Close

Diogelu pob taith

Ditectif Gwnstabl Mohit Behl

28/08/2024

Fe wnaeth fy nhaith blismona gychwyn yn 2009 pan ymunais â Heddlu Swydd Gaerlŷr fel Cwnstabl Gwirfoddol tra fy mod i'n dal yn y brifysgol. Roedd cydbwyso bywyd academaidd â gofynion plismona yn heriol, ondfe wnaeth roi mewnwelediad gwerthfawr i mi o bwysigrwydd plismona adweithiol a rhagweithiol wrth gynnal diogelwch cymunedol. Gan weithio ochr yn ochr â thimau ymateb lleol, fe wnes i ymateb i alwadau am wasanaeth ac ymgysylltais â’r gymuned yn ystod digwyddiadau'r gymdogaeth, gan ddysgu arwyddocâd meithrin perthnasoedd cryf â’r rhai rydym yn eu gwasanaethu.

Wrth i mi ennill profiad, rhoddwyd mwy o gyfrifoldebau i mi, gan ddod yn Rhingyll Gwirfoddol  yn y pen draw. Yn y rôl hon, fe wnes i arwain gweithrediadau a oedd yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r llu, gan arwain fy nhîm i gefnogi mentrau cymdogaeth lleol. Cyn dod yn Gwnstabl Heddlu llawn amser, fe wnes i i hefyd weithio yn Mansfield House fel swyddog tîm cymorth lleol wrth y ddesg flaen. Fe wnaeth hyn roi mewnwelediad amhrisiadwy i mi ar agwedd arall ar blismona, un sydd yn aml yn gweithredu y tu ôl i'r llenni ond sydd yr un mor bwysig.

Yn 2013, trosglwyddais i rôl amser llawn fel Cwnstabl Heddlu. Roedd fy amser fel PC yn amrywiol - fe wnes i weithio ar y Tîm Ymchwilio Lleol, ymateb i argyfyngau, cyfrannu at dîm prosiect yn canolbwyntio ar wella gallu gweithredol, hyfforddi yn yr ystafell reoli, a gorffen fy ngwasanaeth fel Ditectif Gwnstabl yn CID. Fe wnaeth pob rôl ychwanegu dimensiwn newydd at fy nealltwriaeth o blismona a mireinio fy sgiliau ymchwilio.

Yn 2021/2022, fe wnes i'r penderfyniad sylweddol i drosglwyddo i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP), gan ymuno â thîm CID Canolbarth Lloegr fel Ditectif Gwnstabl. Roedd y broses ymgeisio'n llyfn ac ac yn drefnus iawn, gyda diweddariadau rheolaidd a oedd yn gwneud i'r broses bontio deimlo'n ddi-dor. Fe wnaeth y tair wythnos o hyfforddiant yn Llundain ddarparu dealltwriaeth ddofn o sut mae BTP yn gweithredu a heriau unigryw plismona amgylchedd y rheilffyrdd.

Ar ôl ymuno â'r CID â BTP, fe ddeuthum ar draws yr heriau nodedig a berir gan leoliad y rheilffyrdd yn gyflym, lle mae daearyddiaeth yn chwarae rhan hanfodol mewn dynameg troseddu. Roedd fy ngwaith yn cynnwys mynd i'r afael ag ystod eang o droseddau, o fân droseddau i ymchwiliadau difrifol, cymhleth. Fe wnaeth y profiad hwn ehangu fy arbenigedd ymchwiliol ac fe wnaeth ddyfnhau fy nealltwriaeth o ofynion unigryw plismona ar y rheilffyrdd.

Ar ôl blwyddyn gyda CID, fe wnes i achub ar y cyfle i symud i'r Uned Datblygu Llinellau Cyffuriau. Mae’r rôl hon wedi bod yn hynod werth chweil, gan ganiatáu i mi fynd i’r afael â throseddau difrifol a chymhleth gyda ffocws cryf ar ddiogelu a chydweithio mewn partneriaeth. Mae natur troseddau Llinellau Cyffuriau wedi mynd â mi ar draws y wlad, gan weithio gydag asiantaethau a chymunedau amrywiol i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a gyflwynir gan y gweithrediadau hyn.

Mae gweithio fel Ditectif Gwnstabl yn yr Uned Datblygu Llinellau Cyffuriau gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wedi bod yn brofiad hynod werth chweil. Mae heriau unigryw mynd i’r afael â throseddau llinellau cyffuriau, sydd yn aml yn cynnwys unigolion agored i niwed ac sy’n rhychwantu gwahanol ranbarthau, wedi fy ngwthio i ddatblygu fy sgiliau a’m harbenigedd ymhellach.

Mae'r amgylchedd cydweithredol o fewn BTP, lle rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau a chymunedau amrywiol, wedi bod yn allweddol wrth fynd i'r afael yn effeithiol â chymhlethdodau gweithrediadau llinellau cyffuriau. Mae pob dydd yn dod â her newydd, ac mae'r cyfle i gael effaith wirioneddol trwy ddiogelu'r rhai sydd mewn perygl ac amharu ar rwydweithiau troseddol yn rhoi boddhad mawr.

Mae ffocws arbenigol y BTP ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn ychwanegu haen ychwanegol o gymhlethdod at y rôl, wrth i ni lywio dynameg unigryw troseddu o fewn yr amgylchedd hwn. Mae'r gefnogaeth, yr hyfforddianta'r adnoddau a ddarperir gan BTP wedi fy arfogi i wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol, ac mae'r ymdeimlad o bwrpas a chyfeillgarwch yn yr uned yn ei wneud yn lle gwirioneddol gadarnhaol i weithio.

O fy nyddiau cynnar fel Cwnstabl Gwirfoddol yng Nghaerlŷr i fy rôl bresennol gyda BTP, rwyf wedi bod yn ffodus i ddatblygu ystod eang o sgiliau a chael profiadau amrywiol sydd wir wedi llywio fy ngyrfa ym maes plismona. Mae fy nhaith yn parhau gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, lle rwyf wedi gallu cael hyfforddiant arbenigol a gwella fy set sgiliau ymhellach.

 

Categori: Detective Constable