Close

Diogelu pob taith

Yr hyn rydym yn ei wneud

Diogelu pob eiliad.

P'un a ydym yn eu defnyddio at ddibenion gwaith, gorffwys neu chwarae, mae rheilffyrdd yn chwarae rôl ganolog yn ein cadw i symud o amgylch y DU. Mae ein cymunedau bob amser yn symud ac, felly, rydym yno ar gyfer pob digwyddiad, o deithiau personol bach i achlysuron cenedlaethol mawr.

Rydym yn gwneud yn siŵr y gall miliynau o bobl deithio'n ddiogel bob dydd. Rydym yn diogelu dros chwarter miliwn o dunelli o nwyddau sy'n cael eu symud o ddepos i ddociau. Rydym yn plismona digwyddiadau chwaraeon, cyngherddau a gwrthdystiadau mawr. Rydym i gyd yn cael ein huno gan y nod o gadw pawb yn symud i'r cyfeiriad cywir, gan gynnwys ein cyflogeion.

Pam ymuno â ni?

Os byddwch yn ymuno â ni byddwch yn ymuno â rhai o'r bobl orau yn eu maes.

Ein lleoliadau cenedlaethol

Mynnwch wybod ble mae dros 5,000 ohonom yn ei ystyried yn gartref i ni.