Fel Arweinydd Dyrchafiadau Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, mae gennyf sedd rheng flaen i un o’r teithiau pwysicaf yng ngyrfa swyddog: y llwybr i ddyrchafiad. Mae fy rôl yn fy rhoi mewn cysylltiad uniongyrchol â swyddogion sy'n awyddus i gymryd mwy o gyfrifoldeb, camu i rolau arwain, a chyfrannu hyd yn oed yn fwy at gadw ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn ddiogel. Ond, er mor werth chweil yw’r swydd hon, mae hefyd yn dod â’i heriau.......a hoffwn i rannu ychydig am sut beth yw bod yn arweinydd ar gyfer y broses ddyrchafu yn y BTP
Pam fod y Broses Ddyrchafu o Bwys
Nid yw dyrchafiadau mewn unrhyw sefydliad yn ymwneud â symud pobl i fyny’r ysgol yn unig; mae’n ymwneud ag adeiladu dyfodol y sefydliad hwnnw. Mewn plismona, mae hyn yn arbennig o wir. Bydd pob swyddog rydyn ni'n ei ddyrchafu yn dylanwadu ar ein diwylliant, yn gyrru ein safonau, ac yn llunio'r ffordd rydyn ni'n mynd at y cyhoedd rydyn ni'n eu gwasanaethu. Mae hyn yn golygu nad yw ein proses ddyrchafu’n ymwneud â nodi cymhwysedd neu flynyddoedd o wasanaeth yn unig; mae’n ymwneud â sylwi ar botensial, meithrin arweinyddiaeth, a sicrhau ein bod yn adeiladu tîm amrywiol, galluog sy’n barod i wynebu heriau yfory.
Fel yr arweinydd, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod ein proses yn deg, yn dryloyw, ac yn adlewyrchu’r gwerthoedd rydyn ni'n eu cynnal. Rydw i am i bob swyddog wybod bod eu hymroddiad yn cael ei gydnabod a bod eu datblygiad gyrfa yn eu dwylo eu hunain—yn seiliedig ar deilyngdod a haeddiant.
Mynd i'r afael â Heriau yn y Broses Ddyrchafu
Fel unrhyw sefydliad, mae gan y BTP ei gymhlethdodau o ran dyrchafiadau. Mae rhai materion cyffredin rwy'n eu gweld yn cynnwys:
- Cydbwyso Cysondeb ag Unigoliaeth: Mae pob swyddog yn dod â chryfderau a phrofiadau unigryw, ac efallai na fydd y rôl gywir i un person yn addas ar gyfer un arall. Nid tasg fach yw cydbwyso anghenion unigol ag ymagwedd gyson sy’n deg i bawb. Rydyn ni eisiau proses sy'n nodi'r rhai sy'n barod i gamu i'r adwy heb orfodi pawb i mewn i fowld un ateb sy'n addas i bawb.
- Pwysau Disgwyliadau: Mae llawer o swyddogion yn teimlo pwysau aruthrol ynghylch dyrchafiadau, a all arwain at straen a hyd yn oed dicter os nad ydyn nhw'n llwyddiannus. Rwy'n ei weld fel rhan o'm rôl i helpu i newid y meddylfryd hwn. Dydy dyrchafiad ddim yn ymwneud â'r rheng nesaf yn unig - mae'n ymwneud â pharodrwydd, twf ac amseriad. Mae’n hanfodol darparu adborth a chymorth clir i’r rhai ar y llwybr, hyd yn oed os nad yw’r amseriad yn iawn eto.
- Tryloywder wrth Wneud Penderfyniadau: Rwy'n gwybod o sgyrsiau gyda swyddogion fod tryloywder yn bryder mawr. Mae llawer wedi mynegi rhwystredigaeth ynglŷn â theimlo eu bod “yn y tywyllwch” am yr hyn sydd ei angen i symud ymlaen, neu pam efallai nad ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r adborth hwn yn amhrisiadwy, gan ei fod yn tanlinellu'r angen i gyfathrebu ein safonau a'n disgwyliadau'n glir. Ni ddylai swyddogion byth deimlo eu bod yn mynd trwy broses ddyrchafu heb wybod beth a ddisgwylir ganddyn nhw.
Pwysigrwydd Cydnabod Dawn a Photensial
Un o freintiau mwyaf fy swydd yw gweld potensial mewn swyddogion nad ydyn nhw efallai'n ei weld ynddyn nhw eu hunain eto. Mae gwaith yr heddlu yn galw am lefel uchel o wytnwch, meddwl cyflym ac empathi. Nid yw'r rhinweddau hyn bob amser yn ymddangos ar PDR (adolygiad perfformiad), ond dyma'r union beth sydd ei angen arnom yn ein harweinwyr. Rhan o’m cenhadaeth yw gweld y rhinweddau hyn a sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod a’u meithrin.
Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n Tîm Talent i wneud yn siŵr bod hwn yn ddull cyson hefyd. Mae yna swyddogion sy'n gallu, gyda’r arweiniad cywir, ddod yn rhai o’r arweinwyr mwyaf effeithiol ac uchel eu parch yn ein llu, ac rydw i am fod yn siŵr ein bod yn rhoi pob cyfle iddyn nhw gyrraedd y potensial hwnnw.
Meithrin Ymddiriedaeth yn y Broses
Rwy’n ymwybodol bod lle i wella o ran sut rydyn ni'n cyfathrebu ac yn rheoli disgwyliadau. Mae prosesau dyrchafu yn aml yn llawn llawer o emosiwn, a fy nghyfrifoldeb i yw helpu mewn unrhyw ffordd y gallaf. Mae swyddogion yn gwybod ble maen nhw'n sefyll a beth a ddisgwylir os ydyn nhw am symud ymlaen. Rydw i am sicrhau bod pob swyddog yn teimlo bod eu taith yn cael ei chefnogi.
Edrych Ymlaen
Mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o ddyrchafiadau yn BTP. Wrth i'n llu esblygu i wynebu heriau newydd, felly hefyd mae ein hymagwedd at arweinyddiaeth. Rydyn ni’n rhoi mwy o ffocws nag erioed ar amrywiaeth, cynhwysiant, a gwneud yn siŵr bod ein harweinwyr yn wirioneddol gynrychioliadol o’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni hefyd yn addasu i’r newidiadau mewn plismona ei hun, o ddatblygiadau technolegol i ddisgwyliadau esblygol gan y cyhoedd a gwella ymddiriedaeth a hyder ynom.
Rydw i wedi ymrwymo i adeiladu proses sy’n adlewyrchu’r gorau o BTP—profiad teg, cefnogol a grymusol sy’n cydnabod talent ac yn gwobrwyo ymroddiad. I unrhyw swyddog sy’n darllen hwn sy’n ystyried cymryd y cam nesaf: rydw i am i chi wybod ein bod ni yma i’ch cefnogi ar y daith honno, a bod eich twf yn flaenoriaeth i ni ac rydyn ni'n malio.
Meddyliau Terfynol
Mae bod yn Arweinydd Dyrchafdiadau yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn heriol ac yn rhoi boddhad mawr. Bob dydd, rwy’n cael y fraint o helpu swyddogion ymroddedigi lunio eu dyfodol ac, yn eu tro, llunio dyfodol ein llu. Mae’n rôl sy’n galw am empathi, amynedd, ac ymrwymiad clir i degwch, ac rwy’n ddiolchgar am yr ymddiriedaeth a roddwyd ynof i’w chyflawni.
Dydy dyrchafiadau ddim yn ymwneud â chyrraedd y rheng nesaf yn unig............ mae'n ymwneud â dod yn fath o arweinydd a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae hynny'n gyfrifoldeb rydyn ni i gyd yn ei rannu, ac mae'n un rydw i'n falch o helpu eraill i'w gyflawni.
Cliciwch yma am ragor ar ein rolau staff heddlu..