Close

Diogelu pob taith

Dewch i gwrdd â SCCH Mark Smith

21/07/2024

Fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y rheilffyrdd yn rhedeg yn esmwyth a diogelwch y cyhoedd sy’n teithio ar draws y wlad gyfan a meithrin ymddiriedaeth gyda’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.

Un diwrnod gallech chi fod yn helpu i aduno aelod coll o'r teulu mewn gorsaf fach wledig, a'r nesaf yn plismona dros 100,000 o bobl yn arllwys trwy'ch gorsaf i weld eu tîm neu hoff fand gerllaw.

Un diwrnod efallai mai chi fydd y person cyntaf yn y fan a'r lle yn perfformio CPR i achub bywyd, ac yna ar ddiwrnod arall yn rhoi cyngor syml fel cyfarwyddiadau cywir neu'n cefnogi ein cydweithwyr yn staff y rheilffyrdd trwy sicrhau bod pawb yn chwarae yn ôl yr un rheolau wrth linell giât.

Nid llygaid a chlustiau BTP yn unig ar y rheilffordd yw SCCH da, bydd angen i chi fod yn fodlon dod â’ch sgiliau datrys problemau i’r amlwg, dangos parodrwydd i ymgysylltu â’r cyhoedd, rhoi help llaw a, dim ond mynd allan ar y rhwydwaith rheilffyrdd 

Ar ôl bod yn Swyddog Prawf ac yn Swyddog Llu Ffiniau’r DU ers tuag ugain mlynedd, roeddwn i bob amser wedi meddwl am blismona fel gyrfa, ond wnes i ddim mentro.

O’i roi’n blwmp ac yn blaen, dim ond nes i mi ddarllen stori arall am blismon drwg y dechreues i feddwl bod angen pobl dda ar blismona i sefyll i fyny a helpu. Roeddwn i wedi clywed am BTP ac roedd gen i olwg ramantus o’r rheilffordd bob amser, felly aeth y cais i mewn. Cyn bo hir roeddwn i'n hyfforddi yn Spring House, yn dysgu diogelwch traciau, y model riportio a llawer mwy. Fe wnaeth fy nhiwtor fy helpu i oresgyn fy nerfusrwydd cychwynnol yn ystod fy nghyfnod tiwtora o bedair wythnos. Yn fuan dysgais eto werth cael amrywiaeth eang ac amrywiol o gydweithwyr profiadol, gan mai’r amrywiaeth hwn a fu’n aml yn ein helpu i ymateb i’r heriau a oedd yn ein hwynebu.

Er nad wyf erioed wedi diystyru dod yn PC, fe wnes i ddarganfod fy mod yn hoff iawn o rôl SCCH. Bod allan ar y rheilffordd bob dydd, helpu i atal a chanfod troseddau, ond hefyd gwasanaethu'r gymuned trwy geisio ei gwneud ychydig yn fwy diogel bob dydd.

I mi roeddwn i'n gallu gwneud defnydd da o’m profiad gwaith ieuenctid gwirfoddol a dod yn Swyddog Cyswllt Ysgolion yn mynd i ysgolion a cholegau gan sicrhau bod myfyrwyr o bob oed yn gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y rheilffordd a dysgu sut y gallant gael ein cymorth.

Fel rhan o Dîm Plismona Bro (NPT) ym Mharc Wembley, rydym bob amser yn chwilio am 'atebion syml i ddatrys problemau lleol.' Un syniad a brofodd yn llwyddiant oedd creu man diogel hynod weladwy gyda gwefru ffôn am ddim ar ddiwnodau digwyddiadau mawr. Nid yn unig y gallai pobl ddod o hyd i BTP yn hawdd (ac weithiau eu ffrindiau neu deulu hefyd) ond gallen nhw hefyd wefru eu ffonau a siarad â ni wrth iddyn nhw aros. Roedd hyn yn lleihau gorbryder i lawer ac yn adeiladu ymddiriedaeth gydag eraill. Yn ddiweddarach fe wnaethom gynnig bandiau arddwrn syml i rieni sy'n dod â'u plant ar ddiwrnod mawr allan. Drwy roi eu rhif ffôn arnyn nhw, roedd y bandiau arddwrn hyn yn helpu i aduno anwyliaid coll yn gyflym ac arbed adnoddau gwerthfawr yr heddlu.

Fel SCCH y dyfodol, efallai mai chi fydd yr un i feddwl am y syniad gwych nesaf a chyfrannu at gadw'r cyhoedd sy'n teithio'n ddiogel.

Categori: PCSO