Bob blwyddyn mae ein staff Cyswllt Cyhoeddus yn delio â channoedd o filoedd o alwadau ffôn, digwyddiadau a throseddau. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein swyddogion i leihau troseddau, canfod troseddwyr a lleihau aflonyddwch ar y rheilffordd.
Mae gweithio yn yr ystafell reoli yn amgylchedd heriol ac yn aml yn un cyflym. Rydyn ni'n delio â llawer o wahanol fathau o ddigwyddiadau ac dw i wrth fy modd bod pob diwrnod yn her. Mae'r rhan fwyaf o'n sifftiau yn 12 awr, yn ystod y dydd a'r nos. Fel swyddogion cyfathrebu, rydyn ni'n cymryd galwadau ffôn brys, yn creu logiau digwyddiadau ac yn gwneud galwadau sy’n mynd allan i wasanaethau brys eraill, staff rheilffordd ac aelodau’r cyhoedd pan fo angen. Mae’r rhan arall o’n rôl yn ymwneud â gweithio ar sianeli radio, rheoli digwyddiadau a defnyddio swyddogion iddyn nhw wrth sicrhau eu diogelwch nhw a diogelwch staff y rheilffyrdd ac aelodau’r cyhoedd ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Yn ystod cyfnodau prysur gallwn ni fod yn rheoli digwyddiadau lluosog, felly mae angen i ni ganolbwyntio a chadw i fyny. Gall digwyddiadau amrywio o osgoi talu am docyn, teithwyr difrïol a methu â chydymffurfio ar groesfan rheilffordd drwodd i ymosodiadau, unigolion mewn perygl o niwed ac yn anffodus pobl yn colli eu bywydau ar y rheilffordd. Mae gwaith tîm, cyfathrebu, gwneud penderfyniadau, asesiadau risg dynamig a chanolbwyntio ar ddiogelwch a diogelu i gyd yn ganolog i'r hyn a wnawn bob dydd. Mae'n rhaid i ni benderfynu ar yr ymateb mwyaf effeithiol, effeithlon a phriodol i bob galwad am wasanaeth.
Rwyf wedi gweithio gyda BTP ers dros 11 mlynedd ac rwy'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd tîm lle mae pawb ag aml-sgiliau ac rydyn ni'n gweithio gyda’n gilydd i reoli digwyddiadau, ac er y gall rhai fod yn ofidus, rydyn ni'n gwneud yn siŵr ein bod yn cefnogi lles ein gilydd. Mae gweithio yn yr ystafell reoli'n cynnig llawer o gyfleoedd datblygu, o fod yn swyddog cyfathrebu i ddod yn rheolwr tîm neu diwtor, ac rydych chi'n dod i ddeall BTP yn wych.