Close

Diogelu pob taith

Fy Nhaith gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: O PCSO i Ringyll

20/07/2024

Fy Nhaith gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: O PCSO i Ringyll

Roedd cychwyn fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn ddechrau taith hynod o foddhaus. Fel PCSO, roeddwn i'n wyneb y gymuned, gan ymgysylltu â’r cyhoedd, staff, rhoi sicrwydd, a sicrhau diogelwch teithwyr a staff ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd. Roedd yn rôl a ddysgodd bwysigrwydd plismona cymunedol i mi a gosododd y sylfaen ar gyfer fy ngyrfa o fewn y BTP.

Cofleidio Rôl PCSO

Roedd fy nyddiau fel PCSO yn amrywiol a gweithgar. O gynnal patrolau gweladwy mewn gorsafoedd trên prysur i gynorthwyo ag ymchwiliadau, daeth heriau a chyfleoedd dysgu newydd bob dydd. Y profiad ymarferol o ymgysylltu â'r gymuned, gofal dioddefwyr, adeiladu a chryfhau perthnasoedd a bod yn lygaid a chlustiau i'r gymuned. Fe wnes i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a datrys problemau cryf, sy'n hanfodol i blismona.

Roedd y gefnogaeth a'r hyfforddiant a ddarparwyd gan BTP yn eithriadol. Ces i fy annog i ddysgu a gwella’n barhaus, gan fynychu gweithdai a sesiynau hyfforddi a gyfoethogodd fy ngwybodaeth a’m sgiliau. Roedd y cyfeillgarwch ymhlith cydweithwyr a’r ymdeimlad o wneud gwahaniaeth yn y gymuned wedi fy nghadw’n frwdfrydig ac yn angerddol am fy ngwaith.

Pontio i Gwnstabl yr Heddlu (PC)

Ar ôl ennill profiad a hyder sylweddol fel PCSO, penderfynais gymryd y cam nesaf a gwneud cais i fod yn Gwnstabl yr Heddlu. Roedd y cyfnod pontio'n gyffrous ac yn heriol. Fel PC, fe wnaeth fy nghyfrifoldebau ehangu, ac roeddwn yn rhan o ymchwiliadau mwy cymhleth, arestiadau, a mentrau atal troseddu. Roedd y rôl yn galw am ddealltwriaeth ddyfnach o blismona, meddwl yn feirniadol, a gwneud penderfyniadau cyflym.

Roedd y rhaglen hyfforddi ar gyfer PCs newydd wedi fy mharatoi'n dda ar gyfer gofynion y swydd. Dysgais uwch dechnegau plismona, dulliau ymchwilio fforensig, a gweithdrefnau cyfreithiol. Roedd y fentoriaeth gan swyddogion profiadol yn hynod fuddiol, gan fy arwain drwy’r cyfnod pontio a fy helpu i addasu i’r rôl newydd.

Dyrchafiad i'r Rheng Rhingyll

Wnaeth fy nhaith ddim stopio yno. Gydag ymroddiad, gwaith caled, a chefnogaeth barhaus y BTP, roeddwn yn anelu at ddatblygu fy ngyrfa ymhellach. Ar ôl sawl blwyddyn o wasanaethu fel PC, ymgymerais ag arholiad y Rhingyll a phasio. Roedd y dyrchafiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol, gan nodi fy nhwf a'm hymrwymiad i'r heddlu.

Fel Rhingyll, rwyf bellach yn arwain tîm o swyddogion, yn goruchwylio gweithrediadau, ac yn sicrhau bod ein strategaethau plismona yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion BTP. Mae fy rôl yn ymwneud â mentora swyddogion iau, rheoli digwyddiadau, a hyrwyddo amgylchedd tîm cadarnhaol a chydweithredol. Mae’r sgiliau arwain a ddatblygais fel PCSO a PC wedi bod yn allweddol i’m llwyddiant fel Rhingyll.

Symud i mewn i Recriwtio.

Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am recriwtio ac yn malio’n fawr am Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae denu’r dalent orau a recriwtio’r swyddogion a’r staff gorau i ysgogi newid a hyrwyddo ein hunaniaeth unigryw yn rhywbeth yr wyf yn wirioneddol ymroddedig iddo. Rwyf wedi mwynhau pontio’r bwlch rhwng byd y swyddogion gweithredol a byd y staff yn fawr. Fel goruchwyliwr y tîm recriwtio swyddogion, rydym yn cymryd camau arwyddocaol i wella ein prosesau a'n nod yw dod yn brif heddlu'r byd. Rwy'n cael cymhelliant mawr yn y rôl hon ac rwy'n croesawu'r her gyda brwdfrydedd.

Myfyrio ar Fy Nhaith

Wrth edrych yn ôl, mae fy nhaith o PCSO i Ringyll wedi bod yn hynod werth chweil. Bob cam o'r ffordd, mae BTP wedi rhoi'r offer, yr hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnaf i ragori. Mae’r profiadau amrywiol, o ymgysylltu â’r gymuned i ymchwiliadau cymhleth, wedi fy siapio’n swyddog cyflawn sy’n gallu cael effaith sylweddol.

I unrhyw un sy'n ystyried gyrfa gyda BTP, gallaf ddweud yn hyderus bod y cyfleoedd ar gyfer twf a datblygu'n ddiderfyn. Gall y daith fod yn heriol, ond mae manteision gwasanaethu ac amddiffyn y gymuned yn anfesuradwy. Os oes gennych chi'r angerdd, ymroddiad, ac awydd i wneud gwahaniaeth, BTP yw'r lle i fod.

Oes gennych ddiddordeb mewn cychwyn eich taith gyda BTP? Gallwch ddysgu rhagor yma

Categori: PCSO