Close

Diogelu pob taith

Timau arbenigol

Y rolau

O'n Huned Cŵn yr Heddlu sy'n tracio unigolion dan amheuaeth ac yn casglu tystiolaeth o safleoedd troseddau i'n Hadran Galluoedd Arbenigol a'n swyddogion Cyswllt â Theuluoedd, mae ein timau arbenigol niferus yn rhoi'r asedau i ni i ddiogelu pob taith ym mhob ffordd.

Pan fydd gennym gyfleoedd i swyddogion profiadol, dim ond unigolion fydd wedi cwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus y byddwn yn eu hystyried. Rydym yn edrych am broffesiynoldeb, penderfyniad ac agwedd gadarnhaol ac yn gyfnewid am hyn gallwch ddisgwyl amgylchedd gwaith cyffrous ac amrywiol unigryw, lle y bydd pob diwrnod yn wahanol ac yn heriol. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith y byddwn yn rhoi cyfleoedd a chymorth a'r gydnabyddiaeth rydych yn ei haeddu i chi.

 

Galluoedd Arbenigol

Mae Galluoedd Arbenigol yn cynnwys y timau amlddisgyblaethol canlynol, a all leoli swyddogion ym mhob rhan o ardal yr Heddlu mewn digwyddiadau proffil uchel ar raddfa genedlaethol, er mwyn helpu cyflogeion lleol i ddelio â digwyddiadau ar y Rhwydwaith Rheilffyrdd sy'n effeithio ar deithwyr a busnesau fel ei gilydd:

 

Uned Cŵn yr Heddlu

Mae cŵn yr heddlu yn chwarae rôl ategol hanfodol i leihau troseddau ledled y DU. Maent wedi'u hyfforddi i dracio unigolion dan amheuaeth o safleoedd troseddau, rhedeg ar ôl troseddwyr a'u dal, chwilio am eiddo ar safleoedd troseddau neu'n agos iddynt, chwilio am bobl sydd ar goll a chefnogi ein Timau Cerbydau Ymateb Arfog tra hyfforddedig gyda'u Cŵn Cymorth Arfau Tanio. Gallant hefyd ganfod ffrwydron, cyffuriau, arian parod ac arfau tanio.

Mae Uned Cŵn yr Heddlu wedi'i rhannu'n dair is-adran, sef:

  • Adran Cŵn Diben Cyffredinol, sy'n rhoi cymorth i Dimau Trefn Gyhoeddus ac Arfau Tanio
  • Cŵn Heddlu Cyrion Llundain
  • Adran Cŵn Chwilio am Ffrwydron

 

Gallu Plismona Arfog

Rydym yn gweithredu ein Gallu Plismona Arfog ein hunain. Caiff lleoliadau allweddol ym mhob rhan o'r Rhwydwaith eu patrolio'n rheolaidd gan ein swyddogion Arfau Tanio Awdurdodedig tra hyfforddedig. Maent wedi'u hyfforddi i safonau cydnabyddedig sydd wedi'u hachredu'n genedlaethol a gallant gefnogi cyflogeion yn Heddluoedd y Swyddfa Gartref ledled y wlad pan fo angen.

Mae diogelwch y cyhoedd a staff rheilffyrdd o'r pwys pennaf ac mae'r swyddogion hyn yn rhan o'n Galluoedd Arbenigol ehangach.  Maent yn cynnal patrolau gwelededd uchel gan roi tawelwch meddwl a darparu gallu ymateb a phresenoldeb gweladwy er mwyn atal terfysgaeth a throseddoldeb arfog ar y rheilffordd.

 

Yr Adran Symudiadau Arbennig

Prif rôl yr Adran Symudiadau Arbennig yw darparu cymorth plismona i'r Trên Brenhinol, pwysigion a symudiadau milwrol strategol ar y rheilffyrdd. Mae'n gweithio mewn partneriaeth â Gweision y Frenhines, Grŵp Amddiffyn y Teulu Brenhinol ac Arbenigol yr Heddlu Metropolitanaidd, Heddluoedd eraill a'r diwydiant rheilffyrdd er mwyn hwyluso'r symudiadau hyn.  Mae'n sicrhau eu bod yn digwydd yn ddi-dor ac yn ddiogel gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar y rhwydwaith rheilffyrdd ehangach.

 

Yr Uned Ymateb Arbenigol

Mae'r Uned Ymateb Arbenigol yn Swyddogion yr Heddlu yn gyntaf. Mae'r uned yn cefnogi eu cyflogeion yn yr Adran drwy ymateb i ddigwyddiadau eraill ar y rheilffordd, gan gynnwys achosion o ladrata a dwyn a marwolaethau. Fodd bynnag, mae eu hyfforddiant a'u sgiliau ychwanegol yn golygu y gallant ymateb i ddigwyddiadau penodol pan fo angen.

Maent yn ymateb i adroddiadau am eitemau sydd wedi'u gadael ar y rheilffordd heb neb i ofalu amdanynt. Maent yn asesu pecynnau, bagiau a sylweddau amheus megis arogleuon anarferol, powdrau, hylifau a chemegion. Mae eu sgiliau asesu yn eu galluogi i ddileu peryglon posibl a lleihau oedi a tharfu diangen. Ar y llaw arall, gall eu gwaith dadansoddi arbenigol uwchgyfeirio digwyddiadau ynghynt ac yn fwy diogel, gan leihau'r perygl i deithwyr a staff rheilffyrdd, os bydd angen.

Uned Arbenigol, Cyfarpar Arbenigol

Mae ein SRU yn unigryw o fewn maes plismona ym Mhrydain oherwydd y sbectrwm eang o ddigwyddiadau y maent yn ymateb iddynt.

Maent yn defnyddio peiriannau pelydr-X 3D symudol i archwilio eitemau heb oruchwyliaeth. Mewn achos annhebygol o ddigwyddiad cemegol, mae swyddogion SRU yn gwisgo amrywiaeth o PPE gan gynnwys siwtiau tynn nwy sy'n gwrthsefyll cemegolion ac yn defnyddio offer arbenigol i ddadansoddi'r atmosffer. Mae'r offer arbenigol hwn wedi'i gynllunio i ganfod, nodi a monitro a helpu ein swyddogion i sefydlu beth yw'r sylwedd ac a yw'n fygythiad ai peidio.

 

Prosiect Servator

Caiff ein timau tra hyfforddedig eu lleoli mewn lifrai a dillad plaen ar safleoedd allweddol ledled y wlad gan weithio i gyflawni nodau ac amcanion prosiect cenedlaethol Servator. Maent yn fedrus wrth nodi'r rhai nad ydynt yn edrych yn gartrefol ac a all fod yn ceisio osgoi cyswllt â'r heddlu neu staff y rheilffordd. Gall ein Swyddogion Effeithiau sy'n Tarfu (DEOs) weithio gyda phob un o'n timau arbenigol ac maent wedi bod yn adnoddau allweddol yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â llinellau cyffuriau, gan gadw teithwyr a staff yn ddiogel ac amddiffyn unigolion sy'n agored i niwed.

 

Ailymunwyr a Throsglwyddeion

Pan fydd gennym gyfleoedd i swyddogion profiadol, dim ond unigolion sydd wedi cwblhau eu cyfnod prawf o ddwy flynedd y byddwn yn eu hystyried.

Os byddwch yn gwneud cais fel ailymunwr, rhaid i chi fod wedi gwasanaethu'n flaenorol fel aelod o Heddlu'r Swyddfa Gartref (neu'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig), ar ôl cwblhau cyfnod o wasanaeth prawf fel Cwnstabl ac wedi ymddiswyddo neu ymddeol o'r Heddlu hwnnw.

Os byddwch yn gwneud cais fel trosglwyddai, rhaid i chi fod yn gwasanaethu yn un o Heddluoedd y Swyddfa Gartref mewn swydd barhaol fel Cwnstabl ar hyn o bryd, ar ôl cwblhau'r cyfnod gwasanaeth prawf llawn.

Yn gyfnewid am ymuno â ni, gallwch ddisgwyl amgylchedd gwaith cyffrous ac amrywiol unigryw, lle y bydd pob diwrnod yn wahanol ac yn heriol.

Nodwch nad ydym yn derbyn ceisiadau na CVs a anfonir ar hap. Dim ond am gyfleoedd a hysbysebwyd y gallwch wneud cais.

 

Camau cadarnhaol

Yn BTP rydym yn warcheidwaid balch o'r rheilffordd ac mae'n hanfodol ein bod yn cynrychioli'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu a'u diogelu. Fel 'Un BTP' ar draws y DU, rydym yn gwybod bod amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn ein helpu i wella ein penderfyniadau, meithrin creadigrwydd a sbarduno arloesedd fel y gall ein holl bobl ffynnu.

Mae ein swyddi gwag yn agored i bawb ac mae pob apwyntiad yn cael ei wneud yn seiliedig ar deilyngdod. Fel y gallwn ddod yn fwy amrywiol rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl sydd ag anabledd, y rhai sy'n niwroamrywiol a phobl sy'n nodi eu bod yn LGBTQI+. Os oes gennych chi'r sgiliau, y profiad a'r gwerthoedd yr ydym ni yma yn BTP yn ymfalchïo ynddynt yna byddem yn eich croesawu i ymgeisio.

I gael rhagor o wybodaeth am Gamau Cadarnhaol ewch i careers.btp.police.uk/about-us/positive-action/  neu anfon e-bost at y tîm ar PART-recruitment@btp.police.uk

 

Hyfforddiant

Pan fyddwch yn ailymuno â ni neu'n trosglwyddo i ni, bydd yn rhaid i chi ddilyn cwrs sefydlu a fydd yn para pythefnos a thri diwrnod yn ein canolfan hyfforddi yn Llundain. Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r holl hyfforddiant gorfodol ar gyfer Swyddogion yr Heddlu gan gynnwys Diogelwch Personol, Cymorth Cyntaf a Diogelwch ar y Trac.

Os bydd eich rôl newydd mewn tîm arbenigol, bydd eich adran yn darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen. Efallai y gofynnir i ailymunwyr gwblhau hyfforddiant ychwanegol os penderfynir, ar ôl i chi gael eich asesu, eich bod wedi bod i ffwrdd o faes plismona am gyfnod estynedig o amser ac nad ymdrinnir â'ch anghenion hyfforddiant yn ddigonol ar y cwrs sefydlu. Byddant bob amser yn cael eu hasesu fesul achos.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eich bod yn parhau i ddatblygu a symud ymlaen yn eich gyrfa a byddwch yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnoch. Yn wir, byddwch yn dilyn gwahanol gyrsiau mewnol ac allanol er mwyn i chi allu datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud i fyny drwy'r rhengoedd.

Y broses gwneud cais

1

Bydd gofyn i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein, sy'n cynnwys ateb cwestiwn cais a chwblhau Prawf Barnu Sefyllfaol (SJT). Ar ôl ei gyflwyno, bydd eich cais yn cael ei sgrinio i sicrhau eich bod yn bodloni'r gofynion cymhwysedd gofynnol. Os ydych yn bodloni'r gofynion hyn, yna bydd y wybodaeth a ddarparwyd yn eich ffurflen gais yn cael ei hasesu.


Mae safon uchel o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn ofyniad. Os yw eich ffurflen gais yn cynnwys nifer afresymol o wallau sillafu neu ramadegol, yna bydd eich cais yn aflwyddiannus. Rydym yn chwilio am dystiolaeth o'r rhinweddau sydd gennych i'ch galluogi i gyflawni eich rôl a'r rhesymeg dros fod eisiau ymuno â BTP.


Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael gwahoddiad i sefyll profion gallu ar-lein.

ico-tab
2

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gwblhau profion gallu ar-lein. Os oes gennych y cymwysterau cymwys a nodir yn y ffurflen gais ac wedi lanlwytho'r tystysgrifau gofynnol fel tystiolaeth, ni fydd angen i chi sefyll y profion gallu ar-lein a byddwch yn symud ymlaen yn uniongyrchol i'r cam nesaf: yr asesiad fideo. Nodwch eich bod yn gymwys i wneud cais p'un a oes gennych gymwysterau ffurfiol ai peidio.

ico-tab
3

Bydd gofyn i bob ymgeisydd gwblhau asesiad ysgrifenedig yn seiliedig ar arsylwi. Mae hyn yn cynnwys gwylio clip fideo byr a darparu gwybodaeth ffeithiol yn seiliedig ar yr hyn a welwch.

ico-tab
4

Ar ôl i chi gwblhau'r profion ar-lein a'r asesiad fideo yn llwyddiannus, cewch wahoddiad i fynychu ein canolfan asesu. Bydd y diwrnod yn cynnwys:

  • Cyflwyniad a Chyfweliad – Cyflwyniad 10 munud ac yna cyfweliad (gellir dod o hyd i fanylion llawn yn y ddogfen sydd ynghlwm wrth yr e-bost hwn).
  • Prawf Ffitrwydd – Prawf bip i lefel 5.4, ynghyd ag ymarfer cynhesu.
  • Fetio Biometrig – Swab ceg ar gyfer DNA ac olion bysedd i gynnal gwiriadau yn erbyn cronfeydd data cenedlaethol.
  • Ffitio Iwnifform – Bydd mesuriadau’n cael eu cymryd ar gyfer eich gwisg i baratoi ar gyfer eich dyddiad cychwyn.

 

Rydym yn chwilio am dystiolaeth o'r rhinweddau sydd eu hangen i gyflawni'r rôl. Bydd eich ymatebion yn cael eu hasesu yn erbyn y Fframwaith Cymhwysedd a Gwerthoedd (CVF)

Ceir rhagor o wybodaeth am y CVF yma.

ico-tab
5

Ar ôl i chi dderbyn cynnig amodol, byddwch yn aros yn y gronfa recriwtio nes bod derbyniad wedi'i nodi ar eich cyfer. Mae'r cynnig hwn yn amodol ar basio gwiriadau cyn cyflogaeth yn llwyddiannus, sy'n cynnwys gwirio cefndir, asesiad meddygol, a gwiriadau cyfeiriadau. Anfonir y ffurflenni perthnasol yn uniongyrchol atoch pan fyddwn yn barod i fwrw ymlaen â'r camau hyn.

ico-tab
6

Rydym yn cynnal gweminarau byw rheolaidd o'r enw'Darganfyddwch Eich Dyfodol mewn Plismona: Ymunwch â'n Sesiynau Gwybodaeth a Holi ac Ateb’. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle gwych i gwrdd â'r tîm recriwtio a gofyn unrhyw gwestiynau am y broses recriwtio, y rolau sydd ar gael, neu fywyd fel rhan o'r tîm. Gellir dod o hyd i'r holl sesiynau sydd ar ddod ar dudalen swyddi gwag BTP: cliciwch yma

ico-tab

Cymhwystra

Cyn i chi benderfynu gwneud cais, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein meini prawf cymhwystra.

Fetio

Mae'n bwysig bod ein cyflogeion yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd a wasanaethir ganddynt a bod y cyhoedd yn ymddiried yn llwyr ynddynt. Dyna pam mae pob darpar gyflogai ym mynd drwy wiriad fetio trylwyr fel rhan o'r broses gwneud cais.

Hawl i weithio yn y DU

Er mwyn ymuno â ni, rhaid i chi feddu ar yr hawl barhaol i fyw a gweithio yn y DU heb unrhyw gyfyngiadau.

Preswylio

Dylai pob ymgeisydd fod wedi bod yn byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf o leiaf. Mae hyn yn ofynnol er mwyn sicrhau y gallwn gynnal gwiriadau fetio digonol ac mae hyn yn gymwys i bob ymgeisydd, ni waeth beth fo'i genedligrwydd.

Oedran

Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i ddechrau gweithio gyda ni. 

Euogfarnau a rhybuddiadau

Ni fyddwch yn gymwys i wneud cais os byddwch wedi cael dedfryd o garchar.

Rhaid datgan unrhyw rybuddiad ac euogfarn arall ac unrhyw ymwneud arall â'r heddlu yn ystod y broses fetio. Ni fydd hyn o reidrwydd yn arwain at dynnu eich cais yn ôl, gan y bydd pob cais yn cael ei asesu fesul achos.

Sefyllfa ariannol

Fel rhan o'ch gwiriadau, byddwn yn cadarnhau eich sefyllfa ariannol. Mae cyflogeion mewn sefyllfa freintiedig a gallant weld amrywiaeth o wybodaeth sensitif a gwerthfawr. Mae hyn yn golygu y gallent fod yn wynebu mwy o risg o fod yn agored i lygredd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn rhydd rhag pwysau dyledion heb eu talu neu rwymedigaethau heb eu clirio a gallu rheoli benthyciadau a dyledion yn synhwyrol.

Tatŵs

Ystyrir tatŵs fesul achos os:

  • Os ydynt ar eich wyneb
  • Os ydynt uwchlaw llinell y coler ar ran flaen neu ochr eich gwddf,
  • Os ydynt yn fawr ar eich gwar ac na ellir eu cuddio'n hawdd
  • Pe gellid ystyried eu bod yn dramgwyddus mewn unrhyw ffordd, waeth ble maent ar y corff.

Ystyrir tatŵs os:

  • Caniateir tatŵs gweladwy ar rannau eraill o'r corff gan gynnwys dwylo, breichiau, coesau, traed ac ar y gwar (ar yr amod nad yw'r tatŵ yn amlwg a'i fod y tu ôl i'r llabed).
  • Ystyrir bod tatŵs ar y glust, nad ydynt yn rhai amlwg, yn dderbyniol hefyd.
  • Rhoddir ystyriaeth i datŵs ar yr wyneb yr oedd eu hangen yn dilyn triniaethau meddygol neu ar gyfer triniaethau cosmetig e.e. aeliau.

Dylech gysylltu â'r tîm recriwtio os na fyddwch yn siŵr am eich tatŵs a byddwn yn rhoi cyngor i chi lle y bo'n bosibl.

Gallwch wneud hyn drwy anfon neges e-bost atom.

Cysylltwch â ni arrow
Cysylltiadau amhriodol

Rhaid i chi allu cyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn ddiduedd ac yn effeithiol. Mae hyn yn golygu os ydych yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp, cymdeithas neu unigolyn a allai yn rhesymol fod yn gyfystyr â gwrthdaro buddiannau ar hyn o bryd neu os ydych erioed wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp o'r fath, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais.

Lluoedd Arfog EM

Oherwydd amserlenni ein proses recriwtio, dim ond os bydd gennych 12 mis neu lai o wasanaeth ar ôl cyn cael eich rhyddhau y caiff ceisiadau gan aelodau o'r lluoedd arfog eu derbyn. Bydd angen i chi anfon cadarnhad o'ch dyddiad rhyddhau disgwyliedig gyda'ch cais. (e.e. llythyr gan eich Prif swyddog).

Addysg a sgiliau

Os oes gennych chi gymwysterau Lefel 2 Mathemateg a Saesneg, o leiaf; yna nid oes rhaid i chi gwblhau'r profion a nodir isod; ond bydd angen i chi ddarparu'r tystysgrifau i'r tîm Recriwtio eu hadolygu. 

  • TGAU Gradd C/Lefel 4 neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg.
  • Sgiliau Gweithredol Lefel 2 mewn Rhifedd/Llythrennedd
  • Cymwysterau'r Alban a dderbynnir: SCQF Lefel 5, Canolradd 2 ar lefel 5 neu Radd Safonol (gyda chredyd) – wedi'u cyflawni ar y raddfa gywir mewn Mathemateg a Saesneg.

Rhaid amgáu copïau o dystysgrifau cymwysterau perthnasol trwy'r ddolen uchod. Ni dderbynnir cymwysterau mewn pynciau eraill, beth bynnag fo lefel y cymhwyster sydd gennych.

Os oes gennych Saesneg a Mathemateg ar lefel cymhwyster uwch bydd y rheini hefyd yn cael eu derbyn. Bydd gofyn i chi ddarparu ardystiad i ddangos bod y cymwysterau hynny wedi'u cyrraedd hyd at y safon ofynnol drwy'r ddolen uchod. Mae rhestr lawn o’r cymwysterau a dderbynnir ar gael yn y canllawiau Safonau Prentisiaethau ar gyfer Saesneg a Mathemateg ar GOV.UK. Dylech gyfeirio’n benodol at ‘Brentisiaethau Lefel 3’ sy’n ymdrin â’r gofynion ar gyfer prentisiaethau/diplomâu Lefel 3 ac uwch.

Buddiannau busnes

Bydd angen i chi ddatgan unrhyw fuddiant cyflogaeth neu fusnes arall sydd gennych ac y bwriadwch ei gynnal fel y gellir adolygu hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau gyda'r heddlu.

Fel arfer, ni fyddwch yn gymwys i gael eich penodi'n Swyddog Heddlu neu'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu os oes gennych unrhyw swydd neu gyflogaeth sy'n cynnwys hurio neu ennill, neu os ydych yn rhedeg unrhyw fusnes yn ogystal â bod yn Swyddog Heddlu neu'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.

Iechyd a Materion Meddygol

Efallai y bydd ein cyflogeion yn wynebu sefyllfaoedd a all fod yn llawn straen ac yn drawmatig ac a all, weithiau, arwain at wrthdaro corfforol. Mae ein staff yn gweithio oriau hir ar sifftiau sy'n cylchdroi ac, o ganlyniad, gall y rôl fod yn heriol yn gorfforol ac yn feddyliol. Felly, mae'n bwysig bod ein cyflogeion mewn iechyd da er mwyn iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau'n ddiogel.

Er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi llesiant ein cyflogeion, byddwn yn gofyn i chi ddarparu manylion perthnasol am eich iechyd a'ch hanes meddygol yn unol ag unrhyw gwestiynau y mae'n rhaid i ni eu gofyn yn ystod y broses gwneud cais.

Ymgeiswyr ag anableddau

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud addasiadau rhesymol lle y bo'n bosibl.

Chwilio ac ymgeisio am rôl Arbenigol neu rôl fel Trosglwyddai

Chwilio ein swyddi arrow