Close

Diogelu pob taith

Gwreichion o ysbrydoliaeth

27/07/2024

Dechreuais weithio yn BTP ym mis Ionawr 2006 fel Gweithredwr PNC, gan weithio yn yr Adran Gyfiawnder. Roeddwn i ar adeg yn fy mywyd lle nad oeddwn i'n siŵr beth roeddwn i am ei wneud gyda fy ngyrfa, ar ôl cael llawer o swyddi gwahanol a chyn dechrau gyda BTP roeddwn i'n brif gogydd. Roedd gen i ddiddordeb mewn plismona erioed gan fod llawer o aelodau fy nheulu'n swyddogion heddlu, fy nhad, llysfam, modryb, ewythr ac roedd fy llys-daid yn swyddog gyda BTP mewn gwirionedd. Felly pan ddaeth rôl Gweithredwr PNC ar gael, penderfynais wneud cais ac roeddwn i'n llwyddiannus.
Roedd y rôl yn cynnwys diweddaru Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu gyda chanlyniadau gwrandawiadau Llys, amodau mechnïaeth a gwarantau ar gyfer pob gwrandawiad Llys yn Ne Lloegr. Byddai'r holl wybodaeth yn dod drwodd o bob Llys ar ffacs. Roedd yn rhaid i mi hefyd reoli'r ffeiliau achos ac unwaith y bydden nhw wedi'u cwblhau byddai'n rhaid eu hanfon i'w storio. Mae'r broses gyfan yn ddigidol nawr sy'n ei gwneud hi'n llawer haws ac yn sicr yn llawer cyflymach! Roedd yn rôl hynod ddiddorol a des i gysylltiad â llawer o wahanol bobl ar draws BTP a'r System Cyfiawnder Troseddol.
Ar ôl oddeutu blwyddyn, symudais i rôl y Swyddog Gwarant. Roedd y rôl hon yn bendant yn fwy diddorol ac roedd yr oriau'n wych, byddwn i'n dechrau am 07:00 ac yn gorffen am 15:00. Byddwn i'n cyrraedd yn gynnar iawn yn y bore ac yn gwirio'r logiau i weld a oedd unrhyw un wedi'i gadw ar warant dros nos ac yna'n paratoi'r ffeiliau achos ar gyfer y llys. Byddai'n rhaid i mi sicrhau bod y negesydd wedi gadael gorsaf yr heddlu gyda'r ffeiliau achos erbyn 08:30 i sicrhau bod gan y CPS y gwaith papur ar gyfer y gwrandawiad cyntaf am 10:00. Unwaith eto, mae'r broses hon bellach wedi'i digideiddio.
Wrth i fy ngwybodaeth am y System Cyfiawnder Troseddol dyfu, des i'n fwy hyderus gan deimlo fy mod i'n gwneud gwahaniaeth. Roeddwn i wrth fy modd yn dod i mewn i'r gwaith bob dydd, doeddwn i erioed wedi cael y teimlad hwnnw mewn swydd o'r blaen ac roeddwn i'n gwybod y byddwn i bob amser yn aros gyda BTP. Fy rôl nesaf oedd goruchwylio'r Gweithredwyr PNC a'r Swyddog Gwarant, roeddwn i wedi symud i fyny i'r rôl hon o fewn oddeutu 18 mis i ddechrau gyda BTP. Roedd yn gyfle mor wych. Er mwyn fy nghefnogi, ces i hyfforddiant rheoli ac arwain a oedd yn hynod ddefnyddiol ac a helpodd fy hyder i dyfu. Yna symudais i'r rôl nesaf i fyny a dod yn ail reolwr llinell i oddeutu 30 o bobl. Yna fe wnes i gyfnod o chwe mis yn cwmpasu cyfnod o salwch yn y rôl nesaf. Roeddwn i'n gyfrifol am lawer o bobl ac roedd y gefnogaeth a gefais gan yr Heddlu'n wych, fe helpodd fi nid yn unig i ddatblygu fy hun ond hefyd i ddatblygu pobl o'm cwmpas.
Yna yn 2011 roedd cyfle i arwain Prosiect Lladron Pocedi gyda’r Met a Transport for London. Y briff oedd lleihau troseddau lladron pocedi ar bob dull o deithio yn Llundain 10% erbyn y Gemau Olympaidd. Roedd hon yn rôl mor wych a lle y ffynnais yn llwyr, roedd gennyf dîm o swyddogion heddlu yn gweithio i mi ar y prosiect, a enwais yn Brosiect Spiderweb oherwydd yn wreiddiol roedd 8 llinyn gwahanol a fyddai gyda'i gilydd yn cael effaith ar leihau troseddau gan ladron pocedi. Dyma’r rôl lle cefais ymreolaeth lawn am y tro cyntaf, mater i mi oedd rheoli ac arwain ac yna adrodd i’m rheolwr llinell sef y Comander Rhanbarthol. Roedd ei ymddiriedaeth ynof i ac yn fy ngalluoedd unwaith eto wedi fy helpu i ddatblygu a thyfu, roedd adegau pan fyddwn i'n cael syndrom y ffugiwr ond roeddwn i mor brysur, roedd rhaid i mi roi hynny o'r neilltu a bwrw ymlaen â'r briff. Digon yw dweud, roedd y prosiect yn llwyddiant a llwyddwyd i leihau troseddau gan ladron pocedi o 10.5%, gwellwyd cyfraddau euogfarnu gyda dedfrydau uwch i'r rhai sy'n troseddu ar y rheilffordd. Roedd y prosiect hwn yn un o’m llwyddiannau mwyaf balch, cefais hefyd ddarn arian gan David Cameron am fy nghyfraniad i’r Gemau Olympaidd, er na wnes i gwrdd ag ef yn bersonol.
Ar ôl y Gemau Olympaidd symudais i'r Adran Dechnoleg, fy mriff oedd rheoli'r Rheolwyr a dod â threfn a chyfundrefn perfformio i mewn. Roedd hon yn rôl heriol, gan fy mod yn rheoli 8 o bobl a oedd i gyd ar raddau uwch na mi, felly cymerodd gryn amser isetlo i mewn a'u hennill nhw drosodd, yn arbennig gan nad oeddwn i'n 'techie' a doedd dim cymwysterau TG gyda fi. Ar yr adeg hon fe wnes i weithio'n galed iawn ar hunanddatblygiad, ymgymerais â nifer o ardystiadau ITIL, i brofi i bawb, gan gynnwys fy hun, bod gennyf hawl i fod yno. Ymgymerais hefyd â Diploma Uwch CMI Lefel 5 mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth a chredaf fod y cwrs hwn wedi cael yr effaith fwyaf arna i'n broffesiynol. Dysgais gymaint am arweinyddiaeth, rheolaeth a minnau. Fe wnaeth y cwrs hwn fy mharatoi a rhoi'r sgiliau angenrheidiol i mi ar gyfer fy holl rolau dilynol. Y rôl nesaf a gyflawnais oedd dyrchafiad mawr i Bennaeth Rheoli Gwasanaeth, gan osod y strategaeth, rheoli perfformiad ac arwain y ddesg gwasanaeth a thimau defnyddwyr terfynol, arhosais yn y rôl hon tan 2018.
Daeth rôl dros dro ar gael ar gyfer Pennaeth Cyfiawnder, roedd yn secondiad o 12 mis ac roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gwneud cais i weld beth fyddai'n digwydd. Y peth gwaethaf a allai ddigwydd fyddai y byddwn i'n cael mwy o brofiad cyfweliad ac adborth gan y panel, y peth gorau fyddai y gallwn i gael y dyrchafiad. Diolch byth roeddwn i'n llwyddiannus, er na allwn i ei gredu, doeddwn i ddim erioed wedi rhedeg adran gyfan o'r blaen, a doeddwn i ddim wedi gweithio ym maes Cyfiawnder ers amser maith. Dyma lle roedd syndrom i ffugiwr wedi fy nharo i’n fawr, roeddwn i'n arwain tîm o uwch reolwyr a oedd yn adnabod y System Cyfiawnder Troseddol yn fanylach na mi. Roedd yn gyfnod pontio anodd oherwydd es i o faes lle roeddwn i'n gwybod popeth i faes lle roedd yn rhaid i mi ddibynnu ar fy nhimau a byddai'n rhaid i mi ymddiried eu bod yn gwybod beth oeddent yn ei wneud a'u bod yn ei wneud yn gywir. Mae’n debygol ei bod wedi cymryd oddeutu 3 mis i ymgartrefu a chael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth, roeddwn i’n hynod o ffodus i fod wedi cael Uwch Dîm Arwain mewn Cyfiawnder a oedd mor gefnogol, roedden nhw’n hollol wych.
Dim ond am 12 mis oeddwn i i fod yn y rôl ond erbyn diwedd y symudiad dros dro, roeddwn i wedi bod yno ers 3 blynedd. Ar ôl y 12 mis cyntaf, gofynnodd fy rheolwr i mi hefyd gymryd cyfrifoldeb am y Ganolfan Cyswllt Cyntaf ac Ystafell Reoli'r Llu. Unwaith eto, roeddwn i'n nerfus iawn gan nad oeddwn i'n gwybod llawer am y timau hynny a'u swyddogaethau. O fewn y 6 mis nesaf gofynnwyd i mi a allwn i hefyd dderbyn yr Adran TCC. Felly ymhen ychydig flynyddoedd roeddwn i wedi mynd o redeg un adran i 3 adran hollbwysig. Mae'n debygol mai'r amser anoddaf yn fy ngyrfa oedd pan ddigwyddodd covid, yn arbennig gan fy mod i'n gyfrifol am 3 o adrannau hollbwysig y llu. Drwy gydol yr amser hwn roedd rhaid i mi roi cynlluniau pandemig ar waith, a newid patrymau sifft i leihau'r tebygolrwydd y byddai'r holl staff yn dod i lawr gyda covid ar yr un pryd. Yn yr un modd gan ein bod yn llu cenedlaethol sy'n gweithredu dros 3 gwlad wahanol, roedd rhaid i ni reoli pob un newid yn y rheoliadau ar gyfer pob un o'r gwledydd hynny. Roedd y ddarpariaeth dechnoleg ar y pryd yn eithaf gwael, roedd y caledwedd yn hen, roedd yr apiau roedd angen i ni eu defnyddio'n araf ac ychydig iawn o liniaduron oedd ar gael i gynorthwyo pobl i weithio gartref, felly roedd yn dipyn o rwystr ac yn her arall i geisio ei goresgyn. Roedd mor brysur a thrwy gydol yr amser hwn dysgais sut i fod yn fwy gwydn, roedd rhaid i mi fod yn gyfrifol am sefyllfaoedd, aros yn ddigynnwrf ac arwain y ffordd. Allwn i ddim fod wedi'i wneud heb fy Uwch Dîm Arwain, ni fu gwaith tîm a chydweithio erioed mor bwysig.
Yn olaf, yn 2021 gwnes i gais am rôl Pennaeth Technoleg, roeddwn i wedi bod mor feirniadol am dechnoleg y llu nes i mi deimlo bod rhaid i mi geisio gwneud rhywbeth yn ei gylch. Roeddwn i'n llwyddiannus a'r peth cyntaf a gyflawnais oedd prosiect Cyfrifiadura Defnyddiwr Terfynol, gan ddisodli'r holl hen fyrddau gwaith/gliniaduron ar draws y llu. Pan ddechreuais yn yr adran roedd ein harolwg o bawb ar gyfer Technoleg yn 77% negyddol ond ar ôl y flwyddyn gyntaf, aeth i 88% yn gadarnhaol, sef un arall o fy adegau mwyaf balch yn ôl pob tebyg, a derbyniodd yr adran gyfan Ganmoliaeth gan y Prif Gwnstabl mewn gwirionedd.
Mae pob unigolyn yn y llu yn cael effaith mor gadarnhaol ar eraill trwy'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Mae BTP yn lle gwych i weithio, rydych chi'n cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen i'ch helpu i ddatblygu, gallwch chi ddod â'ch gwir hunan i'r gwaith, mae'n gymuned mor brydferth a fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth. Rwyf wedi treulio'r 18.5 mlynedd diwethaf yn y sefydliad hwn, rwyf wedi gwthio fy hun ac wedi mynd o nerth i nerth. Rwy'n ddiolchgar am yr holl gyfleoedd y mae BTP wedi'u rhoi i mi, pan ddechreuais i fel Gweithredwr PNC gyntaf, feddyliais i ddim erioed y byddwn i'n Bennaeth Technoleg.

Categori: Police Staff