Close

Diogelu pob taith

Cwestiynau cyffredin

Rhywbeth y bydd angen i chi ei wybod? Dyma'r holl atebion i'ch cwestiynau mwyaf cyffredin. Cliciwch ar y cwestiwn i ddysgu mwy.

Cwestiynau am y Broses Gwneud Cais

Sut y gallaf greu cyfrif ar y porth gyrfaoedd?

Cliciwch ‘apply’ am eich dewis rôl a byddwch yn mynd i'r porth gyrfaoedd lle y gallwch gofrestru fel defnyddiwr newydd. Gofynnir i chi roi enw defnyddiwr (eich cyfeiriad e-bost) a chreu cyfrinair.

A allaf wneud cais am fwy nag un rôl ar yr un pryd?

Nid oes terfyn ar nifer y rolau y gallwch ymgeisio amdanynt. Fodd bynnag, os byddwch yn aflwyddiannus ac yn dymuno ymgeisio eto am yr un rôl, bydd yn rhaid i chi aros chwe mis. Diben hyn yw rhoi cyfle i ymgeiswyr fynd i ffwrdd a gwella eu sgiliau yn y meysydd gofynnol cyn ailymgeisio.

Rwyf wedi bod yn aflwyddiannus mewn cyfweliad, faint o amser y bydd yn ei gymryd i mi gael adborth ysgrifenedig?

Gan ein bod yn cael cryn nifer o geisiadau, dim ond i'r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael cyfweliad y gallwn roi adborth. Ar gyfer rolau staff, gall hyn gymryd hyd at bedair wythnos ac ar gyfer rolau Swyddog Heddlu gall gymryd hyd at wyth wythnos.

A allaf gyflwyno ceisiadau ar gyfer staff yr Heddlu a Swyddog Heddlu sy'n fyw ar yr un pryd?

Yr ateb byr yw gallwch. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod y broses o recriwtio i rolau staff yr Heddlu yn aml yn llawer cyflymach. Mae hyn yn golygu, os bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni fel Swyddog Heddlu, ni allwch wneud hynny os byddwch eisoes wedi ymuno â ni mewn rôl staff a'ch bod yn eich cyfnod prawf. Felly, rydym yn argymell mai dim ond am y rolau hynny sydd o ddiddordeb uniongyrchol i chi y dylech ymgeisio.

A allaf gyflwyno CV?

Er y bydd yn rhaid i chi gyflwyno CV ar gyfer rhai ceisiadau, mae'n bwysig bod pob cais yn cael ei wneud drwy ein porth gyrfaoedd. Diben hyn yw sicrhau ein bod yn prosesu pawb yn deg ac yn casglu gwybodaeth bwysig am gymhwystra ac ar gyfer y broses fetio.

A fyddwch yn gofyn am eirdaon?

Mae’r cyfnod lleiaf y mae angen geirda cyflogaeth ar ei gyfer yn amrywio rhwng grwpiau gweithwyr.

Ar gyfer Swyddogion Heddlu, staff yr Heddlu a PCSOs, bydd angen tystlythyrau ar gyfer cyfnod o bum mlynedd. Dim ond pan fyddwch wedi derbyn cynnig y byddwn yn cysylltu â'ch tystlythyrau.

A allaf gael fy hysbysu pan fyddwch yn recriwtio?

Drwy gofrestru ar y porth gyrfaoedd, gallwch drefnu i gael hysbysiadau am swyddi yn erbyn lleoliadau, lefelau cyflog a theitlau swydd perthnasol. Cliciwch yma i drefnu cael hysbysiadau.


Rwyf am fod yn Swyddog Heddlu, ond rwyf hefyd yn ystyried Heddluoedd eraill. A allaf gyflwyno sawl cais ar yr un pryd i Heddluoedd gwahanol?

Gan ein bod yn gweithredu proses asesu bwrpasol, mae'n bosibl cyflwyno ceisiadau i ni a Heddlu arall ar yr un pryd. Dylech bob amser holi unrhyw Heddluoedd eraill y gallwch fod yn gwneud cais iddynt, am ei bod yn bosibl bod eu prosesau recriwtio yn wahanol i'n prosesau ni. Os byddwch yn cael cynnig cyflogaeth gan y naill Heddlu neu'r llall, gofynnwn i chi dynnu eich cais yn ôl o'r Heddlu arall.

Cwestiynau am Ganolfannau Asesu Cyfweliadau

Ni allaf fod yn bresennol ar y dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad; a allaf drefnu dyddiad mwy addas?

Lle y bo'n bosibl, byddwn yn ceisio darparu ar gyfer unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd hyn yn dibynnu p'un a fydd y panel ar gael. 

Beth y dylwn i ei wisgo ar gyfer fy nghyfweliad?

Rydym yn argymell y dylai unrhyw un sy'n dod i gael cyfweliad wisgo dillad busnes trwsiadus. Nid oes angen i drosglwyddeion ddod i gyfweliad mewn lifrai.

A ydych yn talu costau teithio i gyfweliadau/canolfannau asesu?

Bydd unigolion yn teithio i ganolfannau asesu ar eu traul eu hunain. Rydym yn eich annog i gynllunio ymlaen llaw gan na allwn ddarparu lleoedd parcio am ddim yn ein canolfannau asesu.

A allaf drosglwyddo fy nghanlyniadau o ganolfan asesu flaenorol gyda Heddlu arall?

Yn anffodus, gan ein bod yn gweithredu proses asesu bwrpasol, ni ellir trosglwyddo sgoriau. Dyma pam rydym yn caniatáu i chi gael cais byw gyda Heddlu arall. 

A fydd angen i mi gwblhau prawf ffitrwydd?

Nid ar gyfer staff yr Heddlu.

Ar gyfer rolau swyddogion a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, fel rhan o broses y ganolfan asesu, bydd angen i chi gwblhau Prawf Ffitrwydd Cysylltiedig â Gwaith (JRFT) sy'n brawf blîp hyd at lefel 5.4. Bydd angen i chi gwblhau'r prawf blîp unwaith eto yn ystod eich hyfforddiant ac wedyn bob blwyddyn yn ystod eich cyflogaeth.

Cwestiynau am Gymhwystra/Fetio

A oes gofyniad oedran ar gyfer ceisiadau i fod yn Swyddog Heddlu?

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan unigolion sy'n 17.5 oed ar adeg cyflwyno'r cais ond rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed er mwyn dechrau mewn rôl. 

Pa gymwysterau sydd eu hangen i fod yn Swyddog Heddlu?

Nid oes angen cymwysterau arnoch i fod yn Swyddog Heddlu gan y byddwn yn asesu eich galluoedd yn ystod y broses recriwtio. 

Pa wiriadau diogelwch y bydd angen i mi eu cael er mwyn ymuno â'r Heddlu?

Rhaid i bawb sy'n ymuno â ni fynd drwy broses fetio. Bydd y lefel a'r math o fetio yn amrywio, yn dibynnu ar y rôl rydych yn ymgeisio amdani.

Pa wiriadau eraill y byddwch yn eu cynnal?

Ynghyd â'ch gwiriadau fetio, byddwn hefyd yn cynnal gwiriadau hawl i weithio a thystiolaeth o breswylio.  Mae'n bwysig rhoi gwybod i chi mai dim ond os rhoddir cynnig amodol y caiff gwiriadau fetio eu cynnal.

Os caf fy ngwrthod yn sgil y broses fetio, a oes hawl i apelio?

Os byddwch yn methu ein proses fetio, anfonir gohebiaeth ffurfiol atoch yn eich hysbysu o'n penderfyniad a bydd yn cynnwys ac yn nodi eich hawliau i apelio. Mae'n bwysig gwybod, os byddwch yn methu ein proses fetio, y caiff y rhesymau eu hesbonio i chi. Fodd bynnag, gall fod eithriadau penodol lle na allwn ddatgelu'r manylion llawn. Y tîm fetio, sydd ar wahân i'r tîm recriwtio, fydd yn penderfynu a fydd ymgeisydd wedi methu'r broses fetio. Os cyflwynir apêl, bydd y penderfyniad ar yr apêl honno yn derfynol.

Dydw i ddim yn gweithio i chi ond rwyf eisoes wedi cael fy fetio gyda'm cyflogwr presennol; a ellir ei drosglwyddo?

Fel arfer, na.  Hyd yn oes os ydych yn Swyddog Heddlu mewn Heddlu arall, bydd angen i chi fynd drwy'r broses fetio arferol o hyd.

Rwy'n gweithio i chi ar hyn o bryd ac yn newid fy rôl. A fydd angen i mi gael fy ail-fetio?

Os bydd eich rôl newydd ar yr un lefel o gliriad fetio, bydd angen i'r tîm fetio gynnal archwiliadau iechyd. Os bydd eich rôl newydd ar lefel wahanol o gliriad fetio, bydd angen i chi gael eich ail-fetio ar y lefel briodol.

A allaf wneud cais os oes gennyf datŵs?

Nid yw tatŵs yn dderbyniol:

  • Os ydynt ar eich wyneb
  • Os ydynt uwchlaw llinell y coler ar ran flaen neu ochr eich gwddf,
  • Os ydynt yn fawr ar eich gwar ac na ellir eu cuddio'n hawdd
  • Pe gellid ystyried eu bod yn dramgwyddus mewn unrhyw ffordd, waeth ble maent ar y corff.

Caniateir tatŵs gweladwy ar rannau eraill o'r corff gan gynnwys dwylo, breichiau, coesau, traed ac ar y gwar (ar yr amod nad yw'r tatŵ yn amlwg a'i fod y tu ôl i'r llabed).

Mae tatŵs ar y glust, nad ydynt yn rhai amlwg, yn dderbyniol hefyd. Rhoddir ystyriaeth i datŵs ar yr wyneb yr oedd eu hangen yn dilyn triniaethau meddygol neu ar gyfer triniaethau cosmetig e.e. aeliau.

Dylech gysylltu â'r tîm recriwtio os fyddwch yn siŵr am eich tatŵs a byddwn yn rhoi cyngor i chi lle y bo'n bosibl.

Gallwch wneud hyn drwy anfon neges e-bost atom: recruitmentteam@btp.police.uk

A fydd cofnod troseddol yn atal ceisiadau rhag bod yn llwyddiannus?

Os byddwch wedi cael dedfryd o garchar, yn anffodus ni allwn brosesu eich cais.  Er y caiff unrhyw euogfarn neu rybuddiad arall ei (h)asesu fesul achos, rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried yn ofalus a allent fethu'r broses. Fel arfer, mae euogfarnau diweddar a difrifol yn arwain at fethu'r broses fetio tra gall mân euogfarnau, neu euogfarnau hanesyddol, fod yn llai o broblem.  Mae ein proses fetio yn un llym am ei bod yn bwysig ein bod yn cynnal y safonau uchaf wrth gyflogi cydweithwyr newydd.

A ddylwn ddatgan fy holl ymwneud ag ymchwiliad gan yr heddlu hyd yn oed os na chymerwyd 'unrhyw gamau pellach'?

Mae'n bwysig, os byddwch wedi ymwneud ag ymchwiliad gan yr heddlu (mewn unrhyw ffordd), eich bod yn cynnwys hyn yn eich ffurflen datganiad fetio, hyd yn oed os na chymerwyd unrhyw gamau pellach. Dylech bob amser gynnwys unrhyw beth a allai fod yn angenrheidiol neu'n berthnasol, yn eich barn chi, ar eich ffurflen fetio.

Cwestiynau Rôl-Benodol

Beth yw eich cyfnod prawf?

Mae hyn yn dibynnu ar y rôl rydych yn ymgeisio amdani a nodir y cyfnod prawf ar gyfer pob rôl isod:

Aelod o Staff yr Heddlu:  Fel arfer, chwe mis er y gall fod mor hir â blwyddyn ar gyfer rhai rolau arbenigol.

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu: Blwyddyn.

Swyddog Heddlu:  Dwy flynedd.

Cwnstabliaid Cynorthwyol: Bydd hyn yn amrywio gan fod Cwnstabliaid Cynorthwyol yn eu cyfnod prawf nes iddynt ennill statws swyddog a all fynd ar batrôl ar ei ben ei hun.

Pa oriau y byddaf yn eu gweithio?

Bydd yr oriau a'r sifftiau y byddwch yn eu gweithio yn dibynnu ar y rôl rydych yn ei chyflawni. Gweler isod drosolwg sylfaenol:

Rolau staff:

  • Er y gall oriau gwaith amrywio, fel arfer mae'r rhan fwyaf o swyddi staff amser llawn yn gofyn i chi weithio 37 awr yr wythnos.
  • Bydd llawer o rolau o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa arferol, e.e. 9-5 neu amrywiad o hynny.
  • Mae rhai rolau staff yn gofyn i chi weithio sifftiau neu rota 24/7 ond peidiwch â phoeni, cewch yr holl fanylion yn ystod y broses recriwtio.

Swyddogion yr Heddlu:

  • Gan ein bod yn darparu gwasanaeth ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos, mae'n ofynnol i swyddogion weithio patrwm sy'n adlewyrchu hyn. Bydd hyn yn cynnwys sifftiau 12 awr sy'n cylchdroi, gyda gwahanol amserau dechrau a gorffen.  Mae angen i ni roi gwybod i chi ei bod yn bosibl y bydd adegau pan fydd angen i chi fod yn hyblyg oherwydd newidiadau munud olaf achlysurol i sifftiau.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cynnig amodol a chynnig ffurfiol?

Byddwn yn gwneud cynnig amodol yn gyntaf; fe'i gwneir pan fydd eich cais yn dal i fod yn amodol ar gael cliriadau fetio, cliriadau meddygol a chliriadau geirdaon. Ar ôl i ni gael y rhain, gwneir cynnig ffurfiol, a dyna pryd y byddwch yn cael eich contract cyflogaeth.  Ni ddylai ymgeiswyr ymddiswyddo nes i gynnig cyflogaeth ffurfiol gael ei wneud, rhag ofn y bydd unrhyw broblemau yn codi yn y broses gwneud cais. 

Hoffwn holi am gyfleoedd i wirfoddoli

Rydym bob amser yn croesawu ymholiadau ynglŷn â gwirfoddoli.  Er mwyn cael gwybodaeth am gyfleoedd i wirfoddoli anfonwch neges e-bost atom yn BTP-Volunteers@btp.police.uk lle y bydd y tîm yn fwy na pharod i'ch helpu.

Pryd y byddwch yn hysbysebu am Swyddogion yr Heddlu?

Mae hyn yn amrywio, yn dibynnu ar anghenion y sefydliad.  Pan fyddwn yn recriwtio, byddwch bob amser yn gallu dod o hyd i'n swyddi gwag ar ein porth gyrfaoedd. Rydym yn argymell eich bod yn sefydlu cyfleuster hysbysu drwy e-bost er mwyn i chi gael eich hysbysu cyn gynted ag y byddwn yn recriwtio; bydd hyn yn eich helpu i wneud yn siwr na fyddwch yn colli ymgyrch recriwtio.

Fel Swyddog Heddlu, pryd y byddaf yn gymwys i ymgeisio am rolau arbenigol?

Mae angen i bob Swyddog Heddlu fod wedi cwblhau ei gyfnod prawf o ddwy flynedd yn llwyddiannus cyn y bydd yn gymwys i ymgeisio am swyddi arbenigol gwag.

A fyddaf yn cael unrhyw gyfleusterau teithio am ddim at ddibenion preswyl?

Dim ond Swyddogion yr Heddlu, Cwnstabliaid Cynorthwyol a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu sydd â'r hawl i gael cyfleusterau teithio ar y rheilffordd am ddim neu am brisiau gostyngol.  Mae hyn yn unol â'n rheoliadau presennol.