Close

Diogelu pob taith

Yn Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP), rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu heddlu sy’n adlewyrchu ac yn gwasanaethu ein cymunedau. Mae ein Cynllun ‘Ar Batrôl’ yn cynnig cyfle cyffrous i unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa blismona gamu i’n byd a chael mewnwelediad unigryw i gyfrifoldebau Swyddog Heddlu, Cwnstabl Gwirfoddol, neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) o ddydd i ddydd.

Mae’r rhaglen hon yn caniatáu i gyfranogwyr gysgodi ein swyddogion gweithredol tra ar ddyletswydd, gan ddarparu dealltwriaeth werthfawr o bwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud, a’r rôl hanfodol rydyn ni'n ei chwarae wrth sicrhau diogelwch miliynau o deithwyr a staff ar draws rhwydwaith rheilffyrdd y DU.

 

Beth Byddwch chi'n ei Ennill

  • Golwg y tu ôl i'r llenni ar blismona gweithredol gyda BTP
  • Profiad uniongyrchol o'n cenhadaeth i sicrhau rheilffordd ddiogel a dibynadwy.
  • Cipolwg ar sut rydyn ni'n mynd i'r afael â throseddau, yn amddiffyn cymunedau, ac yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd.
  • Dealltwriaeth gliriach o'r rhinweddau a'r gwerthoedd rydyn ni'n eu ceisio mewn darpar recriwtiaid.

 

Meini Prawf Cymhwysedd

I gymryd rhan yn y Cynllun ‘Ar Batrôl’, rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol:

  1. Preswyliad: Rhaid eich bod wedi bod yn byw yn y DU am o leiaf tair blynedd.
  2. Cofnod Troseddol: Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi derbyn unrhyw ddedfrydau o garchar.
  3. Hawl i Weithio: Rhaid bod gennych statws hawl i weithio anghyfyngedig yn y DU.
  4. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn. 
  5. Bydd angen i chi hefyd basio gwiriad cofnodion troseddol. 
  6. Nid yw cael collfarn flaenorol o reidrwydd yn golygu na allwch chi ddefnyddio'r cynllun. Rydyn ni'n adolygu pob cais fesul achos

 

Pam Ymuno â'r Cynllun?

Mae’r Cynllun ‘Ar Batrôl’ wedi’i gynllunio i ysbrydoli a hysbysu’r rhai sy’n ystyried gyrfa gyda BTP. P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Swyddog Heddlu, Cwnstabl Gwirfoddol, neu PCSO, bydd y profiad hwn yn eich helpu i ddeall ein gwerthoedd, ein hymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd, a sut y gallech chi chwarae rhan yn ein cenhadaeth i fod yn heddlu sy’n arwain y byd, wedi ein hymddiried i amddiffyn a gwasanaethu.

 

Ynglŷn â BTP

Fel yr heddlu penodedig ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Prydain, mae BTP yn unigryw. Bob dydd, rydyn ni'n sicrhau diogelwch dros chwe miliwn o deithwyr a staff rheilffyrdd, gan ymdrin â heriau mor amrywiol â diogelu unigolion agored i niwed i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfniadol. Rydyn ni'n falch o ddarparu gwasanaeth sy’n broffesiynol, yn arloesol ac yn canolbwyntio ar y gymuned.

 

Cymerwch y Cam Nesaf ar Eich Taith

Os ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth ac eisiau archwilio sut olwg allai fod ar gyrfa mewn plismona, gwnewch gais i ymuno â’r Cynllun ‘Ar Batrôl’ heddiw.

Cliciwch yma i wneud cais nawr.

Gyda’n gilydd, gadewch i ni gadw rheilffyrdd Prydain yn ddiogel.

 

Sylwch: Oherwydd y galw enfawr presennol am ein gwasanaethau, mae lleoedd ar y cynllun hwn yn gyfyngedig iawn. Dim ond os ydych chi'n bodloni'r meini prawf uchod y gallwn ni ystyried ceisiadau. Nid yw hyn ynberthnasol i’n partneriaid hanfodol, a allai ddymuno ymuno â swyddogion ar Reidio Gyda Ni fel rhan o’u partneriaeth â ni.