Close

Diogelu pob taith

Pam ymuno â ni?

Gyrfa ym maes plismona gwahanol.

Y ffordd rydym yn gweithio sydd wir yn ein gosod ar wahân. Yma, mae gennym ddiwylliant cyfeillgar, agored ac ymroddedig lle rydym yn gwneud pob ymdrech i helpu unrhyw un mewn angen. Rydym yn cydweithio fel un Heddlu, gan fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau a chefnogi ein gilydd ar hyd y ffordd.

Rydym yn falch o fod yn Heddlu sy'n rhoi pobl yn gyntaf ac sy'n cael effaith gadarnhaol ar ein cymuned. Ble bynnag y byddwch yn gweithio, byddwch yn chwarae rhan werthfawr yn y gwaith o gadw teithiau'n ddiogel i filiynau o bobl bob dydd.

Drwy ymuno â ni, gallwch fod yn siŵr y byddwch yn meithrin sgiliau newydd, yn cael eich herio a'ch cefnogi ac yn gwneud ffrindiau oes.

Byddwn yn gwobrwyo eich uchelgais a'ch egni â'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ragori. Cewch gyfleoedd heb eu hail i ddatblygu eich gyrfa, gyda'r posibilrwydd o ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb, trosglwyddo i unedau arbenigol neu ddatblygu ac arwain eraill.

Sut bynnag y byddwch yn gweld eich gyrfa yn datblygu yn y dyfodol, cewch bob cyfle a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol.

Ein pedair rôl mewn lifrai.