rhai pobl ddewis nodi eu cyflwr fel anabledd, lle bydd eraill yn dewis peidio. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n bwysig gwybod y cewch eich amddiffyn a'ch cefnogi o hyd. Mae'r NPAA hefyd yn cefnogi unigolion â chyflyrau megis Dyslecsia, Dyspracsia ac ADHD.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas Baganaidd yr Heddlu (PPA)

Cymdeithas Baganaidd yr Heddlu (PPA) yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi Swyddogion a staff Paganaidd yr Heddlu. Mae'r PPA, sydd ag aelodau ym mron pob Heddlu yn y DU, yn cydweithio i ddatblygu'r gydberthynas rhwng cymunedau Paganaidd a gwasanaeth yr heddlu. Mae'r PPA hefyd yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â Phaganiaeth yng ngwasanaeth yr heddlu a'r gymuned. Drwy weithio gydag asiantaethau partner, cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol, cynnal cymorthfeydd cyhoeddus a chodi ymwybyddiaeth o Baganiaeth, nod y PPA yw gwella'r gydberthynas rhwng heddluoedd y DU a'r cymunedau amrywiol a wasanaethir ganddynt.

I gael rhagor o wybodaeth am Baganiaeth neu gangen yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig o Gymdeithas Baganaidd yr Heddlu, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas Gymorth i staff o Leiafrifoedd Ethnig (SAME)

Y Gymdeithas Gymorth i staff o Leiafrifoedd Ethnig (SAME) yw'r rhwydwaith cymorth staff ar gyfer pob swyddog ac aelod o staff o gefndir lleiafrifoedd ethnig. Mae SAME yn cynnig cymorth, cyngor ac arweiniad o ran llesiant i gyflogeion a'r sefydliad er mwyn codi ymwybyddiaeth a meithrin dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwn anfon neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cymdeithas yr Heddlu Sikhaidd (SPA)

Mae'r SPA yn cefnogi'r holl gyflogeion o gefndir Sikhaidd ac yn darparu fframwaith cyfeillgar ar eu cyfer. Mae'r rhwydwaith hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i'r Heddlu ar faterion gweithredol sy'n ymwneud ag unigolion o gefndir Sikhaidd neu sy'n effeithio arnynt.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow