Close

Diogelu pob taith

Swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu

Llundain Fewnol

Cyflog cystadleuol: £26,098.99 + £3,033.56 Lwfans Llundain + lwfans sifft 15% = £33,047.39

Bydd isafswm o lwfans sifft o 15% yn cael ei dderbyn ar ôl cwblhau 8 wythnos o hyfforddiant. Gall lwfans sifft fod hyd at 20% ond bydd yn ddiofyn i 15% yn y lle cyntaf. Bydd hyn yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, nes i chi gyrraedd pwynt uchaf yr asgwrn cefn - £33,605.31 (gan gynnwys lwfansau).

 

Llundain Allanol

Derbyn cyflog cychwynnol o £26,098.99 gan godi flwyddyn ar ôl blwyddyn i uchafswm o £29.222.01 ar ôl 7 mlynedd.

Hefyd,byddwch yn derbynhyd at 20% o lwfans sifft o £5,220, fodd bynnag fe allai rhai patrymau sifft ddenu cyfraddau lwfans gwahanol. 

 

28 diwrnod o wyliau

 

Y rôl

Fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, byddwch yng nghanol y gymuned, gan ddiogelu pob taith, atal helynt a gwneud ein cymunedau yn gryfach ac yn fwy diogel.

Fel presenoldeb sy'n rhoi tawelwch meddwl mewn gorsafoedd, byddwch yn cynorthwyo teithwyr ac yn gweithio'n agos gyda Swyddogion yr Heddlu a staff rheilffyrdd. O ddelio â bygythiadau i ddiogelwch i gynnal ymchwiliadau i fân droseddau, ni fydd dau ddiwrnod byth yr un fath fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Bydd yn rhaid i chi ddelio â rhai o'r bobl fwyaf heriol mewn rhai o'r sefyllfaoedd anoddaf. Ond bydd eich gallu i greu cydberthnasau yn ennyn ymddiriedaeth ar unwaith.

Mae gofyn cael math arbennig o berson i ateb pob un o'r heriau hyn. Bydd angen i chi fod yn wydn ac yn gallu darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r safon uchaf. Byddwch yn gallu ymgysylltu â'r gymuned a chreu cysylltiadau cryf â'n sefydliadau partner.

Byddwch yn gallu cyfathrebu, addasu a meddwl yn glir o dan bwysau, bydd eraill yn gwybod am eich gallu i ddatrys amrywiaeth eang o senarios. Yn anad dim, byddwch yn ystyried mai galwedigaeth yw hon, yn hytrach na swydd, a byddwch yn frwdfrydig dros gael cyfle i wneud gwahaniaeth.

Dywedodd yr Uwcharolygydd David Rams: “Mae ein swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn rhan annatod o deulu Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Maent yn gwneud gwaith hanfodol ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd i gadw teithwyr a staff yn ddiogel. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr ein swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy’n darparu gwasanaeth eithriadol i’n cymunedau ledled Cymru a Lloegr.”

Nodwch mai dim ond yng Nghymru a Lloegr y mae rolau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar gael.

 

Camau cadarnhaol

Yn BTP rydym yn warcheidwaid balch o'r rheilffordd ac mae'n hanfodol ein bod yn cynrychioli'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu a'u diogelu. Fel 'Un BTP' ar draws y DU, rydym yn gwybod bod amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn ein helpu i wella ein penderfyniadau, meithrin creadigrwydd a sbarduno arloesedd fel y gall ein holl bobl ffynnu.

Mae ein swyddi gwag yn agored i bawb ac mae pob apwyntiad yn cael ei wneud yn seiliedig ar deilyngdod. Fel y gallwn ddod yn fwy amrywiol rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl sydd ag anabledd, y rhai sy'n niwroamrywiol a phobl sy'n nodi eu bod yn LGBTQI+. Os oes gennych chi'r sgiliau, y profiad a'r gwerthoedd yr ydym ni yma yn BTP yn ymfalchïo ynddynt yna byddem yn eich croesawu i ymgeisio.

I gael rhagor o wybodaeth am Gamau Cadarnhaol ewch i careers.btp.police.uk/about-us/positive-action/  neu anfon e-bost at y tîm ar PART-recruitment@btp.police.uk

Buddion

Rydym yn frwdfrydig dros gydnabod a gwobrwyo'r rhai sy'n ein helpu i ddiogelu pob taith. Chi sy'n gwneud y gwahaniaeth ac, felly, mae ein buddion wedi'u cynllunio gan gofio amdanoch chi. Edrychwch ar beth sy'n cael ei gynnig:

ico-service

Pensiwn

Rydym yn cynnig pensiwn hael i'n cyflogeion. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n Rheolwr Pensiynau yn Pension-Queries@btp.police.uk

ico-service

Cerdyn Golau Glas

Mae Cerdyn Golau Glas yn costio £4.99 am ddwy flynedd ac yn cynnig cyfle i chi fanteisio ar amrywiaeth o ostyngiadau, ar-lein ac ar y stryd fawr.

ico-service

Gwyliau blynyddol

Mae gan SCCH hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol am lai na dwy flynedd o wasanaeth, yn codi i 30 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

ico-service

Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu

Rydym yn cynnig 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu â thâl ar ôl cyfnod cymhwyso. Mae absenoldeb tadolaeth â thâl hefyd ar gael. 

ico-service

Cronfa Les Trafnidiaeth

Elusen i gefnogi cyflogeion yn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus.

ico-service

Cynllun beicio i'r gwaith

Cewch gyfle i logi beic gennym er mwyn beicio i'r gwaith ac ni fyddwch yn talu Yswiriant Gwladol na chyfraniadau treth ar yr hyn rydych yn ei wario hyd at £1,000.

ico-service

Teithio ar ddyletswydd

Mae gan bob Swyddog Heddlu a Chwnstabl Cynorthwyol hawl i deithio am ddim ar bob gwasanaeth Rheilffordd Cenedlaethol pan fydd ar ddyletswydd, p'un a fydd mewn lifrai ai peidio. Rhoddir yr hawl i deithio gan y cerdyn gwarant y mae'n rhaid ei ddangos os gofynnir i chi wneud hynny, hyd yn oed os byddwch yn gwisgo lifrai'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

ico-service

Cardiau Oyster

Fe'u rhoddir i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau a theithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith

Ddim yn ddilys ar Wasanaethau Rheilffyrdd Cenedlaethol (gwasanaethau TfL yn unig)
Heb gynnwys Gwasanaeth Bysiau Fferi Llundain (gwasanathau 'Clipper') ac Emirates.

ico-service

Tocyn tymor

Gall Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wneud cais am bàs preswyl neu docyn tymor braint i deithio ar y trên rhwng eu cartrefi a'u prif leoliad gwaith.

Buddion o ran iechyd a llesiant

ico-service

Cymorth i gyflogeion

Mae rhaglen cymorth i gyflogeion yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n helpu ein cyflogeion i ddatrys problemau personol a gwella eu llesiant cyffredinol.

ico-service

Hyb llesiant

Hyb gwybodaeth mewnol sy'n cynnwys adnoddau, newyddion a gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau a digwyddiadau llesiant a manylion pob un o'n gwasanaethau cymorth.

ico-service

Gofal Iechyd meddygol preifat

Mae yswiriant iechyd preifat ar gael i Uwch-arolygyddion ac aelodau o staff yr Heddlu ar raddau C003 a C004 ac uwch a'u teuluoedd.

ico-service

Darpariaeth gofal llygaid

Mae gan ddefnyddwyr cyfrifiaduron hawl i archwiliadau gofal llygaid a sbectol y telir amdanynt gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

ico-service

Chwaraeon a Hamdden CSSC

Sefydliad nid er elw sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle yn gadarnhaol. 

ico-service

Yswiriant

Mae cyfraddau ffafriol ar gael gan Police Mutual.

ico-service

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae gennym achrediad arian o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog ac rydym yn cefnogi milwyr wrth gefn y Lluoedd Tiriogaethol, gan gynnwys rhoi amser i ffwrdd â thâl i staff er mwyn iddynt gymryd rhan mewn hyfforddiant.

Hyfforddiant

Bydd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cwblhau hyfforddiant cychwynnol sy'n para wyth wythnos a fydd yn ceisio sicrhau bod gan bob un ohonoch y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddechrau eich gyrfa fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn Llundain.

Dilynir eich hyfforddiant cychwynnol gan bedair wythnos ar sifftiau yn gweithio mewn ardaloedd penodol gyda thiwtor sy'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Fel gyda'n rhaglenni hyfforddi Swyddogion yr Heddlu, mae ein hyfforddiant yn seiliedig ar egwyddorion gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau, agwedd ac ymddygiadau.

Yn ystod y cwrs byddwch yn:

  • Cael eich asesu'n barhaus drwy eich ymddygiadau a'ch ymarfer moesegol
  • Astudio cwricwlwm eang er mwyn sicrhau bod gennych y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol
  • Cwblhau asesiadau o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol
  • Ymgymryd ag ymarferion yn cynnwys senarios realistig mewn amgylchedd gweithredol efelychiadol
  • Gorfod pasio'r holl hyfforddiant gorfodol, megis Hyfforddiant Diogelwch Personol, Diogelwch ar y Trac a Chymorth Cyntaf yr ymdrinnir â nhw yn ystod y cwrs
  • Dysgu sut i ddefnyddio ein technoleg a'n systemau er mwyn i chi allu cyflawni cylch gwaith llawn eich rôl
  • Cymryd rhan mewn gorymdeithiau rheolaidd mewn lifrai ac arolygiadau ffurfiol gan uwch-swyddogion.

Ni chaniateir gwyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn na'r cyfnod a dreulir gyda'r tiwtor.

Y broses gwneud cais

1

Caiff eich cais ei sgrinio i ddechrau er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni'r gofynion cymhwystra sylfaenol. Ar ôl i chi basio'r prawf sgrinio hwn, caiff y wybodaeth rydych wedi'i darparu yn y cais ei hasesu.

ico-tab
2

Mae'n ofynnol meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel er mwyn gweithio gyda ni. Os bydd eich ffurflen gais yn cynnwys nifer afresymol o wallau sillafu neu wallau gramadegol, bydd eich cais yn aflwyddiannus.

ico-tab
3

Rydym yn chwilio am dystiolaeth o'r rhinweddau sydd gennych a fydd yn eich galluogi i gyflawni'r rôl. Byddwn yn asesu eich ffurflen gais yn erbyn y Fframwaith Cymhwysedd a Gwerthoedd (CVF). Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i sefyll profion ar-lein a fydd yn ymdrin â mathemateg, y defnydd o eiriau a rhesymu geiriol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y CVF yma.

ico-tab
4

Ar ôl i chi gwblhau'r profion ar-lein yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i ddod i ganolfan asesu. Bydd y diwrnod yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfweliad a chyflwyniad seiliedig ar gymhwysedd a fydd yn para awr
  • Prawf Ffitrwydd Cysylltiedig â Gwaith (JRFT) - prawf blîp hyd at lefel 5.4
  • Mesuriadau lifrai

Cymerir samplau hefyd (swab o'ch ceg ac olion bysedd) at ddibenion fetio biometrig.

ico-tab
5

Ar ôl i chi gael cynnig amodol, byddwch yn mynd drwy'r system fetio lawn.  Bydd hyn yn cynnwys gwirio geirdaon cyflogaeth yn ogystal â'n proses fetio sylfaenol ein hunain. Cewch eich llythyr cynnig neu'ch contract ar ôl i'r gwiriadau diogelwch hyn gael eu cwblhau'n llwyddiannus.

ico-tab
6

Gofynnir i chi hefyd fynd i gael asesiad meddygol cynhwysfawr, a gynhelir gan feddyg neu nyrs gofrestredig. Mae'r asesiad meddygol yn drylwyr ac, ymhlith pethau eraill, caiff eich golwg a'ch clyw eu profi a chaiff pwysedd eich gwaed a màs eich corff eu mesur. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu p'un a oes gennych y lefel o iechyd sydd ei hangen ar gyfer y rôl. Hefyd, gofynnir i chi basio prawf cyffuriau ac alcohol.

ico-tab
7

Rydym yn deall y byddwch, wrth reswm, yn awyddus i baratoi ar gyfer y broses recriwtio i fod yn swyddog gyda ni. Er mwyn eich cefnogi drwy'ch cais a'r ganolfan asesu wedyn, o bryd i'w gilydd byddwn yn cynnal gweithdai gwneud cais a'r ganolfan asesu.

ico-tab

Cymhwystra

Cyn i chi benderfynu gwneud cais, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein meini prawf cymhwystra.

Fetio

Mae'n bwysig bod ein cyflogeion yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd a wasanaethir ganddynt a bod y cyhoedd yn ymddiried yn llwyr ynddynt. Dyna pam mae pob darpar gyflogai ym mynd drwy wiriad fetio trylwyr fel rhan o'r broses gwneud cais.

Hawl i weithio yn y DU

Er mwyn ymuno â ni, rhaid i chi feddu ar yr hawl barhaol i fyw a gweithio yn y DU heb unrhyw gyfyngiadau.

Preswylio

Dylai pob ymgeisydd fod wedi bod yn byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf o leiaf. Mae hyn yn ofynnol er mwyn sicrhau y gallwn gynnal gwiriadau fetio digonol ac mae hyn yn gymwys i bob ymgeisydd, ni waeth beth fo'i genedligrwydd.

Oedran

Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i ddechrau gweithio gyda ni. 

Euogfarnau a rhybuddiadau

Ni fyddwch yn gymwys i wneud cais os byddwch wedi cael dedfryd o garchar.

Rhaid datgan unrhyw rybuddiad ac euogfarn arall ac unrhyw ymwneud arall â'r heddlu yn ystod y broses fetio. Ni fydd hyn o reidrwydd yn arwain at dynnu eich cais yn ôl, gan y bydd pob cais yn cael ei asesu fesul achos.

Sefyllfa ariannol

Fel rhan o'ch gwiriadau, byddwn yn cadarnhau eich sefyllfa ariannol. Mae cyflogeion mewn sefyllfa freintiedig a gallant weld amrywiaeth o wybodaeth sensitif a gwerthfawr. Mae hyn yn golygu y gallent fod yn wynebu mwy o risg o fod yn agored i lygredd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn rhydd rhag pwysau dyledion heb eu talu neu rwymedigaethau heb eu clirio a gallu rheoli benthyciadau a dyledion yn synhwyrol.

Tatŵs

Nid yw tatŵs yn dderbyniol:

  • Os ydynt ar eich wyneb
  • Os ydynt uwchlaw llinell y coler ar ran flaen neu ochr eich gwddf,
  • Os ydynt yn fawr ar eich gwar ac na ellir eu cuddio'n hawdd
  • Pe gellid ystyried eu bod yn dramgwyddus mewn unrhyw ffordd, waeth ble maent ar y corff.

Caniateir tatŵs gweladwy ar rannau eraill o'r corff gan gynnwys dwylo, breichiau, coesau, traed ac ar y gwar (ar yr amod nad yw'r tatŵ yn amlwg a'i fod y tu ôl i'r llabed).

Ystyrir bod tatŵs ar y glust, nad ydynt yn rhai amlwg, yn dderbyniol hefyd. Rhoddir ystyriaeth i datŵs ar yr wyneb yr oedd eu hangen yn dilyn triniaethau meddygol neu ar gyfer triniaethau cosmetig e.e. aeliau.

Dylech gysylltu â'r tîm recriwtio os na fyddwch yn siŵr am eich tatŵs a byddwn yn rhoi cyngor i chi lle y bo'n bosibl.

Gallwch wneud hyn drwy anfon neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cysylltiadau amhriodol

Rhaid i chi allu cyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn ddiduedd ac yn effeithiol. Mae hyn yn golygu os ydych yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp, cymdeithas neu unigolyn a allai yn rhesymol fod yn gyfystyr â gwrthdaro buddiannau ar hyn o bryd neu os ydych erioed wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp o'r fath, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais.

Lluoedd Arfog EM

Oherwydd amserlenni ein proses recriwtio, dim ond os bydd gennych 12 mis neu lai o wasanaeth ar ôl cyn cael eich rhyddhau y caiff ceisiadau gan aelodau o'r lluoedd arfog eu derbyn. Bydd angen i chi anfon cadarnhad o'ch dyddiad rhyddhau disgwyliedig gyda'ch cais. (e.e. llythyr gan eich Prif swyddog).

Addysg a sgiliau

Os oes gennych chi gymwysterau Lefel 2 Mathemateg a Saesneg, o leiaf; yna nid oes rhaid i chi gwblhau'r profion a nodir isod; ond bydd angen i chi ddarparu'r tystysgrifau i'r tîm Recriwtio eu hadolygu. 

  • TGAU Gradd C/Lefel 4 neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg.
  • Sgiliau Gweithredol Lefel 2 mewn Rhifedd/Llythrennedd
  • Cymwysterau'r Alban a dderbynnir: SCQF Lefel 5, Canolradd 2 ar lefel 5 neu Radd Safonol (gyda chredyd) – wedi'u cyflawni ar y raddfa gywir mewn Mathemateg a Saesneg.

Rhaid amgáu copïau o dystysgrifau cymwysterau perthnasol trwy'r ddolen uchod. Ni dderbynnir cymwysterau mewn pynciau eraill, beth bynnag fo lefel y cymhwyster sydd gennych.

Os oes gennych Saesneg a Mathemateg ar lefel cymhwyster uwch bydd y rheini hefyd yn cael eu derbyn. Bydd gofyn i chi ddarparu ardystiad i ddangos bod y cymwysterau hynny wedi'u cyrraedd hyd at y safon ofynnol drwy'r ddolen uchod. Mae rhestr lawn o’r cymwysterau a dderbynnir ar gael yn y canllawiau Safonau Prentisiaethau ar gyfer Saesneg a Mathemateg ar GOV.UK. Dylech gyfeirio’n benodol at ‘Brentisiaethau Lefel 3’ sy’n ymdrin â’r gofynion ar gyfer prentisiaethau/diplomâu Lefel 3 ac uwch.

Buddiannau busnes

Bydd angen i chi ddatgan unrhyw fuddiant cyflogaeth neu fusnes arall sydd gennych ac y bwriadwch ei gynnal fel y gellir adolygu hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau gyda'r heddlu.

Fel arfer, ni fyddwch yn gymwys i gael eich penodi'n Swyddog Heddlu neu'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu os oes gennych unrhyw swydd neu gyflogaeth sy'n cynnwys hurio neu ennill, neu os ydych yn rhedeg unrhyw fusnes yn ogystal â bod yn Swyddog Heddlu neu'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.

Iechyd a Materion Meddygol

Efallai y bydd ein cyflogeion yn wynebu sefyllfaoedd a all fod yn llawn straen ac yn drawmatig ac a all, weithiau, arwain at wrthdaro corfforol. Mae ein staff yn gweithio oriau hir ar sifftiau sy'n cylchdroi ac, o ganlyniad, gall y rôl fod yn heriol yn gorfforol ac yn feddyliol. Felly, mae'n bwysig bod ein cyflogeion mewn iechyd da er mwyn iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau'n ddiogel.

Er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi llesiant ein cyflogeion, byddwn yn gofyn i chi ddarparu manylion perthnasol am eich iechyd a'ch hanes meddygol yn unol ag unrhyw gwestiynau y mae'n rhaid i ni eu gofyn yn ystod y broses gwneud cais.

Ymgeiswyr ag anableddau

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud addasiadau rhesymol lle y bo'n bosibl.

Helen Littlejohn
Diwrnod ym Mywyd PCSO
Trawsgrifiad arrow-white arrow-black
Jade Ireland a Holly Scott
Diwrnod ym mywyd PCSO
Trawsgrifiad arrow-white arrow-black

Chwilio ac ymgeisio am rôl fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Chwilio ein swyddi arrow