Close

Diogelu pob taith

Swyddogion Arbennig a Gwirfoddolwyr

Y rôl

Mae gofyn cael pob math o bobl i ddiogelu pob taith a helpu miliynau o deithwyr i gyrraedd eu cyrchfannau'n ddiogel bob dydd. Mae Cwnstabliaid Cynorthwyol yn Swyddogion Heddlu gwirfoddol sydd â'r un pwerau â Swyddogion amser llawn ac maent yn chwarae rôl hollbwysig wrth helpu i sicrhau bod pobl yn cyrraedd adref yn ddiogel ac ar amser.

Gan weithio ochr yn ochr â swyddogion amser llawn, byddwch yn wynebu'r heriau cyffrous ac amrywiol sy'n gysylltiedig â phlismona'r rheilffordd. Mae'n rôl amrywiol iawn ac, felly, bydd angen i chi fod yn barod am unrhyw beth, o batrolio ar drenau, ar droed neu mewn cerbyd i fod yn bresenoldeb sy'n rhoi tawelwch meddwl i bobl ar drenau neu mewn gorsafoedd. Byddwch yn helpu mewn digwyddiadau gan gynnwys delio â dioddefwyr a throseddwyr a chynorthwyo'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Byddwch yn cyflawni eich dyletswyddau wrth deithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Ac, wrth gwrs, byddwch yn dod i gysylltiad â phobl o bob cefndir, yn aml ar adegau anodd neu emosiynol iddynt. Un peth sy'n sicr – ni fydd dwy sifft byth yr un fath.

Er mwyn ymuno â ni, bydd angen i chi fod yn hynod o wydn ac ymroddedig. Byddwn yn disgwyl i chi ymrwymo i o leiaf oed 16 awr y mis.  Mater i chi fydd penderfynu ar uchafswm nifer yr oriau y byddwch yn eu rhoi i ni. Byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn hollol barod ac yn hyderus drwy ddarparu hyfforddiant heb ei ail a buddsoddi'n barhaus yn eich datblygiad.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled, byddwch yn:

  • Aelod gwerthfawr o'n Heddlu
  • Meddu ar yr un pwerau a gwisgo'r un lifrai â Swyddogion amser llawn yr Heddlu
  • Datblygu sgiliau a thalentau newydd am oes – o sgiliau arwain i ymateb i'ch helpu i ddatblygu mewn meysydd eraill o'ch bywyd neu'ch gyrfa
  • Cael cyfle i wneud gwahaniaeth i'r gymuned
  • Cael treuliau a delir a buddion teithio (yn dibynnu ar y lleoliad)
  • Cael cyfle i ddatblygu yn eich gyrfa yn fewnol i fod yn Swyddog Heddlu amser llawn rheolaidd maes o law os mai dyna fydd eich nod gyrfaol.

Noder na allwn dderbyn ceisiadau gan nifer detholedig o alwedigaethau gwaharddedig; cliciwch yma i weld y rhestr lawn. 

 

Rydym hefyd yn croesawu Trosglwyddeion sy'n Gwnstabliaid Cynorthwyol. Mae'r swyddi gwag hyn i'w gweld ochr yn ochr â swyddi eraill yn ein porth gyrfaoedd.

Am ragor o wybodaeth ar ein Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlucliciwch yma

Camau cadarnhaol

Yn BTP rydym yn warcheidwaid balch o'r rheilffordd ac mae'n hanfodol ein bod yn cynrychioli'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu a'u diogelu. Fel 'Un BTP' ar draws y DU, rydym yn gwybod bod amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn ein helpu i wella ein penderfyniadau, meithrin creadigrwydd a sbarduno arloesedd fel y gall ein holl bobl ffynnu.

Mae ein swyddi gwag yn agored i bawb ac mae pob apwyntiad yn cael ei wneud yn seiliedig ar deilyngdod. Fel y gallwn ddod yn fwy amrywiol rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl sydd ag anabledd, y rhai sy'n niwroamrywiol a phobl sy'n nodi eu bod yn LGBTQI+. Os oes gennych chi'r sgiliau, y profiad a'r gwerthoedd yr ydym ni yma yn BTP yn ymfalchïo ynddynt yna byddem yn eich croesawu i ymgeisio.

I gael rhagor o wybodaeth am Gamau Cadarnhaol ewch i careers.btp.police.uk/about-us/positive-action/  neu anfon e-bost at y tîm ar PART-recruitment@btp.police.uk

Swyddogion Gwirfoddol benywaidd yn Rhannu eu Profiadau
Trawsgrifiad arrow-white arrow-black

Buddion

Rydym yn frwdfrydig dros gydnabod a gwobrwyo'r rhai sy'n ein helpu i ddiogelu pob taith. Chi sy'n gwneud y gwahaniaeth ac, felly, mae ein buddion wedi'u cynllunio gan gofio amdanoch chi. Edrychwch ar beth sy'n cael ei gynnig:

ico-service

Cerdyn Golau Glas

Mae Cerdyn Golau Glas yn costio £4.99 am ddwy flynedd ac yn cynnig cyfle i chi fanteisio ar amrywiaeth o ostyngiadau, ar-lein ac ar y stryd fawr.

ico-service

Teithio ar ddyletswydd

Mae gan bob Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu hawl i deithio am ddim ar bob gwasanaeth Rheilffordd Cenedlaethol pan fydd ar ddyletswydd, p'un a fydd mewn lifrai ai peidio. Rhoddir yr hawl i deithio gan y cerdyn gwarant y mae'n rhaid ei ddangos os gofynnir i chi wneud hynny, hyd yn oed os byddwch yn gwisgo lifrai'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

ico-service

Cardiau Oyster

Fe'u rhoddir i Gwnstabliaid Cynorthwyol yn Llundain er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau, teithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden

Ddim yn ddilys ar Wasanaethau Rheilffyrdd Cenedlaethol (gwasanaethau TfL yn unig)
Heb gynnwys Gwasanaeth Bysiau Fferi Llundain (gwasanathau 'Clipper') ac Emirates.

Buddion o ran iechyd a llesiant

ico-service

Cymorth i gyflogeion

Mae rhaglen cymorth i gyflogeion yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n helpu ein cyflogeion i ddatrys problemau personol a gwella eu llesiant cyffredinol.

ico-service

Hyb llesiant

Hyb gwybodaeth mewnol sy'n cynnwys adnoddau, newyddion a gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau a digwyddiadau llesiant a manylion pob un o'n gwasanaethau cymorth.

ico-service

Aelodaeth o Ffederasiwn yr Heddlu

Rydym yn ddiolchgar bod Cwnstabliaid Cynorthwyol yn rhoi o'u hamser yn wirfoddol er mwyn gwasanaethu'r cyhoedd. Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn cynnig aelodaeth am ddim o Ffederasiwn yr Heddlu i chi. Ceir rhagor o wybodaeth am Ffederasiwn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yma.

ico-service

Chwaraeon a Hamdden CSSC

Sefydliad nid er elw sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle yn gadarnhaol. 

ico-service

Yswiriant

Mae cyfraddau ffafriol ar gael gan Police Mutual. 

ico-service

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae gennym achrediad arian o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog ac rydym yn cefnogi milwyr wrth gefn y Lluoedd Tiriogaethol, gan gynnwys rhoi amser i ffwrdd â thâl i staff er mwyn iddynt gymryd rhan mewn hyfforddiant.

Hyfforddiant

Rydym yn Heddlu blaengar o ran hyfforddiant i Gwnstabliaid Cynorthwyol.  Mae ein cwrs newydd i Gwnstabliaid Cynorthwyol o dan y Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona yn cynnwys 24 diwrnod o hyfforddiant cychwynnol, sy'n cynnwys sesiynau dysgu ar-lein yng nghanol yr wythnos, yn ystod y dydd a gyda'r nos, a ategir gan werslyfrau sy'n caniatáu i unigolion ddysgu wrth eu pwysau.  Mae hyn yn galluogi ein recriwtiaid newydd i symud ymlaen yn eu gyrfa ar gyflymder mwy hyblyg a datblygu gwybodaeth fanylach ac ehangach.

Yn dilyn y cam hyfforddi cychwynnol, caiff ein Cwnstabliaid Cynorthwyol eu hebrwng gan gydweithiwr profiadol a byddant yn gweithio'n weithredol â'r un pwerau a lifrai â Swyddog Heddlu rheolaidd.  Mae ein Cwnstabliaid Cynorthwyol yn cefnogi plismona rheng flaen ym mhob rhan o'r rhwydwaith.

Mae hyfforddiant ychwanegol wedyn yn cefnogi'r swyddog bob cam o'r ffordd i ‘statws Cwnstabl Cynorthwyol Cymwysedig’.  Rydym yn datblygu ein Cwnstabliaid Cynorthwyol i safon nas gwelwyd o'r blaen ym maes plismona ac yn sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r hyder i weithio ochr yn ochr  â chydweithwyr rheolaidd.

Y broses gwneud cais

1

Caiff eich cais ei sgrinio i ddechrau er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni'r gofynion cymhwystra sylfaenol. Ar ôl i chi basio'r prawf sgrinio hwn, caiff y wybodaeth rydych wedi'i darparu yn y cais ei hasesu.

ico-tab
2

Mae angen meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel er mwyn gweithio yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Os bydd eich ffurflen gais yn cynnwys nifer afresymol o wallau sillafu neu wallau gramadegol, bydd eich cais yn aflwyddiannus.

ico-tab
3

Rydym yn chwilio am dystiolaeth o'r rhinweddau sydd gennych a fydd yn eich galluogi i gyflawni'r rôl. Byddwn yn asesu eich ffurflen gais yn erbyn y Fframwaith Cymhwysedd a Gwerthoedd (CVF). Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i sefyll profion ar-lein a fydd yn ymdrin â mathemateg, y defnydd o eiriau a rhesymu geiriol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y CVF yma.

ico-tab
4

Ar ôl i chi gwblhau'r profion ar-lein yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i ddod i ganolfan asesu. Bydd y diwrnod yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfweliad a chyflwyniad seiliedig ar gymhwysedd a fydd yn para awr
  • Prawf Ffitrwydd Cysylltiedig â Gwaith (JRFT) – prawf blîp at lefel 5.4
  • Mesuriadau lifrai

Cymerir samplau hefyd (swab o'ch ceg ac olion bysedd) at ddibenion fetio biometrig.

ico-tab
5

Byddwch yn mynd drwy'r broses fetio lawn ar ôl i chi gael cynnig amodol. Bydd hyn yn cynnwys gwirio geirdaon yn ogystal â'n proses fetio sylfaenol ein hunain. Cewch eich llythyr cynnig ar ôl i'r gwiriadau diogelwch hyn gael eu cwblhau.

ico-tab
6

Gofynnir i chi hefyd fynd i gael asesiad meddygol cynhwysfawr, a gynhelir gan feddyg neu nyrs gofrestredig. Mae'r asesiad meddygol yn drylwyr ac, ymhlith pethau eraill, caiff eich golwg a'ch clyw eu profi a chaiff pwysedd eich gwaed a màs eich corff eu mesur. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu p'un a oes gennych y lefel o iechyd sydd ei hangen ar gyfer y rôl. Hefyd, gofynnir i chi basio prawf cyffuriau ac alcohol.

ico-tab

Cymhwystra

Cyn i chi benderfynu gwneud cais, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein meini prawf cymhwystra.

Fetio

Mae'n bwysig bod ein cyflogeion yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd a wasanaethir ganddynt a bod y cyhoedd yn ymddiried yn llwyr ynddynt. Dyna pam mae pob darpar gyflogai ym mynd drwy wiriad fetio trylwyr fel rhan o'r broses gwneud cais.

Hawl i weithio yn y DU

Er mwyn ymuno â ni, rhaid i chi feddu ar yr hawl barhaol i fyw a gweithio yn y DU heb unrhyw gyfyngiadau.

Preswylio

Dylai pob ymgeisydd fod wedi bod yn byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf o leiaf. Mae hyn yn ofynnol er mwyn sicrhau y gallwn gynnal gwiriadau fetio digonol ac mae hyn yn gymwys i bob ymgeisydd, ni waeth beth fo'i genedligrwydd.

Oedran

Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i ddechrau gweithio gyda ni. 

Euogfarnau a rhybuddiadau

Ni fyddwch yn gymwys i wneud cais os byddwch wedi cael dedfryd o garchar.

Rhaid datgan unrhyw rybuddiad ac euogfarn arall ac unrhyw ymwneud arall â'r heddlu yn ystod y broses fetio. Ni fydd hyn o reidrwydd yn arwain at dynnu eich cais yn ôl, gan y bydd pob cais yn cael ei asesu fesul achos.

Sefyllfa ariannol

Fel rhan o'ch gwiriadau, byddwn yn cadarnhau eich sefyllfa ariannol. Mae cyflogeion mewn sefyllfa freintiedig a gallant weld amrywiaeth o wybodaeth sensitif a gwerthfawr. Mae hyn yn golygu y gallent fod yn wynebu mwy o risg o fod yn agored i lygredd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn rhydd rhag pwysau dyledion heb eu talu neu rwymedigaethau heb eu clirio a gallu rheoli benthyciadau a dyledion yn synhwyrol.

Tatŵs

Nid yw tatŵs yn dderbyniol:

  • Os ydynt ar eich wyneb
  • Os ydynt uwchlaw llinell y coler ar ran flaen neu ochr eich gwddf,
  • Os ydynt yn fawr ar eich gwar ac na ellir eu cuddio'n hawdd
  • Pe gellid ystyried eu bod yn dramgwyddus mewn unrhyw ffordd, waeth ble maent ar y corff.

Caniateir tatŵs gweladwy ar rannau eraill o'r corff gan gynnwys dwylo, breichiau, coesau, traed ac ar y gwar (ar yr amod nad yw'r tatŵ yn amlwg a'i fod y tu ôl i'r llabed).

Ystyrir bod tatŵs ar y glust, nad ydynt yn rhai amlwg, yn dderbyniol hefyd. Rhoddir ystyriaeth i datŵs ar yr wyneb yr oedd eu hangen yn dilyn triniaethau meddygol neu ar gyfer triniaethau cosmetig e.e. aeliau.

Dylech gysylltu â'r tîm recriwtio os na fyddwch yn siŵr am eich tatŵs a byddwn yn rhoi cyngor i chi lle y bo'n bosibl.

Gallwch wneud hyn drwy anfon neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cysylltiadau amhriodol

Rhaid i chi allu cyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn ddiduedd ac yn effeithiol. Mae hyn yn golygu os ydych yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp, cymdeithas neu unigolyn a allai yn rhesymol fod yn gyfystyr â gwrthdaro buddiannau ar hyn o bryd neu os ydych erioed wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp o'r fath, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais.

Lluoedd Arfog EM

Oherwydd amserlenni ein proses recriwtio, dim ond os bydd gennych 12 mis neu lai o wasanaeth ar ôl cyn cael eich rhyddhau y caiff ceisiadau gan aelodau o'r lluoedd arfog eu derbyn. Bydd angen i chi anfon cadarnhad o'ch dyddiad rhyddhau disgwyliedig gyda'ch cais. (e.e. llythyr gan eich Prif swyddog).

Addysg a sgiliau

Os oes gennych chi gymwysterau Lefel 2 Mathemateg a Saesneg, o leiaf; yna nid oes rhaid i chi gwblhau'r profion a nodir isod; ond bydd angen i chi ddarparu'r tystysgrifau i'r tîm Recriwtio eu hadolygu. 

  • TGAU Gradd C/Lefel 4 neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg.
  • Sgiliau Gweithredol Lefel 2 mewn Rhifedd/Llythrennedd
  • Cymwysterau'r Alban a dderbynnir: SCQF Lefel 5, Canolradd 2 ar lefel 5 neu Radd Safonol (gyda chredyd) – wedi'u cyflawni ar y raddfa gywir mewn Mathemateg a Saesneg.

Rhaid amgáu copïau o dystysgrifau cymwysterau perthnasol trwy'r ddolen uchod. Ni dderbynnir cymwysterau mewn pynciau eraill, beth bynnag fo lefel y cymhwyster sydd gennych.

Os oes gennych Saesneg a Mathemateg ar lefel cymhwyster uwch bydd y rheini hefyd yn cael eu derbyn. Bydd gofyn i chi ddarparu ardystiad i ddangos bod y cymwysterau hynny wedi'u cyrraedd hyd at y safon ofynnol drwy'r ddolen uchod. Mae rhestr lawn o’r cymwysterau a dderbynnir ar gael yn y canllawiau Safonau Prentisiaethau ar gyfer Saesneg a Mathemateg ar GOV.UK. Dylech gyfeirio’n benodol at ‘Brentisiaethau Lefel 3’ sy’n ymdrin â’r gofynion ar gyfer prentisiaethau/diplomâu Lefel 3 ac uwch.

Buddiannau busnes

Bydd angen i chi ddatgan unrhyw fuddiant cyflogaeth neu fusnes arall sydd gennych ac y bwriadwch ei gynnal fel y gellir adolygu hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau gyda'r heddlu.

Fel arfer, ni fyddwch yn gymwys i gael eich penodi'n Swyddog Heddlu neu'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu os oes gennych unrhyw swydd neu gyflogaeth sy'n cynnwys hurio neu ennill, neu os ydych yn rhedeg unrhyw fusnes yn ogystal â bod yn Swyddog Heddlu neu'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.

Iechyd a Materion Meddygol

Efallai y bydd ein cyflogeion yn wynebu sefyllfaoedd a all fod yn llawn straen ac yn drawmatig ac a all, weithiau, arwain at wrthdaro corfforol. Mae ein staff yn gweithio oriau hir ar sifftiau sy'n cylchdroi ac, o ganlyniad, gall y rôl fod yn heriol yn gorfforol ac yn feddyliol. Felly, mae'n bwysig bod ein cyflogeion mewn iechyd da er mwyn iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau'n ddiogel.

Er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi llesiant ein cyflogeion, byddwn yn gofyn i chi ddarparu manylion perthnasol am eich iechyd a'ch hanes meddygol yn unol ag unrhyw gwestiynau y mae'n rhaid i ni eu gofyn yn ystod y broses gwneud cais.

Ymgeiswyr ag anableddau

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud addasiadau rhesymol lle y bo'n bosibl.

Chwilio ac ymgeisio am rôl fel Cwnstabl Cynorthwyol

Chwilio ein swyddi arrow