Close

Diogelu pob taith

Ein cenhadaeth a'n diben

Ni ar ein Gorau

 

Ein Gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn hanfodol i greu amgylchedd lle y gall pob un ohonom gyflawni hyd eithaf ein gallu a sicrhau canlyniadau gwych i'n staff a'r cyhoedd a wasanaethir gennym. Maent yn ein helpu i gyflawni ein Diben drwy lywio pob penderfyniad a wnawn a phob cam a gymerwn.

  • Rydym yn falch o ddiogelu
  • Mae pobl yn bwysig i ni
  • Rydym yn gwneud y peth iawn
  • Rydym yn ceisio bod yn well bob dydd
  • Un Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ydym

 

Ein diben:

Ein diben yw sicrhau rhwydwaith rheilffyrdd diogel a dibynadwy i bawb.

 

Ymddygiad moesegol

Rydym yn ymfalchïo yn ein proffesiynoldeb. Rydym yn disgwyl ac yn mynnu ymddygiad o'r safon uchaf gan bob un o'n cyflogeion, p'un a ydynt yn y gwaith neu gartref, ar ddyletswydd neu oddi ar ddyletswydd.

Fel cyflogeion sy'n gwasanaethu'r cyhoedd, ni ddylem byth anghofio i bwy rydym yn gweithio a phwy rydym yn ei gynrychioli, p'un a ydym yn gwneud hynny'n bersonol neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Ein hegwydddorion

Byddwn yn cefnogi ein cyflogeion er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys ac y gallant fod yn nhw eu hunain yn y gwaith.

Rydym yn ymrwymedig i ddiwylliant lle caiff pawb eu trin ag urddas, parch a chwrteisi. Ni ddylid gwneud i unrhyw un deimlo'n anghyfforddus nac yn anhapus yn y gwaith.

Nid ydym yn goddef unrhyw fath o ymddygiad amhriodol.  Mae hyn yn cynnwys bygwth, aflonyddu, amarch, gwahaniaethu, bwlio a thrais, yn ogystal ag ymddygiadau ac arferion annheg ac anniogel.

Byddwn yn gweithredu'n gyflym mewn ymateb i ymddygiad amhriodol a byddwn yn mynd ati ar unwaith i ddisgyblu neu ddiswyddo'r rhai sy'n gyfrifol.

Rydym yn annog ac yn cefnogi'r rhai sy'n gwneud y peth iawn ac yn tynnu sylw at ymddygiad amhriodol.

Rydym yn hyrwyddo lles ac iechyd meddwl cadarnhaol yn y gweithle.

Rydym yn cydymffurfio â safonau ymddygiad moesegol y Coleg Plismona.

Rydyn ni'n poeni am yr effaith a gawn ar yr amgylchedd a'r heriau ehangach ynghylch newid yn yr hinsawdd, ac o'r herwydd rydym wedi ymrwymo i leihau ein hôl troed carbon a chyflawni Carbon Sero Net (NZC) drwy wrthbwyso erbyn 2035.

 

Safonau Fetio

Nod fetio yw adnabod pobl nad ydynt yn addas i weithio yn yr heddlu.

Rhaid i bawb yng ngwasanaeth yr heddlu gynnal safonau moesegol a phroffesiynol uchel a gweithredu ag uniondeb.

Felly, mae fetio yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau y cynhelir y safonau hyn a hyder y cyhoedd yn yr Heddlu.

Bydd swyddogion fetio yn cynnal gwiriadau trylwyr er mwyn cadarnhau addasrwydd ymgeisydd yn ogystal â'r rhai y mae'n ymwneud â nhw, h.y. partneriaid, rhieni, brodyr a chwiorydd a chyd-breswylwyr.

Os bydd ymgeisydd yn gwrthod cwblhau'r weithdrefn, NI chaiff gliriad ac ni fydd ganddo fynediad i safleoedd nac asedau'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am ein safonau fetio.

 

Safonau meddygol

Mae ein cyflogeion wir yn bwysig i ni. Mewn rolau penodol, rydym yn deall y bydd tasgau a all fod yn heriol yn gorfforol neu'n seicolegol ac, felly, bydd angen i bob recriwt newydd fod yn ffit ac yn iach.

Os byddwch yn ymuno â ni fel Swyddog Heddlu (gan gynnwys mynediad uniongyrchol a Throsglwyddai), Cwnstabl Cynorthwyol, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu neu Swyddog Cadw, gofynnir i chi hefyd gael prawf ffitrwydd cysylltiedig â gwaith ac asesiad meddygol.

Fel rhan o'r asesiad meddygol, gofynnir i chi gwblhau'r canlynol:

  • Holiadur hanes meddygol (a gwblheir gan bob ymgeisydd)
  • Holiadur hanes meddygol (a gwblheir gan Feddyg Teulu)
  • Prawf golwg, gan gynnwys golwg lliw
  • Prawf Clyw
  • BMI, BP
  • Asesiad meddygol o iechyd corfforol a seicolegol
  • Asesiad cyhyrysgerbydol
  • Profion cyffuriau ac alcohol.

DS:  Nid yw'r ffaith bod gan ymgeisydd gyflwr iechyd sydd eisoes yn bodoli a reolir yn dda yn ei atal, o reidrwydd, rhag ymgymryd ag unrhyw un o'n rolau.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am ein safonau meddygol.

 

Eich ymrwymiad

Mae dangos sut rydych yn byw yn unol â'n safonau yr un mor bwysig â bodloni'r cymwyseddau a'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Trin pobl yn deg ac yn ddiduedd
  • Bod yn eirwir ac yn onest
  • Gwneud y peth iawn
  • Arwain drwy esiampl
  • Bod yn agored ac yn dryloyw o ran eich gweithredoedd a'ch penderfyniadau
  • Bod yn atebol am eich penderfyniadau a'ch gweithredoedd.

Dysgwch fwy am egwyddorion a safonau ymddygiad proffesiynol ym maes plismona yma.

Mae hyn yn bwysig iawn i ni ac, felly, os nad ydych yn cytuno â'r safonau ymddygiad proffesiynol, ni fyddem yn sefydliad addas i chi weithio iddo.