Close

Diogelu pob taith

Hysbysiad preifatrwydd

Sut rydym yn defnyddio data personol

Rhagymadrodd

Mae defnyddio a datgelu data personol yn y Deyrnas Unedig yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf). O dan y Ddeddf, mae Prif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi'i gofrestru fel rheolwr data [rhif cofrestru Z4882139]. Yng ngweddill yr hysbysiad preifatrwydd hwn cyfeirir at Brif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain fel ni.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio:

  • sut rydym yn casglu, storio, defnyddio, datgelu, cadw a dinistrio data personol drwy'r wefan yn www.btpcareers.co.uk  (cyfeirir at y gweithgareddau hyn hefyd fel prosesu data personol);
  • sut rydym yn casglu, storio, defnyddio, cadw, datgelu a dinistrio data personol am unigolion sy’n cael ei gasglu drwy ddulliau eraill, boed yn uniongyrchol oddi wrth destun y data, neu oddi wrth barti arall.
  • y camau a gymerwn i sicrhau bod y data personol rydyn ni’n ei brosesu yn cael ei ddiogelu'n briodol; a’r
  • hawliau sydd gan unigolion pan fyddwn yn prosesu eu data personol.

Byddwn yn trin yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni wrth ddefnyddio'r wefan hon yn gyfrinachol ac ni fyddwn yn ei datgelu i drydydd partïon oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny o dan y gyfraith, neu fel yr esbonnir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Rydym yn casglu gwybodaeth am sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio i helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau i'r cyhoedd, ac i ddiogelu’n systemau rhag defnyddwyr maleisus. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth drwy'r gwahanol swyddogaethau sydd ar gael ar y wefan sy'n eich galluogi i roi gwybodaeth i ni (fel ffurflenni ar-lein a'r cyfleuster sgwrsio byw) a hynny at y dibenion a ddisgrifir yn nes ymlaen yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Ar hyn o bryd mae'r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • gwybodaeth sy’n cael ei sicrhau gan ein system rheoli cynnwys i archwilio'r hyn y mae pobl yn chwilio amdano, beth maen nhw’n ei ganfod, ac achlysuron lle na fydd unrhyw ganlyniadau, sef gwybodaeth nad yw'n adnabod defnyddwyr unigol;
  • gwybodaeth a roddir gan ddefnyddwyr drwy ffurflenni ar-lein (at ddibenion sy’n cynnwys riportio troseddau, cyngor a gwybodaeth am riportio troseddau a riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol) a’r cyfleuster sgwrsio byw, sy’n gallu adnabod defnyddwyr unigol ac unigolion eraill gan ddibynnu ar ba wybodaeth y mae’r defnyddwyr yn ei rhoi (mae'n bosibl y byddwn yn gallu cael gafael ar wybodaeth a roddwch ar ffurflen ar-lein hyd yn oed os na fyddwch yn ei chyflwyno, oherwydd y ffordd y mae'r wefan wedi'i sefydlu i gadw ffurflenni sydd wedi’u llenwi’n rhannol yn awtomatig o dro i dro);
  • gwybodaeth ystadegol a geir drwy ddefnyddio Google Analytics nad yw'n adnabod defnyddwyr unigol (mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran 'Sut rydyn ni'n defnyddio cwcis?' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn);
  • eich cyfeiriad IP a manylion pa borwr rydych chi'n ei ddefnyddio, sy’n cael eu cofnodi pan fyddwch yn defnyddio’n ffurflenni ar-lein;
  • eich cyfeiriad IP, sy’n cael ei ddefnyddio i nodi’ch lleoliad os ydych yn defnyddio unrhyw nodweddion geo-leoli ar y wefan hon, ac nad ydym yn ei ddefnyddio ond i ddangos cynnwys perthnasol i chi, ac nad ydym yn ei storio na'i rannu gyda thrydydd partïon.

Beth yw data personol?

Data personol yw unrhyw wybodaeth rydyn ni’n ei thrin sy'n ymwneud â pherson naturiol sydd wedi’i adnabod neu sy’n adnabyddadwy. Ystyr 'person naturiol adnabyddadwy' yw unrhyw un y mae modd ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o wybodaeth, gan gynnwys drwy gyfeirio at enw, rhif adnabod, data lleoliad, dynodydd ar-lein neu at un neu ragor o ffactorau sy'n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, enetig, feddyliol, economaidd, ddiwylliannol neu gymdeithasol y person naturiol hwnnw.

Ein Manylion Cysylltu a'n Swyddog Diogelu Data

Ein Huned Rheoli Gwybodaeth sy’n rheoli sut rydyn ni’n cydymffurfio â’r gofynion diogelu data. Y Pennaeth Rheoli Gwybodaeth yw ein Swyddog Diogelu Data.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau diogelu data o ddifrif. Rydym yn cymryd gofal mawr i sicrhau ein bod yn prosesu’ch data personol yn briodol er mwyn cynnal eich ymddiriedaeth a'ch hyder. Gallwch gysylltu â'n Tîm Diogelu Data neu’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut rydym yn prosesu’ch data personol.

Y Tîm Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth,
Heddlu Trafnidiaeth Cymru,
Yr Ail Lawr,
3 Sgwâr Callaghan,
Caerdydd,
CF10 5BT

Ebost: dataprotection@btp.pnn.police.uk

Pam rydyn ni’n prosesu’ch data personol?

Rydyn ni o dan ddyletswydd gyfreithiol i gynnal y gyfraith, atal troseddu, dod â throseddwyr i gyfiawnder, a diogelu'r cyhoedd. I wneud hyn rydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni ystod o weithgareddau sy’n cael eu hadnabod yn gyffredin fel 'diben plismona'. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • atal a datrys troseddau;
  • dal ac erlyn troseddwyr;
  • diogelu bywyd ac eiddo;
  • cadw trefn;
  • cynnal cyfraith a threfn;
  • cynorthwyo'r cyhoedd;
  • gwarchod diogelwch gwladol;
  • amddiffyn achosion sifil; a
  • chyflawni unrhyw rai eraill o ddyletswyddau neu gyfrifoldebau’r heddlu sy'n codi o dan y gyfraith gyffredin neu’r gyfraith statudol.

Rydyn ni hefyd yn prosesu data personol at ddibenion sy’n ategu diben plismona. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gweinyddu staff, iechyd a lles galwedigaethol;
  • Rheoli cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, hysbysebu a'r cyfryngau;
  • Rheoli cyllid;
  • Adolygu, cyfrifyddu ac archwilio mewnol;
  • Hyfforddiant;
  • Rheoli eiddo; Rheoli yswiriant;
  • Rheoli cerbydau a thrafnidiaeth;
  • Rheoli’r gyflogres a budd-daliadau;
  • Rheoli cwynion;
  • Fetio;
  • Rheoli systemau technoleg gwybodaeth;
  • Gwasanaethau cyfreithiol; Darparu gwybodaeth;
  • Trwyddedu a chofrestru;
  • Gweinyddu pensiynwyr;
  • Ymchwil, gan gynnwys arolygon;
  • Rheoli perfformiad;
  • Chwaraeon a hamdden;
  • Caffael; Cynllunio; Profi systemau;
  • Diogelwch; Rheoli iechyd a diogelwch

Data personol pwy ydyn ni’n ei brosesu?

Rydym yn prosesu gwybodaeth sy'n ymwneud ag amryw o unigolion, gan gynnwys:

  • dioddefwyr troseddau;
  • tystion i droseddu;
  • pobl a gollfarnwyd am drosedd;
  • pobl yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd;
  • achwynwyr, gohebwyr ac ymholwyr;
  • cynghorwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr proffesiynol eraill;
  • cyflenwyr;
  • gweithwyr presennol a chyn-weithwyr, cadetiaid, asiantau, gweithwyr dros dro ac achlysurol, a gwirfoddolwyr;
  • cynrychiolwyr unigolion yn y rhestr hon, megis rhieni, perthnasau eraill, gwarcheidwaid, a phobl â phŵer atwrnai.

Pa fathau o ddata personol rydyn ni’n eu prosesu?

Gallwn brosesu data personol sy'n ymwneud â'r categorïau canlynol neu sy'n cynnwys y categorïau canlynol:

  • manylion personol (fel enw, cyfeiriad a manylion bywgraffyddol);
  • teulu, ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol;
  • manylion addysg a hyfforddiant;
  • Data Categori Arbennig – sef data personol sy'n datgelu tarddiad ethnig neu hiliol, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu gredoau eraill, aelodaeth undeb llafur, anhwylderau iechyd corfforol neu feddyliol, bywyd neu gyfeiriadedd rhywiol;
  • troseddau (gan gynnwys troseddau honedig);
  • achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau;
  • dynodwyr corfforol (gan gynnwys DNA, olion bysedd a samplau genetig neu fiometrig eraill),
  • sain a delweddau gweledol (ee o gamerâu wedi'u gwisgo ar y corff, CCTV, neu feddalwedd adnabod wyneb);
  • manylion cyflogaeth;
  • manylion ariannol;
  • nwyddau neu wasanaethau a ddarperir;
  • trwyddedau a ddelir;
  • cudd-wybodaeth am droseddwyr;
  • gwybodaeth sy'n nodi natur fregus defnyddwyr, statws fel targed parhaus, a/neu statws o ran troseddau casineb;
  • cyfeiriadau at gofnodion neu ffeiliau ysgrifenedig;
  • gwybodaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch;
  • manylion cwynion, digwyddiadau a damweiniau;
  • safbwyntiau ac asesiadau swyddogion a staff mewn perthynas ag unigolion yr ymdriniwyd â nhw.

Bydd y mathau o ddata personol rydyn ni’n eu prosesu yn amrywio gan ddibynnu ar y diben. Byddwn yn prosesu'r isafswm o ddata personol sy'n angenrheidiol at y diben perthnasol. Ddylech chi ddim tybio bod gennyn ni ddata personol ym mhob un o'r categorïau a nodwyd am bob unigolyn rydym yn prosesu ei ddata personol.

Nid yw'r rhestr uchod yn cynnwys popeth, a gallwn gasglu data personol mewn categorïau eraill at y dibenion a ddisgrifir.

Ble rydyn ni’n cael y data personol rydyn ni’n ei brosesu?

Rydym yn casglu data personol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys:

  • unigolion sy'n ymweld â'r wefan ac yn rhyngweithio â hi (gan gynnwys drwy lenwi a chyflwyno ffurflenni), a'u perthnasau, eu gwarcheidwaid a phobl eraill sy'n gysylltiedig â nhw;
  • busnesau (gan gynnwys cwmnïau diogelwch, a chyflenwyr eraill nwyddau a gwasanaethau) a sefydliadau eraill yn y sector preifat sy'n gweithio gyda'r heddlu mewn strategaethau atal troseddau;
  • sefydliadau'r sector gwirfoddol;
  • awdurdodau lleol, adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol (gan gynnwys y Swyddfa Gartref, Cyllid a Thollau EM, ac asiantaethau diogelu preifat);
  • asiantaethau a chyrff eraill sy’n gorfodi'r gyfraith (gan gynnwys rhai rhyngwladol);
  • asiantaethau partner sy'n ymwneud â strategaethau troseddu ac anhrefn;
  • unigolion sy'n gweithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban;
  • cynrychiolwyr cyfreithiol, awdurdodau erlyn, llysoedd a charchardai;
  • awdurdodau trwyddedu;
  • sefydliadau a gymeradwywyd a phobl sy'n gweithio gyda'r heddlu;
  • ombwdsmyn a chyrff rheoleiddio (gan gynnwys Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu, ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi);
  • archwilwyr;
  • gwasanaethau brys;
  • cyflogwyr presennol a blaenorol neu ddarpar gyflogwyr unigolion;
  • cynghorwyr neu ymarferwyr iechyd, gofal cymdeithasol a lles;
  • sefydliadau addysg a hyfforddi a chyrff arholi;
  • cysylltiadau busnes a chynghorwyr proffesiynol eraill;
  • ein gweithwyr, ein hasiantau, a gweithwyr dros dro ac achlysurol eraill;
  • pobl sy'n gwneud ymholiadau neu gŵynion;
  • sefydliadau a chynghorwyr ariannol, ac asiantaethau cyfeirio credyd;
  • sefydliadau arolygu ac ymchwilio;
  • cyrff masnach, cymdeithasau cyflogwyr a chyrff proffesiynol;
  • y cyfryngau; a hefyd
  • ein systemau CCTV ni’n hunain a chamerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff.

Beth yw’n sail gyfreithlon ni dros brosesu data personol?

Wrth brosesu data personol at ddiben plismona, ein sail gyfreithiol dros ei brosesu yw bod hynny’n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom. Mae’n swyddogaethau a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom wedi’u nodi, yn bennaf, yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, Deddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 a Deddf Gwrth-derfysgaeth, Troseddu a Diogelwch 2001.

Pan fyddwn yn prosesu data personol sy'n ymwneud ag euogfarnau a throseddau troseddol, mae angen ei brosesu am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd ac sy’n golygu arfer swyddogaeth a roddir i ni gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol. Mae gennym ddogfen bolisi briodol (yn unol â gofynion y Ddeddf) ar gyfer y gwaith prosesu hwnnw.

Pan fyddwn yn prosesu data personol at ddibenion heblaw diben plismona bydd ein sail gyfreithiol dros ei brosesu yn amrywio gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Fel arfer, y sail gyfreithiol berthnasol yw bod y prosesu:

  • yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract;
  • yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol gan gynnwys y gyfraith ar gyflogaeth);
  • er budd y cyhoedd neu at ddibenion swyddogol;
  • yn angenrheidiol er mwyn diogelu’ch buddiannau sy’n allweddol i fywyd;

ac ar adegau

  • gyda’ch cydsyniad pendant chi (sef cydsyniad y cewch ei dynnu’n ôl unrhyw bryd).

Pa fesurau diogelwch rydyn ni’n eu defnyddio wrth brosesu’ch data personol?

Rydym yn cymryd diogelwch yr holl ddata personol sydd o dan ein rheolaeth o ddifrif. Rydym yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o ran diogelwch, rhannau perthnasol o Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO27001, a lle bo'n briodol, canllawiau’r Coleg Plismona ar Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ar Sicrwydd Gwybodaeth.

Rydym yn sicrhau bod polisïau, hyfforddiant, mesurau technegol a gweithdrefnol priodol ar waith, gan gynnwys archwilio ac arolygu, i ddiogelu’n systemau gwybodaeth ysgrifenedig ac electronig rhag i ddata gael ei golli a’i gamddefnyddio. Dim ond pan fydd rheswm dilys ac o dan ganllawiau caeth ar sut y gellir defnyddio unrhyw ddata personol sydd ynddynt y byddwn yn caniatáu mynediad. Rydym yn rheoli ac yn gwella’n cydymffurfiaeth â’r safonau a’r canllawiau perthnasol yn barhaus er mwyn sicrhau diogelwch data personol sy’n ddigonol ac yn gyfoes.

Sut rydyn ni’n datgelu’ch data personol?

Gallwn ddatgelu data personol i ystod eang o dderbynwyr mewn unrhyw ran o'r byd (gan gynnwys y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd), gan gynnwys i'r rhai rydyn ni’n cael data personol ganddyn nhw yn wreiddiol. Gall y derbynwyr gynnwys:

  • asiantaethau gorfodi'r gyfraith;
  • busnesau (gan gynnwys cwmnïau diogelwch, a chyflenwyr eraill nwyddau a gwasanaethau) a sefydliadau eraill yn y sector preifat sy'n gweithio gyda'r heddlu mewn strategaethau atal troseddau;
  •  asiantaethau partner sy'n gweithio ar fentrau lleihau troseddu neu fentrau diogelu;
  • asiantaethau a thrydydd partïon eraill sy'n ymwneud â diogelu ac ymchwilio sy'n ymwneud â diogelwch gwladol rhyngwladol a domestig;
  • awdurdodau lleol, adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol (gan gynnwys y Swyddfa Gartref, yr Adran Drafnidiaeth, Cyllid a Thollau EM, y Swyddfa Twyll Difrifol, y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, y Fenter Twyll Genedlaethol, ac asiantaethau diogelu preifat);
  • Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain;
  • cynrychiolwyr cyfreithiol, awdurdodau erlyn, llysoedd, carchardai a phartneriaid eraill ym maes cyfiawnder troseddol;
  • darparwyr gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr;
  • cyrff neu unigolion sy'n gweithio ar ein rhan;
  • awdurdodau sy'n ymwneud â rheoli troseddwyr;
  • ombwdsmyn, archwilwyr ac awdurdodau rheoleiddio;
  • cyrff neu unigolion eraill lle bo'n ofynnol o dan unrhyw ddeddfwriaeth, rheol gyfreithiol, neu orchymyn llys;
  • cyrff neu unigolion eraill lle bo’n angenrheidiol er mwyn atal niwed i unigolion;
  • y cyfryngau.

Rydym yn penderfynu ar ddatgeliadau fesul achos, gan ddatgelu dim ond yr wybodaeth bersonol sy'n angenrheidiol ac yn gymesur â phwrpas penodol a hynny gyda rheolaethau a mesurau diogelu priodol ar waith.

Oherwydd y modd y mae’r wefan wedi’i sefydlu, mae’r holl ffurflenni ar-lein a lenwir yn cael eu hanfon yn ddiogel yn awtomatig at dîm TG canolog yr heddlu sy'n gyfrifol am gyflawni Portffolio Plismona Digidol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, yn ogystal â ninnau.

Os ydym yn datgelu gwybodaeth y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd i fannau sydd heb gyfreithiau diogelu data mor helaeth, rydym yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith i ardystio bod y data personol a ddatgelir yn cael ei ddiogelu'n ddigonol.

Am ba hyd rydym yn cadw’ch data personol?

Rydym yn cadw’ch data personol cyhyd ag y bo’i angen at y diben neu'r dibenion penodol rydyn ni’n ei ddal ar eu cyfer.

Os gosodwn unrhyw ddata personol i chi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, bydd yn cael ei gadw, ei adolygu a'i ddileu yn unol â chyfnodau cadw cenedlaethol y cytunwyd arnynt, sy'n newid o dro i dro (https://www.acro.police.uk/acro_std.aspx?id=699).

Byddwn yn cadw cofnodion sy'n cynnwys data personol ynglŷn ag ymchwiliadau troseddol, cudd-wybodaeth, diogelu'r cyhoedd a chadw yn y ddalfa yn unol â chanllawiau’r Coleg Plismona ar Reoli Gwybodaeth yr Heddlu.

Beth yw’ch hawliau dros eich data personol rydyn ni’n ei brosesu, a sut gallwch chi arfer y rhain?

O dan y Ddeddf mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer mewn perthynas â data personol amdanoch rydyn ni’n ei brosesu. Does dim rhaid ichi dalu i arfer eich hawliau (ac eithrio ffi resymol os yw cais am weld gwybodaeth yn amlwg yn ddi-sail neu'n ormodol ond ein bod yn cytuno i'w gyflawni beth bynnag).

Weithiau mae angen inni ofyn am wybodaeth benodol gennych i'n helpu i gadarnhau pwy ydych chi a sicrhau bod gennych awdurdod i arfer yr hawliau.

Hawl i weld: Gallwch ofyn am gael gweld y data personol amdanoch sydd gennym yn rhad ac am ddim. Gallwch ofyn am weld y data personol sydd gennym amdanoch drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Hawl i gael eich hysbysu: Mae gennych hawl i gael gwybod sut rydym yn cael eich gwybodaeth bersonol a sut rydym yn ei defnyddio, ei chadw a'i storio, a chyda phwy rydyn ni’n ei rhannu. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi'r wybodaeth honno i chi, yn ogystal â dweud wrthych beth yw’ch hawliau o dan y cyfreithiau perthnasol.

Hawl i gywiro: Os oes gennyn ni ddata personol amdanoch chi sy'n anghywir neu'n anghyflawn, mae gennych hawl i ofyn inni ei gywiro. Gallwch ofyn inni gywiro’ch data personol drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Hawl i ofyn am ddileu gwybodaeth: O dan amgylchiadau penodol gennych chi hawl i ofyn inni ddileu’ch data personol er mwyn ei atal rhag cael ei brosesu’n barhaus pan nad oes cyfiawnhad i ni ei gadw. Yr amgylchiadau sydd fwyaf tebygol o fod yn gymwys yw:

  • pan nad oes angen dal eich data personol mwyach mewn perthynas â'r diben y gwnaethom ei gasglu a'i brosesu ar ei gyfer yn wreiddiol;
  • pan fyddwch yn tynnu’ch cydsyniad yn ôl inni ddal eich data personol os ydym yn dibynnu ar eich cydsyniad i'w ddal.

Nid yw'r hawl i ddileu gwybodaeth yn gymwys os ydyn ni’n prosesu’ch data personol er mwyn:

  • cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol;
  • cyflawni tasg sy’n cael ei chyflawni er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol;
  • sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol;
  • arfer yr hawl i ryddid mynegiant a gwybodaeth;
  • dibenion archifo er budd y cyhoedd, ymchwil wyddonol, ymchwil hanesyddol neu ddibenion ystadegol lle mae dileu’r wybodaeth yn debygol o'i gwneud yn amhosibl cyflawni’r gwaith prosesu hwnnw neu o amharu'n ddifrifol arno.

Os ydych am ofyn inni ddileu’ch data personol gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Hawl i gyfyngu prosesu: O dan amgylchiadau penodol mae gennych hawl i ofyn inni gyfyngu ar brosesu’ch data personol. Gallai hyn ddigwydd mewn achosion:

  • lle rydych chi’n herio cywirdeb eich data personol tra byddwn ni wrthi’n gwirio'r cywirdeb;
  • lle mae’ch gwybodaeth wedi'i phrosesu'n anghyfreithlon a'ch bod yn gwrthwynebu ei dileu ac wedi gofyn am gyfyngu’r prosesu yn lle hynny;
  • lle nad oes angen eich data personol arnom mwyach ond bod arnoch chi ei angen er mwyn sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliad cyfreithiol ac nad ydych chi am i ni ei ddileu.

Gallwch ofyn inni gyfyngu ar waith i brosesu’ch data personol drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Hawl i gludadwyedd data: Mae gennych chi hawl i gael eich gwybodaeth bersonol a’i hailddefnyddio at eich dibenion chi’ch hun, gan ei throsglwyddo o un amgylchedd i'r llall. Dim ond i ddata personol a ddarparwyd gan unigolyn y mae'r hawl hon yn gymwys, pan fo’r prosesu wedi’i seilio ar ei gydsyniad, neu er mwyn cyflawni contract a phan wneir y prosesu hwnnw drwy ddulliau awtomataidd. Os hoffech drafod yr hawl hon, gallwch wneud hynny dwy ddefnyddio'r manylion cysylltu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Hawl i wrthwynebu: Mae gennych chi hawl i wrthwynebu’r canlynol:

  • prosesu sy’n seiliedig ar fuddiannau cyfreithlon neu gyflawni tasg er budd y cyhoedd a/neu arfer awdurdod swyddogol;
  • prosesu’ch gwybodaeth ar gyfer ymchwil ac ystadegau gwyddonol a hanesyddol;
  • marchnata uniongyrchol.

Rhaid i unrhyw wrthwynebiad gael ei wneud ar sail sy'n ymwneud â'ch sefyllfa benodol chi. Os hoffech arfer eich hawl i wrthwynebu gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Hawliau sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd: Mae gennych chi hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad pan fydd hwnnw wedi’i seilio ar brosesu awtomataidd yn unig (gan gynnwys proffilio) ac yn creu effaith gyfreithiol neu effaith arwyddocaol debyg arnoch. Nid yw'r hawl hon yn gymwys os yw'r penderfyniad wedi'i awdurdodi gan y gyfraith, os yw’n angenrheidiol er mwyn gwneud neu gyflawni contract, neu os yw wedi'i seilio ar eich cydsyniad chi. Nid ydym yn debygol o wneud penderfyniadau awtomataidd gan fod ein prosesau'n cynnwys rhyw fath o ryngweithio a phenderfynu dynol.

Proffilio yw unrhyw fath o brosesu data personol yn awtomataidd gan fwriadu gwerthuso agweddau personol penodol amdanoch chi i rag-weld pethau amdanoch chi fel eich ymddygiad, eich diddordebau, eich symudiadau neu’ch perfformiad yn y gwaith. Nid ydym yn gwneud gwaith proffilio awtomataidd ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am benderfyniadau awtomataidd neu broffilio awtomataidd, gallwch eu codi drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Sut i gwyno

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy’n rheoleiddio'r gwaith o brosesu data personol. Gallwch gwyno i’r ICO os ydych yn anfodlon ar sut rydym wedi prosesu’ch data personol.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk/concerns

Dyddiad y diweddariad a’r newidiadau diweddaraf

Y tro diwethaf inni ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn oedd 20 Mehefin 2020. Rydym yn adolygu’r polisi preifatrwydd hwn yn rheolaidd a'i ddiweddaru os bydd unrhyw wybodaeth ynddo yn newid.