Close

Diogelu pob taith

PCSO Paige Gamblin

12/07/2024

Roeddwn i'n paratoi ar gyfer fy Lefel A, ddim yn siŵr am y camau nesaf na lle roeddwn i am fynd gyda fy ngyrfa. Doeddwn i ddim am fynd i'r brifysgol na chael swydd ddesg 9 i 5, nid fi oedd hynny.

Roeddwn i’n bendant am helpu pobl a bod yn rhan o'r gymuned ond doeddwn i ddim yn gwybod yn union beth roeddwn i’n chwilio amdano. Felly es i i ffair gyrfaoedd a daeth popeth i'w le pan ges i siarad â chwnstabl heddlu ar stondin BTP a sylweddolais fod ymuno fel PCSO yn ffit perffaith.

 

Fe wnes i gofrestru fy manylion trwy'r ap recriwtio BTP a ches i ddiweddariadau rheolaidd am y broses ymgeisio. Fe ges i gynnig y swydd ar fy mhenblwydd yn 18 ym mis Mai, a derbyniais fy nghanlyniadau Lefel A ym mis Awst yn ystod fy hyfforddiant.

 

Nawr rwyf wedi fy lleoli yng ngorsaf Paddington yn Llundain ac rwy'n caru fy swydd. Rwy’n rhan o dîm gwych, mae gennym i gyd gryfderau gwahanol ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu rheilffordd ddiogel a dibynadwy i bawb.

 

Roedd yr hyfforddiant yn wych, ac rwyf wedi dysgu cymaint ers bod allan ar batrôl, yn delio â phobl ac yn cynghori teithwyr am gadw’n ddiogel ar y rheilffordd. Rydym yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi dioddefwyr trais a throseddau a chael yr help sydd ei angen arnynt.

Mewn un digwyddiad, fe wnes i dreulio amser hir gyda dioddefwraig trais domestig, gan ennill ei hymddiriedaeth a dweud wrthi am y cymorth sydd ar gael; rydym wedi cael diweddariadau ers hynny ac mae’n dda gwybod ei bod hi a’i phlentyn bellach wedi’u diogelu. Dyma pam ymunais â BTP. Mae’n rhoi boddhad i ddefnyddio fy sgiliau mewn ffordd gadarnhaol, gan gysylltu â phobl fel eu bod yn teimlo y gallant ymddiried ynoch chi.

Fel PCSOs, rydym allan yno bob dydd yn plismona’r rheilffordd ac yn gwneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel. Mae'n swydd wych'.

 

Oes gennych ddiddordeb mewn gweld a allai rôl PCSO fod yn addas i chi?

 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddysgu rhagor yma.  

Categori: PCSO