Close

Diogelu pob taith

Gweithredu cadarnhaol

Grymuso ein gilydd i fynd ymhell.

Rydym yn frwdfrydig dros adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir gennym ac yn credu'n gryf mai rhoi gwerth ar wahanol safbwyntiau sy'n ein gwneud yn gryfach.

‘Gweithredu cadarnhaol’ yw'r term am fentrau rydym yn eu rhoi ar waith er mwyn helpu pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i ddod yn Swyddogion yr Heddlu, yn Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac yn Gwnstabliaid Cynorthwyol a llwyddo yn y rolau hynny. Gall hyn gynnwys cynnal gweithdai i chwalu mythau am blismona neu ddarparu mentor i recriwtiaid newydd er mwyn helpu i feithrin eu hyder.

Rydym wedi gwneud cryn gynnydd o ran hyrwyddo gweithlu mwy cynhwysol ac, er mai'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig sydd â'r gyfran fwyaf ond un o swyddogion o leiafrifoedd ethnig ledled y wlad, mae a wnelo hyn â llawer mwy na chwotâu ac ystadegau ac rydym yn cydnabod bod cyfle i wneud mwy bob amser.

 

Pam rydym yn cymryd camau cadarnhaol?

Mae amrywiaeth yn bwysig. Mae amrywiaeth yn ein helpu i godi pontydd rhwng yr heddlu a grwpiau sy'n teimlo bod diffyg cysylltiad rhyngddyn nhw a ni yn draddodiadol. Rydym yn deall bod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ennyn ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.

Dyna pam rydym yn cynnal gweithdai wedi'u hanelu at ymgeiswyr benywaidd ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig er mwyn chwalu mythau cyffredin am blismona. Bwriedir i'r rhain sicrhau bod gan ymgeiswyr syniad da o'r hyn y gallant ei ddisgwyl gan y swydd a'r broses recriwtio, er mwyn eu helpu i deimlo'n hyderus i wneud cais. Petai'r ymgeiswyr hyn yn gadael y broses, efallai y byddwn yn cysylltu â nhw er mwyn deall pam a, lle y bo'n bosibl, yn rhoi adborth adeiladol er mwyn iddynt allu ailymgeisio yn y dyfodol.

 

Mae cyfleoedd i bawb.

Ni waeth beth fo'u cefndiroedd neu eu nodweddion, mae'n rhaid i bawb gyrraedd yr un safonau llym a chaiff pob cais, prawf a chyfweliad ei sgorio yn ôl ei deilyngdod.

Mae a wnelo gweithredu cadarnhaol â bod yn gynhwysol a sicrhau bod gan bawb gyfle i ddilyn gyrfa ym maes plismona yn y dyfodol. Mae gennym ffordd bell i fynd o hyd ond rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a blaengar. Y gred hon sy'n ennyn y gorau ym mhob un ohonom.