Once you’ve made the decision to join us and applied for the role you’re interested in, the application process begins. The stages you’ll have to go through depend on the type of role you’ve applied for.
The recruitment process to become a Police Officer can be fairly lengthy. We ensure you are updated at every stage of the process. However, it’s important you are aware the process can take a considerable amount of time before joining an intake.
Caiff eich cais ei sgrinio i ddechrau er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni'r gofynion cymhwystra sylfaenol. Ar ôl i chi basio'r prawf sgrinio hwn, caiff y wybodaeth rydych wedi'i darparu yn y cais ei hasesu.
Mae angen meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel er mwyn gweithio yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Os bydd eich ffurflen gais yn cynnwys nifer afresymol o wallau sillafu neu wallau gramadegol, bydd eich cais yn aflwyddiannus.
Rydym yn chwilio am dystiolaeth o'r rhinweddau sydd gennych a fydd yn eich galluogi i gyflawni'r rôl. Byddwn yn asesu eich ffurflen gais yn erbyn y Fframwaith Cymhwysedd a Gwerthoedd (CVF). Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i sefyll profion ar-lein a fydd yn ymdrin â mathemateg, y defnydd o eiriau a rhesymu geiriol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y CVF yma.
Ar ôl i chi gwblhau'r profion ar-lein yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i ddod i ganolfan asesu. Bydd y diwrnod yn cynnwys y canlynol:
Cymerir samplau hefyd (swab o'ch ceg ac olion bysedd) at ddibenion fetio biometrig.
Ar ôl i chi gael cynnig amodol, byddwch yn mynd drwy'r system fetio lawn. Bydd hyn yn cynnwys gwirio geirdaon cyflogaeth yn ogystal â'n proses fetio sylfaenol ein hunain. Cewch eich llythyr cynnig neu'ch contract ar ôl i'r gwiriadau diogelwch hyn gael eu cwblhau'n llwyddiannus.
Gofynnir i chi hefyd fynd i gael asesiad meddygol cynhwysfawr, a gynhelir gan feddyg neu nyrs gofrestredig. Mae'r asesiad meddygol yn drylwyr ac, ymhlith pethau eraill, caiff eich golwg a'ch clyw eu profi a chaiff pwysedd eich gwaed a màs eich corff eu mesur. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu p'un a oes gennych y lefel o iechyd sydd ei hangen ar gyfer y rôl. Hefyd, gofynnir i chi basio prawf cyffuriau ac alcohol.