Close

Diogelu pob taith

Aelod o staff yr heddlu

Y rolau

Mae pob math o rôl ar gael fel aelod o staff yr Heddlu, o gefnogi swyddogion rheng flaen yn yr Ystafell Reoli i swyddogaethau proffesiynol yn yr adrannau Pobol a Diwylliant, Cyllid a Digidol Masnachol a Thechnoleg a rolau tebyg eraill.

Rydym yn recriwtio mewn tair gwlad, gyda chanolfannau mawr yn Llundain, Birmingham, Manceinion a Glasgow yn benodol. Mae'n anodd rhagweld i ba rolau y byddwn yn recriwtio a phryd, ond bydd ein swyddi gwag bob amser yn cael eu hysbysebu ar ein tudalen gyrfaoedd pan fyddwn yn recriwtio.

Ble bynnag y byddwch chi, byddwch yn rhan o ddiwylliant cyfeillgar sy'n helpu i gadw rheilffyrdd Prydain i redeg yn ddiogel ac yn ddidrafferth.

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn ymrwymedig i greu gweithle hyblyg sy'n grymuso ein cyflogeion i wneud dewisiadau sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd personol sy'n gweithio iddyn nhw a'n sefydliad.

Camau cadarnhaol

Yn BTP rydym yn warcheidwaid balch o'r rheilffordd ac mae'n hanfodol ein bod yn cynrychioli'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu a'u diogelu. Fel 'Un BTP' ar draws y DU, rydym yn gwybod bod amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn ein helpu i wella ein penderfyniadau, meithrin creadigrwydd a sbarduno arloesedd fel y gall ein holl bobl ffynnu.
Mae ein swyddi gwag yn agored i bawb ac mae pob apwyntiad yn cael ei wneud yn seiliedig ar deilyngdod. Fel y gallwn ddod yn fwy amrywiol rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl sydd ag anabledd, y rhai sy'n niwroamrywiol a phobl sy'n nodi eu bod yn LGBTQI+. Os oes gennych chi'r sgiliau, y profiad a'r gwerthoedd yr ydym ni yma yn BTP yn ymfalchïo ynddynt yna byddem yn eich croesawu i ymgeisio.

I gael rhagor o wybodaeth am Gamau Cadarnhaol ewch i careers.btp.police.uk/about-us/positive-action/  neu anfon e-bost at y tîm ar PART-recruitment@btp.police.uk

Buddion

Rydym yn frwdfrydig dros gydnabod a gwobrwyo'r rhai sy'n ein helpu i ddiogelu pob taith. Chi sy'n gwneud y gwahaniaeth ac, felly, mae ein buddion wedi'u cynllunio gan gofio amdanoch chi. Edrychwch ar beth sy'n cael ei gynnig:

ico-service

Pensiwn

Rydym yn cynnig pensiwn hael i'n cyflogeion. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n Rheolwr Pensiynau yn Pension-Queries@btp.police.uk

ico-service

Gweithio Hyblyg

Rydym yn hyrwyddo ffyrdd modern a hyblyg o weithio ar draws llawer o'n rolau, gan rymuso pobl i ddewis sut a ble sydd orau i gyflawni eu rôl.

ico-service

Cerdyn Golau Glas

Mae Cerdyn Golau Glas yn costio £4.99 am ddwy flynedd ac yn cynnig cyfle i chi fanteisio ar amrywiaeth o ostyngiadau, ar-lein ac ar y stryd fawr.

ico-service

Datblygu Gyrfa

Nid oes rhaid i ble rydych chi'n dechrau'ch taith gyrfa gyda ni fod lle rydych chi'n aros. Mae amrywiaeth o broffesiynau yn rhan o'r teulu BTP ac rydym yn rhoi'r cyfleoedd i chi ddatblygu eich hun yn bersonol ac yn broffesiynol.

ico-service

Gwyliau blynyddol

Mae gan staff yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, sy'n cynyddu i 30 diwrnod gyda phum mlynedd o wasanaeth neu fwy.

ico-service

Cronfa Les Trafnidiaeth

Elusen i gefnogi cyflogeion yn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus.

ico-service

Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu:

Rydym yn cynnig 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu â thâl ar ôl cyfnod cymhwyso. Mae absenoldeb tadolaeth â thâl hefyd ar gael. 

ico-service

Cynllun beicio i'r gwaith

Cewch gyfle i logi beic gennym er mwyn beicio i'r gwaith ac ni fyddwch yn talu Yswiriant Gwladol na chyfraniadau treth ar yr hyn rydych yn ei wario hyd at £1,000.

ico-service

Teithio ar ddyletswydd

Gall staff wneud cais am basys teithio ar gyfer ymrwymiadau gwaith penodol.

ico-service

Teithio

Gall staff yr heddlu wneud cais am fenthyciad tocyn tymor blynyddol di-log. Caiff cost y tocyn ei didynnu drwy daliadau cyfartal dros ddeg cyfnod cyflog 4 wythnos.

Buddion o ran iechyd a llesiant

ico-service

Cymorth i gyflogeion

Mae rhaglen cymorth i gyflogeion yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n helpu ein cyflogeion i ddatrys problemau personol a gwella eu llesiant cyffredinol.

ico-service

Hyb llesiant

Hyb gwybodaeth mewnol sy'n cynnwys adnoddau, newyddion a gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau a digwyddiadau llesiant a manylion pob un o'n gwasanaethau cymorth.

ico-service

Gofal Iechyd meddygol preifat

Mae yswiriant iechyd preifat ar gael i aelodau o staff yr Heddlu ar raddau uwch a'u teuluoedd.

ico-service

Darpariaeth gofal llygaid

Mae gan ddefnyddwyr cyfrifiaduron hawl i archwiliadau gofal llygaid a sbectol y telir amdanynt gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. 

ico-service

Chwaraeon a Hamdden CSSC

Sefydliad nid er elw sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle yn gadarnhaol. 

ico-service

Yswiriant

Mae cyfraddau ffafriol ar gael gan Police Mutual.

ico-service

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae gennym achrediad arian o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog ac rydym yn cefnogi milwyr wrth gefn y Lluoedd Tiriogaethol, gan gynnwys rhoi amser i ffwrdd â thâl i staff er mwyn iddynt gymryd rhan mewn hyfforddiant.

ico-service

Teithio

Gall staff yr heddlu wneud cais am fenthyciad tocyn tymor blynyddol di-log. Caiff cost y tocyn ei didynnu drwy daliadau cyfartal dros ddeg cyfnod cyflog 4 wythnos.

Hyfforddiant

Mae diogelu pob taith hefyd yn golygu gofalu am deithiau gyrfaol ein staff. Dyna pam y cewch ddigon o gyfleoedd i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol, pan fyddwch yn ymuno â ni, gan fynd â'ch gyrfa i unrhyw gyfeiriad.

Gall hyfforddiant staff yr heddlu amrywio o becynnau e-ddysgu ar-lein, hyfforddiant mewn swydd, rhaglenni ystafell ddosbarth a nawdd ar gyfer cymwysterau allanol. Rydym yn cyfrannu at un aelodaeth broffesiynol (mae telerau yn gymwys). Bydd eich rheolwr llinell yn helpu i'ch cadw ar y trywydd iawn gyda diweddariadau rheolaidd ac yn eich helpu i nodi a llenwi unrhyw fylchau mewn sgiliau sydd gennych.

Y broses gwneud cais

1

Caiff eich cais ei sgrinio i ddechrau er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni'r gofynion cymhwystra sylfaenol. Ar ôl i chi basio'r prawf sgrinio hwn, caiff y wybodaeth rydych wedi'i darparu yn y cais ei hasesu.

ico-tab
2

Os byddwch yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gael cyfweliad neu asesiad. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o'r rhinweddau sydd gennych a fydd yn eich galluogi i gyflawni'r rôl. Os byddwch yn cyrraedd ein safonau uchel, cewch gynnig amodol a byddwn yn dechrau ar eich gwiriadau cyn cyflogi.

ico-tab
3

Ar ôl i chi gael cynnig amodol, byddwch yn mynd drwy'r system fetio lawn.  Bydd hyn yn cynnwys gwirio geirdaon cyflogaeth yn ogystal â'n proses fetio sylfaenol ein hunain. Cewch eich llythyr cynnig neu'ch contract ar ôl i'r gwiriadau diogelwch hyn gael eu cwblhau'n llwyddiannus.

ico-tab

Cymhwystra

Cyn i chi benderfynu gwneud cais, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein meini prawf cymhwystra.

Fel arfer, ni fyddwch yn gymwys i gael eich penodi'n Swyddog Heddlu os byddwch yn dal unrhyw swydd neu gyflogaeth am dâl neu elw, neu os byddwch yn cynnal unrhyw fusnes yn ogystal â bod yn Swyddog Heddlu.

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod na all eich priod nac unrhyw berthynas sy'n byw gyda chi ddal unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw drwydded na hawleb sy'n ymwneud â thrwyddedu alcohol, tai lluniaeth na betio na hapchwarae na rheoleiddio mannau hamdden yn ardal yr Heddlu na meddu ar unrhyw fuddiant ariannol o'r fath.

Fetio

Mae'n bwysig bod staff a swyddogion cymorth cymunedol ein Heddlu yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd a wasanaethir ganddynt a bod y cyhoedd yn ymddiried yn llwyr ynddynt. Dyna pam mae pob darpar aelod o staff yr heddlu a swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yn mynd drwy wiriad fetio trylwyr fel rhan o'r broses gwneud cais.

Hawl i weithio yn y DU

Er mwyn ymuno â ni, rhaid i chi feddu ar yr hawl barhaol i fyw a gweithio yn y DU heb unrhyw gyfyngiadau.

Preswylio

Dylai pob ymgeisydd fod wedi bod yn byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf o leiaf. Mae hyn yn ofynnol er mwyn sicrhau y gallwn gynnal gwiriadau fetio digonol ac mae hyn yn gymwys i bob ymgeisydd, ni waeth beth fo'i genedligrwydd.

Oedran

Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i gael eich cyflogi. Nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer ceisiadau i fod yn aelod o staff yr Heddlu nac yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.

Euogfarnau a rhybuddiadau

Ni fyddwch yn gymwys i wneud cais os byddwch wedi cael dedfryd o garchar.

Rhaid datgan unrhyw rybuddiad ac euogfarn arall ac unrhyw ymwneud arall â'r heddlu yn ystod y broses fetio. Ni fydd hyn o reidrwydd yn arwain at dynnu eich cais yn ôl, gan y bydd pob cais yn cael ei asesu fesul achos.

Sefyllfa ariannol

Fel rhan o'ch gwiriadau, byddwn yn cadarnhau eich sefyllfa ariannol. Mae cyflogeion mewn sefyllfa freintiedig a gallant weld amrywiaeth o wybodaeth sensitif a gwerthfawr. Mae hyn yn golygu y gallent fod yn wynebu mwy o risg o fod yn agored i lygredd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn rhydd rhag pwysau dyledion heb eu talu neu rwymedigaethau heb eu clirio a gallu rheoli benthyciadau a dyledion yn synhwyrol.

Tatŵs

Nid yw tatŵs yn dderbyniol:

  • Os ydynt ar eich wyneb
  • Os ydynt uwchlaw llinell y coler ar ran flaen neu ochr eich gwddf,
  • Os ydynt yn fawr ar eich gwar ac na ellir eu cuddio'n hawdd
  • Pe gellid ystyried eu bod yn dramgwyddus mewn unrhyw ffordd, waeth ble maent ar y corff.

Caniateir tatŵs gweladwy ar rannau eraill o'r corff gan gynnwys dwylo, breichiau, coesau, traed ac ar y gwar (ar yr amod nad yw'r tatŵ yn amlwg a'i fod y tu ôl i'r llabed).

Ystyrir bod tatŵs ar y glust, nad ydynt yn rhai amlwg, yn dderbyniol hefyd. Rhoddir ystyriaeth i datŵs ar yr wyneb yr oedd eu hangen yn dilyn triniaethau meddygol neu ar gyfer triniaethau cosmetig e.e. aeliau.

Dylech gysylltu â'r tîm recriwtio os na fyddwch yn siŵr am eich tatŵs a byddwn yn rhoi cyngor i chi lle y bo'n bosibl.

Gallwch wneud hyn drwy anfon neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cysylltiadau amhriodol

Os ydych yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp, cymdeithas neu unigolyn a allai yn rhesymol fod yn gyfystyr â gwrthdaro buddiannau rhwng cyflawni gwaith a chyfrifoldebau Heddlu yn ddiduedd ac yn effeithiol, ar hyn o bryd, neu os ydych erioed wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp o'r fath, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais.

Lluoedd Arfog EM

Oherwydd amserlenni ein proses recriwtio, dim ond os bydd gennych 12 mis neu lai o wasanaeth ar ôl cyn cael eich rhyddhau y caiff ceisiadau gan aelodau o'r lluoedd arfog eu derbyn. Bydd angen i chi anfon cadarnhad o'ch dyddiad rhyddhau disgwyliedig gyda'ch cais. (e.e. llythyr gan eich Prif swyddog).

Addysg a sgiliau

Bydd pob rôl yn nodi pa gymwysterau fydd eu hangen arnoch i gael eich penodi.  At ddibenion hyfforddiant a datblygu, efallai y bydd angen i chi gyflwyno tystysgrifau arholiad. Os ydych mewn addysg amser llawn o hyd neu os ydych wedi gadael addysg amser llawn yn ddiweddar, efallai y byddwn yn gofyn i chi am eirda gan y sefydliad perthnasol.

Buddiannau busnes

Bydd angen i chi ddatgan unrhyw fuddiant cyflogaeth neu fuddiant busnes arall sydd gennych ac rydych yn bwriadu ei gynnal fel y gellir ei asesu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau â'r heddlu.

Iechyd a materion meddygol

Mae ein cyflogeion yn wynebu sefyllfaoedd a all fod yn llawn straen ac yn drawmatig ac a all, weithiau, arwain at wrthdaro corfforol. Mae ein cyflogeion yn aml yn gweithio oriau hir ar sifftiau sy'n cylchdroi ac, felly, gall y rôl fod yn heriol yn gorfforol ac yn feddyliol. Felly, mae'n bwysig bod ein cyflogeion mewn iechyd da er mwyn iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau'n ddiogel.

Er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi llesiant ein cyflogeion, byddwn yn gofyn i chi ddarparu manylion perthnasol am eich iechyd a'ch hanes meddygol yn unol ag unrhyw gwestiynau y mae'n rhaid i ni eu gofyn yn ystod y broses gwneud cais. 

Ymgeiswyr ag anableddau

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud addasiadau rhesymol lle y bo'n bosibl.

Swyddogion Cyfathrebu a Thrinwyr

Chwilio ac ymgeisio am rôl fel aelod o staff yr Heddlu neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Chwilio ein swyddi arrow